Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar incwm o gynilion tramor a buddsoddiadau tramor

Os ydych yn derbyn incwm o gynilion a buddsoddiadau tramor, byddwch fel arfer yn datgan hyn ar ffurflen dreth Hunanasesiad. Efallai y bydd angen ichi dalu Treth Incwm yn y DU, ond os ydych wedi talu treth dramor ar yr incwm efallai y gallwch ddidynnu'r swm hwnnw.

Beth sy'n cael ei ystyried yn incwm tramor?

Mae incwm yn cael ei ystyried yn 'incwm tramor' os daw o'r tu allan i Gymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban. Felly mae incwm o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael ei ystyried yn incwm tramor hefyd.

Mae incwm buddsoddi a chynilion tramor yn cynnwys:

  • llog o gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladau tramor
  • difidendau a llog gan gwmnïau tramor
  • rhent o eiddo tramor

Os ydych eisoes wedi talu treth yng ngwlad tarddiad yr incwm

Os cewch eich hun yn gorfod talu treth yn y wlad honno ac yn y DU, efallai y gallwch hawlio gostyngiad – ‘gostyngiad credyd treth dramor’ rhag trethiant dwbl trwy lenwi tudalennau tramor y ffurflen dreth. Mae'r DU wedi llofnodi nifer o gytundebau trethiant dwbl gyda gwledydd eraill. Nod y trefniadau hyn yw atal trethiant dwbl.

Faint o ostyngiad credyd treth dramor gewch chi?

Cewch ostyngiad ar yr isaf o'r canlynol:

  • y dreth dramor sy'n daladwy dan delerau'r cytundeb
  • y dreth sy'n ddyledus yn y DU

Felly os yw'r dreth dramor sydd arnoch chi yn fwy na'r swm sy'n daladwy fel treth yn y DU, byddwch dal ond yn cael gostyngiad ar faint o dreth sy'n daladwy yn y DU.

Hyd yn oed os nad oes cytundeb trethiant dwbl rhwng y DU a'r wlad arall, efallai y gellir parhau i roi gostyngiad ar y dreth dramor sy'n daladwy (a elwir yn 'ostyngiad unochrog'). Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM os oes angen rhagor o gyngor arnoch.

Treth dramor ar ddifidendau a llog

Mae cytundebau trethiant dwbl fel arfer yn pennu cyfradd dreth (a elwir yn 'dreth ataliedig') y gall gwlad ei chodi ar breswylydd yn y DU sy'n derbyn rhai mathau o incwm o'r wlad honno - er enghraifft, difidendau gan gwmnïau neu log ar gynilion.

Rhaid i unrhyw hawliad gennych am ostyngiad yn erbyn treth y DU gael ei gyfyngu i'r isafswm treth hwn. Fe welwch restr o'r cyfraddau hyn yn y ‘DT digest’ – Digest of Double Taxation Treaties.

Os ydych wedi talu treth ataliedig dramor ar gyfradd uwch na'r hyn a restrir ar gyfer y math hwnnw o incwm, bydd angen ichi gysylltu â'r awdurdod treth tramor i gael ad-daliad ar gyfer y dreth yr ydych wedi'i thalu ar ben y gyfradd dreth ataliedig.

Rhent o eiddo tramor

Os oes treth y DU i'w thalu ar incwm rhent o eiddo tramor, gallwch ddidynnu rhai costau a lwfansau yn yr un ffordd ag y gallwch eu didynnu o incwm o eiddo yn y DU.

Gallwch hawlio gostyngiad ar gyfer treth a delir yn y wlad arall yn adran tudalennau tramor y ffurflen dreth.

Datgan eich incwm tramor

Rhaid ichi roi gwybod am eich incwm tramor ar dudalennau tramor eich ffurflen dreth.

Effaith preswylio, preswylio'n arferol a domisil ar eich bil treth

Efallai na fydd yn rhaid ichi dalu treth ar eich incwm tramor. Bydd hyn yn dibynnu ar a ydych yn 'preswylio', neu'n 'preswylio'n arferol' yn y DU at ddibenion treth mewn blwyddyn dreth. Mae’n bosib y bydd y swm o incwm yr ydych yn talu treth arno yn cael ei effeithio gan eich sefyllfa ‘preswylio’n arferol’ a 'domisil'.

Gallwch ddarllen mwy am sut y gall eich preswylfan, eich preswylfan arferol a'ch domisil effeithio ar y dreth y byddwch yn ei thalu yn y DU ar eich incwm o fuddsoddiadau tramor a llog cynilion ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Allweddumynediad llywodraeth y DU