Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar rent o osod eiddo preswyl

Caiff gosod eiddo preswyl ei drin fel un busnes - hyd yn oed os ydych yn gosod mwy nag un eiddo. Os ydych yn gosod sawl eiddo, gallwch wrthbwyso colledion o un eiddo yn erbyn elw o un arall. Rydych yn talu treth ar unrhyw elw fel rhan o'ch incwm cyffredinol.

Beth sy'n cyfrif fel gosod eiddo preswyl?

Caiff eiddo a osodir gennych i bobl fyw ynddo fel cartref ei gyfrif fel 'gosod eiddo preswyl'. At ddibenion treth, caiff eiddo o'r fath ei drin yn wahanol i osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu.

Os ydych yn rhentu rhan o'ch cartref, gall hyn gyfrif fel gosod eiddo preswyl. Fodd bynnag, gallwch fanteisio ar y cynllun 'Rhentu Ystafell' yn lle hynny, lle na fydd gennych unrhyw dreth i'w thalu o bosibl ar yr incwm rhent a gewch.

Mae'r cynllun yn caniatáu i chi gael incwm di-dreth o hyd at £4,250 o osod ystafelloedd yn eich cartref.

Gweithio allan eich elw trethadwy o osod eiddo preswyl

Cam un

Gallwch weithio allan eich 'elw net' fel a ganlyn:

  • adio eich holl incwm rhent at ei gilydd
  • adio eich holl 'dreuliau a ganiateir' at ei gilydd
  • tynnu eich treuliau a ganiateir o'ch incwm

Os ydych yn gosod mwy nag un eiddo preswyl, dylech nodi'r holl incwm a'r ffigyrau treuliau gyda'i gilydd.

Cam dau

Er mwyn gweithio allan eich elw trethadwy, tynnwch unrhyw lwfansau y mae gennych hawl iddynt o'ch elw net:

Os ydych yn gosod eiddo wedi'i ddodrefnu, gallwch ddidynnu'r naill un neu'r llall o'r canlynol:

  • lwfans 'traul' - yn seiliedig ar ganran o'ch rhent
  • lwfans 'adnewyddu' - cost gosod eitemau newydd yn lle'r hen rai (ond dylech ddidynnu unrhyw arian a gewch drwy werthu'r hen eitem)

Ni allwch ddidynnu'r ddau lwfans. Hefyd, ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer offer i'w ddefnyddio mewn tŷ annedd. Ystyrir y rhan fwyaf o lety preswyl yn dŷ annedd. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu hawlio lwfansau 'cyfalaf' penodol ar gyfer cost offer sy'n ymwneud yn fwy cyffredinol â'ch busnes gosod tai. Cadarnhewch y manylion yn y dolenni isod.

Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich elw

Os yw eich elw yn llai na £2,500

Os ydych wedi eich cyflogi, neu os ydych yn talu treth ar bensiwn drwy Dalu wrth Ennill (TWE), gellir addasu eich cod treth er mwyn casglu'r dreth ar eich incwm eiddo bob blwyddyn.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i'ch incwm trethadwy o eiddo fod yn llai na £2,500. Gofynnwch i Cyllid a Thollai EM (CThEM) anfon ffurflen P810 atoch er mwyn nodi eich incwm bob blwyddyn.

Os yw eich elw yn £2,500 neu'n fwy neu os nad ydych ar TWE

Yn yr achos hwn, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu. Os na chewch un yn awtomatig, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i gael un.

Os yw cyfanswm eich incwm o eiddo yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12 yn £70,000 neu'n fwy, mae'n rhaid i chi ei ddatgan ar eich ffurflen dreth. Mae'n rhaid i chi ddangos eich treuliau ar wahân hefyd. Os yw eich incwm yn is na £70,000, gallwch nodi'r treuliau fel un cyfanswm ar eich ffurflen dreth.

Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflen dreth, nodwch y rhent a'r treuliau ar gyfer y flwyddyn berthnasol. Nid oes ots pryd y byddwch yn eu cael na'u talu.

Faint o dreth y byddwch yn ei thalu?

Caiff eich elw trethadwy o osod eiddo ei ychwanegu at eich incwm cyffredinol. Os yw hyn yn fwy na'ch lwfansau treth, byddwch yn talu treth ar gyfraddau Incwm Treth arferol.

Os ydych yn gosod eiddo ar y cyd

Pan fyddwch yn llenwi eich ffurflenni treth, neu ffurflenni P810, dylai pob un ohonoch nodi eich cyfran o'r canlynol:

  • yr incwm a'r treuliau
  • yr elw (neu'r golled)

Mae'r nodiadau cymorth ar gyfer eich ffurflen dreth yn esbonio sut i wneud hyn.

Gwaith papur y mae angen i chi ei gadw

Bydd yn rhaid i chi gadw cofnodion o'ch busnes gosod eiddo am chwe blynedd ar ôl y flwyddyn dreth berthnasol. Mae angen y rhain arnoch er mwyn cefnogi'r ffigyrau a roesoch ar eich ffurflen dreth. Dylai eich cofnodion gynnwys manylion am:

  • yr holl rent a gewch a'r dyddiadau pan fyddwch yn gosod yr eiddo
  • unrhyw incwm o wasanaethau a ddarperir i denantiaid
  • eich treuliau busnes
  • llyfrau rhent, derbynebau, anfonebau a chyfriflenni banc

Allweddumynediad llywodraeth y DU