Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ar werthu cyfranddaliadau

Os bydd cyfanswm eich ‘enillion’ (elw) uwchben lefel benodol pan fyddwch yn cael gwared ar asedau – gan gynnwys cyfranddaliadau – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Mae rheolau arbennig yn berthnasol ar gyfer pennu cyfranddaliadau a brynwyd yn yr un cwmni ar adegau gwahanol er mwyn sicrhau eich bod yn cyfrifo'r golled neu'r elw cywir.

Canfod a oes rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf

Bydd yr angen i dalu Treth Enillion Cyfalaf ai peidio pan fyddwch yn cael gwared ar gyfranddaliadau'n dibynnu ar gyfanswm eich enillion am y flwyddyn dreth. Mae hyn yn cynnwys yr elw ar y cyfranddaliadau a'r elw ar gael gwared ar unrhyw asedau eraill sy'n denu Treth Enillion Cyfalaf.

Codir Treth Enillion Cyfalaf ar gyfanswm yr enillion ar ôl:

  • didynnu costau prynu a chael gwared ar bob ased
  • rhoi cyfrif am unrhyw ostyngiadau sy'n effeithio ar faint yr enillion – mae rhai'n cael eu rhoi'n awtomatig ac mae’n rhaid hawlio eraill
  • didynnu'r colledion a ganiateir sy'n codi wrth gael gwared ar asedau neu gyfranddaliadau eraill
  • didynnu o gyfanswm yr enillion trethadwy sydd ar ôl y ‘Swm Eithriedig Blynyddol’ – mae’r swm hwn yn £10,600 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13

Faint o Dreth Enillion Cyfalaf fyddwch chi'n ei thalu?

Mae hyn yn dibynnu ar eich incwm cyffredinol.

I gael gwybod sut mae cyfrifo Treth Enillion Cyfalaf ac i weld pa asedau eraill sy'n denu Treth Enillion Cyfalaf, darllenwch yr erthygl berthnasol drwy ddilyn y ddolen isod.

Rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo enillion ar gyfranddaliadau

Mae cyfranddaliadau'n wahanol i'r rhan fwyaf o asedau eraill sy'n denu Treth Enillion Cyfalaf oherwydd nad oes modd adnabod pob cyfranddaliad yn unigol. Efallai y byddwch yn prynu cyfranddaliadau o'r un dosbarth mewn un cwmni ar wahanol adegau ac am wahanol brisiau. O ganlyniad, rhaid i chi ddefnyddio rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo eu cost caffael at ddibenion Treth Enillion Cyfalaf.

Cyfranddaliadau drwy gynllun cyfranddaliadau gweithwyr

Ceir rheolau Treth Enillion Cyfalaf arbennig ar gyfer cyfranddaliadau sy'n cael eu prynu neu eu derbyn drwy gynllun cyfranddaliadau gweithwyr neu fel canlyniad o’ch cyflogaeth. Mae cynlluniau cymeradwy Cyllid a Thollau EM, megis Cynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau, cynlluniau Cynilo Wrth Ennill (SAYE) cymeradwy, Cynlluniau Opsiwn i Brynu Cyfranddaliadau mewn Cwmni a Chymhellion Rheoli Mentrau yn cynnig manteision treth.

Os dilynwch y rheolau, efallai na fyddwch yn talu Treth Enillion Cyfalaf neu'n talu llai pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau.

Rhoi gwybod pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau a thalu Treth Enillion Cyfalaf

Os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu fel arfer

Rhaid i chi lenwi tudalennau Treth Enillion Cyfalaf eich ffurflen dreth os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae’ch Treth Enillion Cyfalaf yn ddyledus
  • rydych am hawlio colled a ganiateir neu wneud unrhyw ddewisiad (election) neu hawliad enillion cyfalaf arall
  • mae cyfanswm gwerth yr holl asedau a waredwyd gennych sy'n denu Treth Enillion Cyfalaf yn fwy na phedair gwaith y Swm Eithriedig Blynyddol – p’un ai a wnaethoch enillion ai peidio
  • rydych yn didynnu colledion ac mae eich enillion cyn didynnu colledion yn fwy na'r Swm Eithriedig Blynyddol
  • ni ddidynnir unrhyw golledion, ond mae’ch enillion yn fwy na’r Swm Eithriedig Blynyddol
  • nid ydych yn preswylio yn y DU, gan honni eich bod yn cael eich trethu ‘ar sail taliad’ ac rydych wedi dod ag enillion tramor gyda chi i’r DU

Os na ddywedwch wrth Gyllid a Thollau EM yn brydlon am enillion y dylid eu cynnwys ar eich ffurflen dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y ffurflenni y bydd eu hangen arnoch a sut mae ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein neu eich ffurflen dreth bapur drwy ddilyn y ddolen isod.

Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer ond mae eich Treth Enillion Cyfalaf yn ddyledus

Ysgrifennwch at Gyllid a Thollau EM gan ddarparu eich cyfrifiadau Treth Enillion Cyfalaf – efallai y byddant yn gofyn i chi lenwi ffurflen dreth.

Os na ddywedwch wrth Gyllid a Thollau EM bod gennych Dreth Enillion Cyfalaf i’w thalu erbyn 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy.

Rhoi neu werthu cyfranddaliadau

Rhoi neu werthu cyfranddaliadau am bris llai na'u gwerth

Os ydych yn rhoi cyfranddaliadau i ffwrdd – fel nad ydych yn cael dim byd amdanynt – mae eich enillion yn seiliedig ar eu gwerth. Mae'r un peth yn wir pan fyddwch yn dewis eu gwerthu am lai na'u gwerth llawn. Felly mae'n rhaid i chi gyfrifo'r enillion yn seiliedig ar werth llawn y cyfranddaliadau pan wnaethoch eu rhoi i ffwrdd.

Rhoi neu werthu cyfranddaliadau i berson cysylltiedig

Os byddwch yn rhoi neu’n gwerthu’r cyfranddaliadau i ‘berson cysylltiedig’, megis perthynas agos neu gwmni rydych chi'n ei reoli, mae eich elw'n seiliedig ar eu gwerth – sef gwerth llawn y cyfranddaliadau pan wnaethoch eu rhoi neu’u gwerthu. Os yw’r person cysylltiedig yn ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil i chi, darllenwch yr adran nesaf a dilyn y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am ‘berson cysylltiedig’.

Gwerthu neu roi cyfranddaliadau i'ch partner priod, i'ch partner sifil neu i'ch plant

Does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os ydych yn gwerthu neu'n rhoi cyfranddaliadau i'ch gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil a chithau'n briod yn gyfreithlon neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda'ch gilydd. Ond os byddant hwy yn rhoi neu'n gwerthu'r cyfranddaliadau'n ddiweddarach, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu Treth Enillion Cyfalaf ar yr elw – yn seiliedig ar yr hyn y taloch chi amdanynt yn wreiddiol.

Does dim gostyngiad arbennig os ydych yn gwerthu neu'n rhoi cyfranddaliadau i'ch plant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU