Treth ar werthu eiddo
Os ydych yn gwerthu eiddo sy'n brif gartref ichi, fyddwch chi ddim yn gorfod talu treth arno - ar yr amod eich bod yn bodloni rhai amodau. Os ydych yn gwerthu eiddo nad yw'n brif gartref ichi, mae'n debyg y bydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf.
Treth ar werthu eich prif gartref
Does dim rhaid i chi dalu treth ar yr amod:
- eich bod wedi'i brynu, ac wedi gwario arno, yn bennaf i'w ddefnyddio fel eich cartref yn hytrach na gyda'r bwriad o wneud elw ar ei werthiant
- mai'r eiddo oedd eich unig gartref gydol y cyfnod yr oeddech yn berchen arno (gan anwybyddu'r tair blynedd diwethaf o berchnogaeth)
- eich bod wedi'i ddefnyddio fel eich cartref gydol yr amser yr oeddech yn berchen arno, ac nad oeddech, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi'i ddefnyddio at unrhyw bwrpas arall heblaw fel cartref i chi, eich teulu a dim mwy nag un lletywr
- nad yw'r ardd a'r tiroedd a werthwyd gyda'r eiddo yn fwy na 5,000 metr sgwâr (tua un erw a hanner) gan gynnwys safle'r eiddo
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a heb wahanu, dim ond un eiddo o'r fath y gallwch chi a'ch partner priod neu bartner sifil ei gael rhyngoch.
Hyd yn oed os na fodlonir yr holl amodau hyn, efallai fod gennych hawl i ostyngiad treth o hyd.
Treth ar eiddo nad yw'n brif gartref ichi
Fel arfer bydd gennych enillion trethadwy os yw eich eiddo'n werth mwy na'r hyn y taloch amdano pan fyddwch yn ei werthu neu'n cael gwared arno. Fodd bynnag, mae £10,600 cyntaf cyfanswm eich enillion trethadwy yn ddi-dreth am y flwyddyn dreth 2011-12.
Mae'n werth cofio'r canlynol:
- wrth gyfrifo'r enillion trethadwy, gallwch ddidynnu rhai o gostau prynu, gwerthu a gwella'r eiddo
- os ydych wedi gwneud colled ar yr eiddo, efallai y gallwch osod y golled yn erbyn enillion trethadwy eraill fydd gennych o bosibl
- os ydych yn byw gyda’ch gilydd gallwch drosglwyddo eiddo i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil heb orfod talu Treth Enillion Cyfalaf
- os byddwch yn ei roi neu'n ei werthu'n rhad i'ch plant neu i eraill, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf
Pa waith papur fydd yn rhaid ei gadw?
Mae Cyllid a Thollau EM yn argymell eich bod yn cadw'r wybodaeth a'r dogfennau canlynol mewn perthynas â'r eiddo:
- contractau ar gyfer prynu neu werthu, prydlesu neu gyfnewid yr eiddo
- unrhyw ddogfennau sy'n disgrifio eiddo yr ydych wedi'i gael ond nad oeddech wedi'i brynu eich hun: er enghraifft, rhodd neu etifeddiaeth
- manylion unrhyw eiddo yr ydych wedi'i roi i ffwrdd neu ei roi mewn ymddiriedolaeth
- copïau o unrhyw brisiadau a ystyriwyd wrth ichi gyfrifo'r enillion neu'r colledion
- biliau, anfonebau neu dystiolaeth arall o gofnodion talu megis datganiadau banc a bonion sieciau am gostau yr ydych yn eu hawlio ar gyfer prynu, gwella neu werthu'r eiddo
Doeth hefyd fyddai cadw gohebiaeth gyda phrynwyr neu werthwyr hyd at amser gwerthu'r eiddo.