Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau'r DU byddwch yn talu treth ar y trafodyn, sef Treth Stamp Wrth Gefn ar gyfer 'trafodion di-bapur' a'r Doll Stampiau ar gyfer trafodion yn defnyddio ffurflen trosglwyddo stoc.
Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau sy'n bodoli eisoes drwy stocbrocer, caiff y trafodyn fel arfer ei gwblhau'n electronig drwy CREST - y system setlo a chofrestru electronig. Gelwir hwn yn drafodyn di-bapur.
Byddwch yn talu Treth Stamp Wrth Gefn ar drafodion di-bapur ar gyfer cyfranddaliadau’r DU ar gyfradd unffurf o 0.5 y cant. Ond mae hyn yn seiliedig ar yr hyn rydych yn ei roi am y cyfranddaliadau (sef 'cydnabyddiaeth') - nid eu gwerth.
Mae hyn yn golygu:
Byddwch yn talu Treth Stamp Wrth Gefn ar gyfranddaliadau sy'n bodoli eisoes mewn cwmni a gorfforir yn y DU, neu mewn cwmni tramor sy'n cynnal cofrestr o gyfranddaliadau yn y DU, a hefyd pan fyddwch yn prynu:
Os byddwch yn tanysgrifio i gael cyfranddaliadau newydd mewn cwmni, ni fydd y Doll Stampiau yn daladwy.
Os byddwch yn prynu unedau mewn ymddiriedolaeth uned, neu'n buddsoddi mewn 'cwmni buddsoddi penagored', bydd yr ymddiriedolaeth neu'r cwmni yn talu Treth Stamp Wrth Gefn a byddant yn ystyried hyn wrth bennu'r pris y byddant yn eu gwerthu i chi.
Os byddwch yn defnyddio ffurflen trosglwyddo stoc pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau, yna bydd yn drafodyn papur. Byddwch yn talu'r Doll Stampiau ar drafodion papur, nid Treth Stamp Wrth Gefn. Mae'r Doll Stampiau yn daladwy ar yr un mathau o drafodion ac ar yr un gyfradd o 0.5 y cant â Threth Stamp Wrth Gefn, ond caiff y doll ei thalgrynnu i fyny i'r £5 agosaf.
Fodd bynnag, os byddwch yn prynu cyfranddaliadau am unrhyw swm o gydnabyddiaeth hyd at £1,000, ni fydd unrhyw Doll Stampiau yn daladwy. Os rhoddir cydnabyddiaeth o £1,050, bydd y doll yn £10 ac ati. Os cewch gyfranddaliadau am ddim, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Doll Stampiau.
Bydd yn rhaid i chi dalu Treth Stamp Wrth Gefn neu'r Doll Stampiau ar gyfradd uwch o 1.5 y cant os byddwch yn trosglwyddo cyfranddaliadau i 'gynllun derbynebau ar gyfer adneuon' neu 'wasanaeth clirio'. Mae'r rhain yn drefniadau arbennig lle bydd trydydd parti yn dal y cyfranddaliadau a gellir eu masnachu heb y Doll Stampiau na Threth Stamp Wrth Gefn. (Gyda rhai gwasanaethau clirio ni chaiff y gyfradd uwch ei chodi ac mae'r Doll Stampiau neu Dreth Stamp Wrth Gefn yn daladwy yn y ffordd arferol pan gaiff cyfranddaliadau eu masnachu.)
Mae'r rhan fwyaf o drafodion cyfranddaliadau yn drafodion di-bapur, a gaiff eu cwblhau'n electronig drwy CREST. Mae CREST yn didynnu'r Treth Stamp Wrth Gefn yn awtomatig ac yn ei hanfon i CThEM. Bydd eich stocbrocer yn setlo cost y cyfranddaliadau a Threth Stamp Wrth Gefn gyda CREST ac yna'n eich bilio am y rhain a ffioedd y brocer.
Os na fyddwch yn prynu cyfranddaliadau drwy CREST, byddwch yn talu'r Doll Stampiau i CThEM eich hun.
Mae Treth Stamp Wrth Gefn eisoes wedi'i chyfrif yn y pris y byddwch yn ei dalu am unedau mewn ymddiriedolaethau uned neu gyfranddaliadau mewn cwmnïau buddsoddi penagored.
Nid oes rhaid i chi dalu Toll Stamp y DU na Threth Stamp Wrth Gefn os byddwch yn prynu cyfranddaliadau tramor. Ond efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi tramor.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am Doll Stampiau neu Dreth Stamp Wrth Gefn, ffoniwch Linell Gymorth Tollau Stampiau CThEM.