Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn cynilo neu'n buddsoddi arian, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y llog neu'r incwm yr ydych yn ei gael, ond does dim rhaid talu treth gyda rhai mathau o gynilion a buddsoddiadau. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu treth o gwbl.
Cyfrifon cynilo a buddsoddi di-dreth yw Cyfrifon Cynilo Cenedlaethol (ISAs). Gallwch eu defnyddio i gynilo arian, neu i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau. Allwch chi ddim rhoi mwy na £11,280 mewn ISA yn y flwyddyn dreth 2012-13, i fyny at £5,640 a ellir ei gynilo mewn arian parod.
Nid ydych yn talu treth ar y llog na'r difidendau o ISA a does dim Treth Enillion Cyfalaf (TEC) i'w thalu ar unrhyw elw o'r buddsoddiadau. Ond mae hyn yn golygu na allwch chi ddefnyddio colledion ar fuddsoddiadau ISA i ostwng y Dreth Enillion Cyfalaf ar elw o fuddsoddiadau y tu allan i'r ISA.
Cyfrifon cynilo di-dreth hirdymor i blant yn enwedig i blant yw ISAs i Bobl Iau. O 1 Tachwedd 2011 ymlaen maent ar gael i unrhyw blentyn o dan 18 oed, sy’n byw yn y DU, heb gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Fel ISAs, gallwch eu defnyddio i gynilo arian neu i fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau.
Gallwch gynilo hyd at £3,600 yn y flwyddyn dreth 2012-13 mewn ISA i Bobl Iau ac ni fydd rhaid i chi dalu treth ar y llog na’r difidendau.
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig ffordd gwbl ddiogel o gynilo a buddsoddi arian oherwydd caiff ei gefnogi gan y Trysorlys.
Mae'r cynnyrch buddsoddi a chynilo di-dreth a gynigir ar hyn o bryd gan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnwys:
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig Bondiau Premiwm hefyd. Os ydych yn prynu Bondiau Premiwm, fyddwch chi ddim yn cael llog, ond gallwch ennill gwobrau di-dreth.
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, efallai fod ganddynt hawl i gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Gall rhieni, teulu a ffrindiau ychwanegu swm i’r cyfrif bob blwyddyn. £3,600 yw’r swm hwn o 1 Tachwedd 2011 ymlaen.
Ni ellir cymryd yr arian o’r cyfrif nes y bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed. Ni fyddwch chi na’ch plentyn yn talu treth ar unrhyw incwm neu enillion yn y cyfrif tan hynny.
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn tynnu treth o'r llog ar gyfradd o 20 y cant cyn iddynt ei dalu i chi. Ond os yw eich incwm trethadwy yn llai na'ch lwfansau treth gallwch gofrestru i gael eich llog wedi'i dalu'n 'gros' (heb i dreth gael ei didynnu). Os ydych o dan 16 oed, bydd rhaid i'ch rhiant neu warcheidwad gofrestru ar eich rhan. Gallwch hefyd hawlio'r dreth yr ydych wedi'i thalu ar eich cynilion yn ôl.
Dilynwch y dolenni isod i weld y manylion a'r camau nesaf.
Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad trwy roi 'gostyngiad treth' ichi ar gyfraniadau pensiwn. Mae gostyngiad treth yn lleihau eich bil treth neu'n cynyddu eich cronfa bensiwn.
Pan fyddwch yn ymddeol, gallwch fel arfer gymryd hyd at 25 y cant o'ch cronfa bensiwn fel un taliad di-dreth. Mae eich incwm pensiwn rheolaidd wedyn yn cael ei drethu yn yr un ffordd â gweddill eich incwm.
Gallwch gynilo faint a fynnoch mewn unrhyw nifer o bensiynau - a chael gostyngiad treth ar gyfraniadau o hyd at 100 y cant o'ch enillion bob blwyddyn, yn amodol ar 'Lwfans Blynyddol' uchaf. (Bydd rhaid talu treth ar gynilion dros 'Lwfans Oes' ar wahân.) Dilynwch y ddolen gyntaf isod am ragor o fanylion.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs