Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru ar gyfer Hunanasesu i gael ffurflen dreth

Dylech chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM os oes angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu. Er enghraifft efallai rydych wedi dechrau bod yn hunangyflogedig neu osod eiddo. Yna bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu a oes angen ffurflen dreth arnoch. Os oes arnoch angen un, byddant yn creu eich cofnodion treth ac anfon Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw i chi.

Pam fyddai angen i chi lenwi ffurflen dreth

Os bydd eich amgylchiadau’n newid efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu. Ar y ffurflen byddwch yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM am incwm neu enillion cyfalaf, neu i hawlio costau neu ryddhad treth. Er enghraifft, mae'n bosib eich bod:

  • wedi dechrau eich busnes eich hun
  • wedi cael incwm heb ei drethu o eiddo neu fuddsoddiadau
  • angen hawlio costau (bydd angen i chi gael ffurflen dreth os yw’r costau werth mwy na £2,500)
  • angen talu Treth Enillion Cyfalaf

Pam a phryd mae angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesu

Bydd rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesu cyn i chi allu lenwi eich ffurflen dreth gyntaf.

Pan fyddwch chi’n cofrestru byddwch yn rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen ar Gyllid a Thollau EM er mwyn iddynt sefydlu'r cofnodion priodol ar eich cyfer. Mae hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn talu’r swm priodol o dreth ac Yswiriant Gwladol ar yr adeg briodol.

Am newidiadau eraill mewn amgylchiadau, llenwch y blychau perthnasol neu dudalennau atodol ar eich ffurflen dreth Hunanasesu.

Pryd i gofrestru

Mae'n syniad da i chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM cyn gynted ag y bydd eich amgylchiadau’n newid. Y dyddiad hwyraf y dylech chi gofrestru yw 5 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae angen ffurflen dreth ar ei chyfer. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn tan 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Er enghraifft, os oes gennych dreth i'w thalu ar rent o eiddo ym mlwyddyn dreth 2011-12, mae angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM erbyn 5 Hydref 2012.

Os byddwch chi’n hwyr yn cofrestru, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch i allu cofrestru

Bydd angen i chi gael:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol. Bydd gennych chi hwn yn barod gan amlaf, ond bydd angen i chi gael un os nad ydych chi wedi gweithio yn y Deyrnas Unedig o'r blaen
  • eich manylion cyswllt chi (a manylion cyswllt eich busnes, os ydych yn dechrau bod yn hunangyflogedig)
  • eich rhif Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr deg-digid – ond dim ond os ydych wedi llenwi ffurflen Hunanasesu o'r blaen. Bydd y cyfeirnod hwn i'w weld ar lythyrau neu ffurflenni blaenorol y mae Cyllid a Thollau EM wedi’u hanfon atoch ynghylch eich ffurflen dreth
  • y dyddiad y gwnaeth eich amgylchiadau newid

Sut i gofrestru

Os ydych chi’n gyflogai neu os nad ydych chi’n gweithio, dylech lenwi ac anfon ffurflen SA1 Cofrestru ar gyfer Hunanasesu.

Os ydych chi’n hunangyflogedig, yn ymuno â phartneriaeth neu'n sefydlu partneriaeth newydd, bydd angen ffurflenni gwahanol arnoch. Dilynwch yr ail ddolen isod a darllen yr adran ‘How to register’ ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesu

Cael rhif cyfeirnod

Bydd Cyllid a Thollau EM yn sefydlu cofnodion ar eich cyfer ac yn anfon llythyr atoch gyda chyfeirnod deg-digid a elwir yn Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr neu UTR. Dylech gadw'r cyfeirnod hwn yn ddiogel.

Mynd ar-lein

Ar ôl cael eich cyfeirnod, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM cyn i chi allu anfon eich ffurflen dreth ar-lein.

Anfon eich ffurflen dreth gyntaf

Fe gewch chi lythyr, ym mis Ebrill fel arfer, i ddweud wrthych pryd fydd angen i chi lenwi eich ffurflen dreth gyntaf. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi’n gynharach na hyn os bydd angen i chi anfon ffurflen dreth ar gyfer blwyddyn dreth flaenorol. Os na chewch chi lythyr na ffurflen dreth, dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU