Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar incwm rhent - trosolwg

Os byddwch yn gosod eiddo cyfan neu ran ohono (gan gynnwys eich cartref), mae'r ffordd y cewch eich trethu ar yr incwm rhent a gewch yn dibynnu ar y math o eiddo a osodir. Os byddwch yn gosod eiddo dramor, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar yr incwm rhent os ydych yn preswylio yn y DU at ddibenion treth.

Treth ar osod eiddo preswyl

Caiff gosod eiddo buddsoddi preswyl ei drin fel rhedeg busnes - hyd yn oed os mai dim ond un eiddo rydych yn ei osod. Ac os ydych y gosod mwy nag un eiddo yn y DU, caiff pob un ei drin fel busnes unigol.

P'un a fyddwch yn gosod un eiddo neu sawl un, byddwch yn cael eich trethu ar yr 'elw net' cyffredinol. Gallwch weithio hyn allan drwy:

  • adio eich holl incwm rhent at ei gilydd
  • adio eich holl dreuliau a ganiateir at ei gilydd
  • tynnu'r treuliau a ganiateir o'r incwm

Drwy weithio allan eich elw net fel hyn gallwch wrthbwyso colled o un eiddo yn erbyn elw o rai eraill. Mae eich elw net yn cyfrif fel rhan o'ch incwm trethadwy cyffredinol.

Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer offer i'w ddefnyddio mewn tŷ annedd. Gelwir y rhan fwyaf o lety preswyl yn dŷ annedd.

Y cynllun Rhentu Ystafell

O dan y cynllun 'Rhentu Ystafell' gallwch ennill hyd at £4,250 yn ddi-dreth os byddwch yn gosod llety wedi'i ddodrefnu yn eich cartref eich hun. Os byddwch yn gosod ar y cyd, caiff y ffigur hwn ei haneru i £2,125. Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys incwm o bethau fel rhent, prydau a ddarperir a gwasanaethau golchi dillad.

Bydd yn rhaid i chi dalu treth ar unrhyw beth dros £4,250. Neu gallwch ddewis peidio â defnyddio'r cynllun os byddai'n well gennych dalu treth drwy Hunanasesiad o dan y rheolau ar gyfer gosod eiddo preswyl.

Gosod eich cartref cyfan neu ran ohono

Os byddwch yn gosod eich cartref ac yn byw rhywle arall, caiff eich elw o'r rhent ei weithio allan a'i drethu yn yr un ffordd ag ar gyfer gosod eiddo preswyl.

Ni allwch ddidynnu unrhyw rent rydych yn ei dalu ar gyfer yr eiddo lle rydych yn byw o elw'r cartref rydych yn ei rentu allan.

Mae'r un rheolau'n gymwys os byddwch yn gosod rhan o'ch cartref y tu allan i'r cynllun 'Rhentu Ystafell'. Os byddwch yn gwneud hyn, gallwch gynnwys canran o gostau'r cartref fel nwy a thrydan wrth weithio allan eich treuliau a ganiateir.

Treth ar osod eiddo gwyliau wedi'i ddodrefnu

Os byddwch yn gosod cartref gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), mae'r rheolau treth yn wahanol i'r rhai ar gyfer gosod eiddo preswyl. Mae'r rheolau'n caniatáu i chi wneud y canlynol:

  • lleihau eich elw drwy hawlio 'lwfansau cyfalaf' ar gyfer cost dodrefn ac offer a ddarperir yn yr eiddo rydych yn ei osod
  • gwrthbwyso unrhyw golledion yn erbyn eich incwm cyffredinol, nid yn erbyn eich incwm rhentu yn unig - dim ond ar gyfer blynyddoedd treth hyd at 2010-11 gan gynnwys y flwyddyn honno

Hefyd, pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo efallai y byddwch yn gallu manteisio ar fathau eraill o ryddhad i leihau eich bil Treth Enillion Cyfalaf.

Treth ar osod eiddo tramor

Os ydych yn 'preswylio' neu'n 'preswylio fel arfer' yn y DU ac mae eich cartref yma, rhaid i chi dalu treth ar incwm a gewch o osod eiddo tramor. Mae hyn yn wir p'un a fyddwch yn dod â'r arian i mewn i'r DU ai peidio. Os ydych yn 'preswylio' ond nid ydych yn 'preswylio fel arfer' yn y DU ac nid yw eich cartref yma, efallai mai dim ond ar yr arian y dewch ag ef i mewn i'r DU y bydd yn rhaid i chi dalu treth. I gael esboniad o'r termau hyn a mwy o wybodaeth, defnyddiwch y ddolen i ganllawiau Cyllid a Thollau EM (CThEM) ar breswylio isod.

Os ydych eisoes wedi talu treth dramor ar eich incwm rhentu, gallwch fel arfer wrthbwyso hyn yn erbyn y dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu arno yn y DU.

Cofnodion y dylai landlordiaid eu cadw

Ni waeth pa fath o eiddo rydych yn ei osod bydd yn rhaid i chi gadw cofnodion o'ch incwm a'ch treuliau am o leiaf chwe mlynedd. Gall CThEM ofyn i weld gwybodaeth ategol ar gyfer eich ffigurau unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.

Er na allwch hawlio treuliau pan fyddwch yn defnyddio'r cynllun Rhentu Ystafell, gall fod yn werth cadw cofnodion priodol o hyd. Bydd eu hangen arnoch os byddwch yn penderfynu eithrio o'r cynllun maes o law.

Datgan a thalu treth ar eich incwm rhentu

Os bydd cyfanswm eich incwm o eiddo yn y DU ar gyfer y flwyddyn dreth 2011-12 yn llai na £70,000, gallwch nodi'r treuliau fel un cyfanswm ar y ffurflen dreth Hunanasesu. Os bydd yn £70,000 neu fwy, bydd angen i chi ddangos eich treuliau ar wahân. Os bydd eich incwm trethadwy o eiddo yn llai na £2,500, efallai y gall CThEM gasglu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych drwy TWE (Talu Wrth Ennill). Rhaid eich bod eisoes yn talu treth drwy TWE er mwyn manteisio ar hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU