Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn byw ac yn talu treth yn y DU, rhaid ichi ddatgan incwm rhent o osod eiddo tramor ar dudalennau tramor eich ffurflen dreth. Os ydych yn talu treth dramor ar eich incwm, gallwch gael credyd ar gyfer hwn fel arfer yn erbyn y dreth y bydd yn rhaid ichi ei thalu arno yn y DU.
Rhaid i chi ddatgan unrhyw incwm a gewch o osod llety tramor ar dudalennau tramor atodol y ffurflen dreth Hunanasesiad.
Bydd faint o dreth y byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar ba un a ydych yn 'preswylio' yn y DU, yn 'preswylio'n arferol' neu â'ch 'domisil' yma:
Gallwch fod yn fwy nag un o'r rhain - neu yr un ohonynt.
Os ydych chi’n preswylio, yn preswylio’n arferol ac â’ch domisil yn y DU, bydd rhaid ichi dalu treth ar unrhyw incwm o osod. Mae hyn yn gymwys pa un a ddygir yr incwm hwnnw i'r DU neu ddim -asesiad 'ar sail codi' (arising basis) yw'r enw a roddir ar hwn.
Cyfrifo'ch elw trethadwy
Fel gydag incwm o fusnes rhentu yn y DU, byddwch yn cyfrifo'r 'elw net' (neu golled net) ar gyfer eich holl fusnes gosod llety tramor fel petai'n un busnes. I wneud hyn rydych yn:
I gyrraedd eich elw trethadwy, gallwch ddidynnu rhai lwfansau o'ch elw net. Bydd eich elw terfynol yn cyfrif fel rhan o'ch incwm trethadwy cyffredinol, a byddwch yn talu treth arno yn ôl eich cyfraddau arferol.
Costau a lwfansau - beth sy'n cyfrif?
Gallwch ddidynnu'r un costau a lwfansau o incwm o osod eiddo tramor ag ar gyfer incwm gosod eiddo yn y DU gan gynnwys costau teithio. Rhaid i'r costau fod yn gyfan gwbl gysylltiedig â rhedeg y busnes gosod eiddo.
Oherwydd bod yr holl eiddo a osodir dramor yn cael eu hystyried yn un busnes, mae colledion o un eiddo tramor yn cael eu gosod yn awtomatig yn erbyn yr elw a wneir o'r gweddill. Ac os gwnewch golled cyffredinol, gallwch osod hwn yn erbyn elw a wneir o rentu dramor yn y dyfodol.
Ond mae busnesau gosod eiddo tramor ac yn y DU yn cael eu trethu ar wahân - ni ellir gosod colledion a wneir ar un yn erbyn yr elw a wneir o'r llall. Os oes gennych letyau gwyliau yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), mae angen i chi eu trin ar wahân.
Os ydych chi’n preswylio, ond heb fod yn ‘preswylio’n arferol’ neu heb fod â’ch ‘domisil’ yn y DU, gallwch hawlio i gael eich trethu ond ar yr incwm a dderbyniwyd yn y DU. 'Ar sail taliad' (remittance basis) yw'r enw a roddir ar hyn.
Os ydych eisoes wedi talu treth ar eich incwm rhent dramor gallwch fel arfer hawlio credyd yn erbyn y dreth y bydd yn rhaid ichi ei thalu arno yn y DU.
Neu gallwch ddidynnu'r dreth dramor o'ch incwm rhent tramor pan fyddwch yn cyfrifo'r elw y byddwch yn talu treth arno yn y DU.
Os ydych yn hawlio gostyngiad credyd treth dramor, bydd angen ichi ddangos ar wahân:
Os nad ydych yn hawlio gostyngiad, adiwch eich holl incwm a chostau o osod eiddo tramor a dangoswch yr elw neu'r golled fel un ffigur.
Pan fyddwch yn cyfrifo'ch incwm trethadwy, bydd rhaid ichi ei drosi yn bunnoedd sterling. Defnyddiwch y gyfradd gyfnewid a oedd yn berthnasol pan oedd y rhent yn ddyledus (neu pan ddaethoch ag ef i'r DU os nad ydych yn byw yn y DU yn barhaol).
Os byddwch yn cael gwared ar eich eiddo (e.e. ei werthu neu ei roi i ffwrdd) efallai y bydd yn rhaid ichi dalu treth dramor. Efallai hefyd y bydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf yn y DU. Lle mae Treth Enillion Cyfalaf yn ddyledus gallwch fel arfer gael credyd ar gyfer treth dramor rydych wedi’i thalu ar yr un ennill.
Bydd yn rhaid ichi dalu Treth Enillion Cyfalaf pa un a ydych yn dod â'r enillion i mewn i'r DU neu beidio.
Efallai mai dim ond ar enillion y byddwch yn eu trosglwyddo i'r DU y bydd yn rhaid ichi dalu'r dreth (pa un a wnaethpwyd yr enillion yn y flwyddyn gyfredol neu mewn blwyddyn flaenorol).