Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hunanasesu: gwybodaeth sylfaenol

Mae Hunanasesu yn golygu llenwi ffurflen dreth bob blwyddyn. Byddwch yn rhoi eich incwm a’ch enillion cyfalaf (yr elw a wnaed ar ôl gwerthu asedau penodol) ac yn hawlio lwfansau neu ostyngiadau treth ar eich ffurflen dreth. Mae’r canllaw hon yn cynnwys sut mae cael ffurflen dreth, pryd i’w hanfon yn ôl a beth sy’n digwydd os na fyddwch yn gwneud hyn.

Pwy ddylai lenwi ffurflen dreth Hunanasesu?

Nid yw pawb yn gorfod llenwi ffurflen dreth. Os yw’ch materion treth yn eithaf syml, efallai eich bod eisoes yn talu’r holl dreth sy’n ddyledus ar eich enillion neu’ch pensiynau drwy eich cod treth.

Ond mae’n bosib y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth os yw’ch materion treth yn fwy cymhleth, hyd yn oed os ydych eisoes yn talu drwy eich cod treth. Ceir hefyd rai amgylchiadau lle bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth bob amser – er enghraifft:

  • os ydych chi'n hunangyflogedig
  • os ydych chi’n gyfarwyddwr cwmni
  • os ydych chi’n ymddiriedolwr
  • os byddwch yn cael incwm o dramor

Sut mae cael ffurflen dreth Hunanasesu

Cyn y cewch chi ffurflen dreth, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesu.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwch i sefydlu’r cofnodion priodol ar eich cyfer, Yna byddant yn anfon cyfeirnod deg-digid, a elwir yn Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr, i chi. Bydd angen i chi gadw hwn yn ddiogel.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon llythyr atoch bob blwyddyn, ym mis Ebrill fel rheol, yn dweud wrthych am lenwi eich ffurflen dreth. Os nad ydych wedi cael y llythyr hwn neu ffurflen dreth erbyn diwedd Ebrill, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM.

Gallwch anfon eich ffurflen dreth ar-lein neu drwy’r post. Mae nifer o fanteision i’w hanfon ar-lein. Mae’n gyflym ac yn hawdd, ac mae gennych tri mis yn hwy i’w hanfon. Gweler yr adran ‘Anfon eich ffurflen dreth ar-lein’ isod.

Eich ffurflen dreth – dyddiadau cau a chosbau

Os byddwch chi’n anfon ffurflen dreth bapur, mae’n rhaid iddi gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn hanner nos ar 31 Hydref. Os byddwch yn methu’r dyddiad cau hwn dylech anfon eich ffurflen ar-lein.

Os byddwch chi’n anfon eich ffurflen dreth ar-lein, mae’n rhaid iddi gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn hanner nos ar 31 Ionawr.

Bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £100 os nad yw Cyllid a Thollau EM yn derbyn eich ffurflen dreth mewn pryd. Yr hwyrach y byddwch yn anfon eich ffurflen, y mwyaf o gosbau y byddwch yn debygol o dalu.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor ynghylch:

  • cosbau am anfon eich ffurflen yn hwyr
  • llog a chosbau am dalu eich treth yn hwyr
  • eithriadau i’r dyddiadau uchod

Anfon eich ffurflen dreth ar-lein

Mae sawl mantais i anfon eich ffurflen dreth ar-lein. Er enghraifft, bydd eich ffigurau'n cael eu cyfrifo’n awtomatig a byddwch yn gwybod yn syth faint mae angen i chi ei dalu neu faint sy'n ddyledus i chi gan Gyllid a Thollau EM. Gellir anfon y rhan fwyaf o ffurflenni treth ar-lein.

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM cyntaf.

Pan fyddwch chi wedi cofrestru, gallwch ddefnyddio gwasanaeth Hunanasesu di-dâl Cyllid a Thollau EM, neu gallwch brynu meddalwedd fasnachol i anfon eich ffurflenni treth.

Nid yw’r gwasanaeth di-dâl Cyllid a Thollau EM yn darparu rhai ffurflenni treth ar-lein a bydd yn rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd fasnachol yn lle. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ffurflen Dreth Partneriaeth
  • Ffurflen Dreth Ymddiriedolaethau ac Ystad
  • rhai tudalennau sy’n cefnogi'r brif ffurflen dreth, megis y rheini ar gyfer gweinidogion yr efengyl ac aelodau Lloyd’s

Ffurflenni treth na allwch eu hanfon ar-lein

Ar hyn o bryd, nid oes gwasanaeth ar-lein na wasanaeth Cyllid a Thollau EM ar gael ar gyfer y ffurflenni treth canlynol:

  • SA700 - Ffurflen Dreth i Gwmnïau Di-breswyl
  • SA970 - Ymddiriedolwyr Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig

Mae’n rhaid i chi anfon y rhain ar bapur yn lle. Fodd bynnag, mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r rhain yr un fath â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ar-lein - sef 31 Ionawr.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU