Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gostyngiad treth wrth werthu eich cartref

Gostyngiad preswylfan breifat yw'r enw a roddir ar y gostyngiad treth sy'n sicrhau nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn wynebu bil Treth Enillion Cyfalaf pan fyddant yn gwerthu eu cartref.

Pwy sy'n gymwys i dderbyn gostyngiad preswylfan breifat

Yn gyffredinol, os ydych wedi byw yn eich cartref a hwnnw wedi bod yn unig gartref ichi yr holl amser yr oeddech yn berchen arno, ni fydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw arian a wnewch pan fyddwch yn ei werthu oherwydd ei fod yn dod o dan y gostyngiad preswylfan breifat.

Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar yr eiddo cyfan:

  • os oes gennych ardd neu diroedd sydd dros 0.5 hectar (tua maint cae pêl-droed)
  • os oes gennych lawer o adeiladau allan
  • os ydych wedi defnyddio unrhyw ran ohono'n unig at ddibenion busnes
  • os ydych wedi'i brynu'n bennaf i'w werthu'n fuan i wneud elw

Os ydych yn gwerthu'ch cartref a chithau'n berchen ar fwy nag un eiddo, neu os ydych wedi defnyddio rhan o'r eiddo at ddibenion busnes, megis defnyddio un ystafell fel swyddfa, rhoi ystafell i letywr neu osod y cyfan neu ran o'r eiddo am gyfnod, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf.

Bydd y cwestiwn a ydych yn dal yn gymwys ar gyfer rhywfaint o ostyngiad preswylfan breifat yn dibynnu ar eich amgylchiadau felly, os nad ydych yn sicr, gofynnwch i'ch Swyddfa Dreth am gyngor.

Pan nad ydych yn byw mwyach yn yr eiddo

Hyd yn oed os nad ydych yn byw mwyach yn eich eiddo, gallwch fod yn gymwys i gael y gostyngiad preswylfan breifat llawn, ar yr amod:

  • fod yr eiddo wedi bod yn brif gartref ichi ers ichi ei brynu
  • ei fod yn gymwys ymhob ffordd arall ar gyfer y gostyngiad preswylfan breifat (er enghraifft, nad ydych wedi defnyddio rhan o'r eiddo'n gyfan gwbl at ddibenion busnes)
  • eich bod yn ei werthu o fewn tair blynedd i symud allan (a'i fod wedi bod yn brif gartref ichi)

Gweithio dramor

Os ydych wedi bod yn gweithio dramor, mi fyddwch fel arfer yn cael eich trin fel petaech wedi bod yn byw yn yr eiddo yn y DU, ac felly'n gymwys i dderbyn y gostyngiad preswylfan breifat, ar yr amod bod y ddau ganlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn byw yn yr eiddo cyn ac ar ôl eich absenoldeb
  • nid oes gennych unrhyw gartref arall sy'n gymwys ar gyfer gostyngiad preswylfan breifat

Mae'r gostyngiad hwn hefyd yn berthnasol os mai'ch partner priod neu bartner sifil oedd yn gweithio dramor.

Byddwch yn parhau i gael y gostyngiad preswylfan breifat ar gyfer eich cyfnod dramor, hyd yn oed os na fyddwch yn dychwelyd i fyw i'r eiddo yn y DU, ar yr amod mai'r unig reswm nad ydych yn dod yn ôl i fyw i'ch cyn gartref yw bod eich cyflogwr yn eich anfon i weithio i rywle arall (neu eich partner priod neu bartner sifil).

Bod yn berchen ar fwy nag un cartref

Os ydych yn byw mewn mwy nag un eiddo, gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM pa un yr ydych am ei alw'n brif gartref ichi, neu'r 'brif breswylfan' at ddibenion Treth Enillion Cyfalaf. Rhaid i chi fod yn byw yn yr eiddo yr ydych yn ei enwebu fel eich prif gartref, nid bod yn berchen arno yn unig.

Rhaid i chi wneud yr enwebiad o fewn dwy flynedd i newid nifer yr eiddo yr ydych yn byw ynddynt, pa un a yw'r newid yn gynnydd yn y nifer o gartrefi neu'n ostyngiad.

Peidio â dweud wrth eich Swyddfa Dreth pa un yw eich prif gartref

Os na ddywedwch wrth Gyllid a Thollau EM pa eiddo yr ydych am ei alw'n brif gartref ichi, rhaid cyfeirio at y ffeithiau i benderfynu ar y cwestiwn a oedd y cartref y byddwch yn ei werthu yn brif gartref ichi ac yn gymwys ar gyfer gostyngiad preswylfan breifat. Felly mae'n gwneud synnwyr i chi benderfynu a hysbysu Cyllid a Thollau EM cyn y daw'r ddwy flynedd i ben.

Does dim rhaid i chi gadw'r un cartref yn brif gartref ichi. Unwaith i chi enwebu prif gartref gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM unrhyw bryd mai eiddo gwahanol ddylai fod yn gymwys ar gyfer y gostyngiad preswylfan breifat ond allwch chi ddim ôl-ddyddio'r newid fwy na dwy flynedd. Rhaid ichi fod yn byw mewn eiddo fel eich cartref er mwyn iddo fod yn gymwys.

Parau priod neu bartneriaid sifil sy'n berchen ar fwy nag un cartref

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn berchen ar ddau neu fwy o gartrefi, rhaid i chi a'ch partner priod neu bartner sifil hysbysu Cyllid a Thollau EM eich hunain pa un o'ch cartrefi yw eich prif gartref at ddibenion gostyngiad preswylfan breifat - a rhaid i hwnnw fod yr un un. Dylai’r ddau ohonoch arwyddo’r hysbysiad.

Hunangyflogedig a gweithio o gartref

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gweithio o gartref gallwch barhau i dderbyn y gostyngiad preswylfan breifat pan fyddwch yn gwerthu'ch cartref os defnyddir yr eiddo cyfan fel cartref er eich bod yn gweithio yno.

Fodd bynnag, os defnyddir unrhyw ran o'ch eiddo'n gyfan gwbl at ddibenion busnes, er enghraifft fel:

  • swyddfa
  • storfa

efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar ran o'r enillion a wnewch pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo.

Gwerthu eiddo a brynwyd gennych i rywun arall fyw ynddo

Os byddwch yn prynu eiddo er mwyn i rywun arall fyw ynddo a chithau'n berchen arno ond ddim yn byw ynddo eich hun, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y gostyngiad preswylfan breifat pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo. Yn y bôn, buddsoddi yr ydych mewn eiddo, ac felly pan gaiff ei werthu am elw, bydd rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar yr elw hwnnw.

Un ffordd arall yw rhoi neu fenthyca arian i'r person er mwyn iddynt hwy brynu'r eiddo eu hunain. Os yw'r eiddo yn berchen iddynt hwy ac yn brif gartref iddynt, gallant hawlio gostyngiad preswylfan breifat pan fyddant yn ei werthu.

Gall y gyfraith yn y maes hwn fod yn gymhleth, felly ystyriwch gael cyngor proffesiynol. Dylech hefyd ystyried goblygiadau'r Dreth Etifeddu o ran rhoi rhodd.

Rhagor o wybodaeth

Mae'n syniad da gofyn i Gyllid a Thollau EM am gyngor pan fyddwch yn ceisio gweld beth yw eich sefyllfa chi, gan y bydd yn rhaid ystyried yr holl ffactorau yn eich sefyllfa unigol chi.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch sut mae Treth Enillion Cyfalaf yn berthnasol i dir a phrydlesi, mae Cyllid a Thollau EM yn cyhoeddi taflen gymorth (HS292) i'ch helpu i lenwi'r adran hon ar eich ffurflen dreth.

Un peth i'w gofio: nid yw gostyngiad preswylfan breifat ar gael ar eich eiddo (na rhan o'ch eiddo) os caiff ei ddefnyddio'n gyfan gwbl ar gyfer busnes neu waith.

Allweddumynediad llywodraeth y DU