Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Defnyddiwch yr adnoddau hyn gan y Gofrestrfa Tir i ddod o hyd i brisiau tai cyfartalog ar lefel ranbarthol a chenedlaethol, a gwybodaeth benodol (megis y perygl llifogydd) ynghylch eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r adnodd hwn yn eich galluogi i ddod o hyd i brisiau tai cyfartalog mewn unrhyw ardal yng Nghymru a Lloegr ar gyfer unrhyw ystod o fisoedd ers mis Ionawr 1995. Gallwch hefyd gymharu unrhyw ddwy ardal.
Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
Defnyddiwch yr adnodd ‘Chwilio am eiddo’ i gael gwybodaeth benodol am eiddo. Er enghraifft:
Bydd angen i chi gofrestru gyda’r Gofrestrfa Tir a chael cerdyn debyd neu gredyd i dalu’r ffi. Hefyd bydd angen i chi gael darn o feddalwedd sydd ar gael am ddim o’r enw Adobe Reader wedi’i osod ar eich cyfrifiadur. I gael gwybod mwy am Adobe Reader, gweler y ddolen 'Cymorth gyda ffeiliau PDF'.
Ni fydd y copïau y byddwch chi’n llwytho oddi ar y we yn ‘copïau swyddogol’ o’r gofrestr, felly ni allant gael eu defnyddio fel prawf mewn llys. I gael copïau swyddogol, gweler ‘Manylion ynghylch bod yn berchen ar eiddo neu ar dir’.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes