Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofnodion y dylai landlordiaid eu cadw

Os ydych yn gosod eich eiddo preswyl, bydd yn rhaid i chi gadw cofnodion o'r rhent a gewch a'ch treuliau er mwyn gweithio allan yr elw y byddwch yn talu treth arno. Gallwch weithio allan eich elw trethadwy drwy dynnu eich treuliau a lwfansau penodol o'ch incwm rhent.

Pa gofnodion ariannol y mae angen i chi eu cadw?

Bydd angen i chi gadw'r un math o gofnodion ni waeth pa fath o fusnes gosod eiddo sydd gennych. P'un a yw'n gosod eiddo preswyl neu wyliau, yn y DU neu dramor, dylai'r cofnodion gynnwys manylion am eich:

  • incwm rhent
  • treuliau a ganiateir
  • costau 'cyfalaf'

Gweler mwy o wybodaeth yn yr adrannau isod. Er mwyn cefnogi eich cofnodion, dylech gadw llyfrau rhent, derbynebau, anfonebau a chyfriflenni banc.

Incwm rhent

Bydd angen i chi gadw cofnod o'r canlynol:

  • y rhent rydych yn ei godi ac yn ei gael
  • unrhyw wasanaethau y codir tâl amdanynt ar wahân - er enghraifft prydau, gwasanaeth golchi dillad, ac ati
  • y dyddiadau rydych yn rhentu pob eiddo

Treuliau a ganiateir

Dylai eich cofnodion gynnwys manylion eich holl gostau sy'n gysylltiedig â gosod neu reoli eich eiddo. Mae treuliau a ganiateir yn lleihau eich elw trethadwy. Maent yn cynnwys pob un o'r costau canlynol neu ran ohonynt:

  • ffioedd asiant gosod tai a chyfrifydd a ffioedd cyfreithiol
  • yswiriant adeiladau a chynnwys - dim ond rhan ohono os ydych yn gosod rhan o'r eiddo
  • llog ar fenthyciad eiddo
  • gwaith cynnal a chadw a thrwsio - nid gwelliannau
  • biliau cyfleustodau, fel nwy, dŵr a thrydan
  • rhent, rhent tir a thaliadau gwasanaeth
  • Treth Gyngor
  • hysbysebu
  • costau uniongyrchol eraill sy'n gysylltiedig â gosod yr eiddo, fel galwadau ffôn

Gwnewch yn siŵr y gallwch wahanu eich busnes a'ch treuliau personol.

Costau 'cyfalaf'

Gallwch leihau eich elw trethadwy drwy hawlio lwfansau ar gyfer cost dodrefn ac offer rydych yn eu darparu gyda'r eiddo. Gelwir y rhain yn lwfansau cyfalaf. Fodd bynnag, ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer offer i'w ddefnyddio mewn tŷ annedd. Ystyrir y rhan fwyaf o lety preswyl yn dŷ annedd. Mae rheolau gwahanol yn gymwys i osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu at ddibenion lwfansau cyfalaf. Gallwch weld rhagor o ganllawiau ar osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu drwy ddilyn y ddolen 'Mwy o gysylltiadau defnyddiol' ar waelod y dudalen hon.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer cost offer sy'n ymwneud yn fwy cyffredinol â'ch busnes gosod tai.

Bydd angen i chi gofnodi faint mae'r holl bethau hyn yn ei gostio a phryd y gwnaethoch eu harchebu a'u talu.

Er mwyn cefnogi eich cofnodion, dylech gadw llyfrau rhent, derbynebau, anfonebau a chyfriflenni banc. Gwnewch yn siŵr hefyd y gallwch wahanu eich treuliau busnes a'ch rhai personol.

Os byddwch yn cwblhau ffurflen Hunanasesu

Os yw cyfanswm eich incwm o eiddo yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth 2010-11 yn llai na £70,000 cyn treuliau, gallwch nodi eich treuliau fel un cyfanswm ar eich ffurflen dreth. Os yw'n £70,000 neu'n fwy, bydd angen i chi ddangos eich treuliau ar wahân.

Gall Cyllid a Thollau EM (CThEM) ofyn am gael gweld eich cofnodion unrhyw bryd. Felly cofiwch gadw'r wybodaeth fanwl hyd yn oed os yw eich incwm yn llai na £70,000.

Os na fyddwch yn cwblhau ffurflen Hunanasesu

Os ydych wedi eich cyflogi, neu os ydych yn cael pensiwn drwy Dalu wrth Ennill (TWE), gellir addasu eich cod treth er mwyn casglu'r dreth ar eich incwm eiddo bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'ch incwm trethadwy o eiddo fod yn llai na £2,500. Dylech gysylltu â CThEM a gofyn iddi anfon ffurflen P810 atoch er mwyn nodi eich incwm bob blwyddyn.

Fodd bynnag, bydd angen i chi gadw cofnodion o hyd oherwydd gall CThEM ofyn am gael gweld eich cofnodion i gadarnhau eich ffigurau.

Os yw eich incwm o rent yn £2,500 neu'n fwy, bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth.

Am faint o amser y mae angen i chi gadw'r cofnodion?

Bydd angen i chi gadw eich cofnodion am chwe blynedd ar ôl y flwyddyn dreth rydych yn gwneud cais ynddi - p'un a ydych yn cwblhau ffurflen treth ai peidio.

Os ydych yn cael rhent o dan y cynllun Rhentu Ystafell

Os ydych yn defnyddio'r cynllun Rhentu Ystafell, nid oes rhaid i chi gadw cofnod o'ch treuliau - ni allwch hawlio'r rhain o dan y cynllun. Os bydd eich rhent yn mynd dros yr uchafswm (£4,250), gallwch ddewis talu treth ar yr holl rent ar ôl tynnu eich treuliau yn lle hynny. Os ydych yn rhentu ystafell ar y cyd â rhywun arall, yr uchafswm fydd £2,125 yr un. Gall fod yn werth cadw cofnod o'ch incwm a'ch treuliau beth bynnag. Gallwch ddarllen mwy am fod yn rhan o'r cynllun yn 'Y cynllun Rhentu Ystafell'.

Cofnodion yn ymwneud â phrynu neu werthu eiddo sydd wedi'i osod

Os byddwch yn gwerthu neu'n gwaredu eiddo nad yw'n brif gartref i chi, a bod ei werth wedi cynyddu ers i chi ei gaffael, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Gall rhai o'ch costau eiddo gael eu didynnu wrth weithio allan eich elw, felly bydd angen cofnod arnoch o'r canlynol:

  • pryd y gwnaethoch ei brynu neu ei gaffael
  • pryd y gwnaethoch ei werthu neu ei waredu
  • y pris prynu a gwerthu
  • unrhyw gostau prynu a gwerthu, fel y Doll Stampiau a ffioedd cyfreithiol
  • costau a dyddiadau gwelliannau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael rhyddhad neu lwfansau eraill yn dibynnu ar faint o amser y buoch yn berchen ar yr eiddo a ph'un a oedd erioed yn brif gartref i chi.

Os oes gennych un lletywr, ni fydd yn effeithio ar eich hawl i gael rhyddhad pan fyddwch yn gwerthu eich prif gartref. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddo fyw fel rhan o'ch teulu. Os oes gennych fwy nag un lletywr, cewch eich trin fel rhywun sy'n gosod rhan o'ch cartref ac efallai y bydd angen i chi dalu rhywfaint o Dreth Enillion Cyfalaf.

Os cafodd yr eiddo ei ddefnyddio ar gyfer busnes gosod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu, mae rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf arbennig ar gael.

Cofnodion anariannol

Bydd angen i chi hefyd gadw cofnodion eraill i ddangos bod eich eiddo yn ddiogel i'w osod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU