Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

A oes angen i chi gwblhau ffurflen dreth?

Os yw eich materion treth yn gymharol syml a'ch bod yn talu treth drwy TWE (Talu Wrth Ennill) yn barod, mae'n debyg na fydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth. Ond os oes gennych incwm o hunangyflogaeth neu incwm dros lefel benodol, efallai y bydd angen i chi gwblhau un.

Pwy sydd angen cwblhau ffurflen dreth?

Mae'r rhesymau mwyaf cyffredin dros orfod cwblhau ffurflen dreth wedi'u rhestru isod.

Rydych yn hunangyflogedig

Os rydych yn hunangyflogedig (yn cynnwys bod yn aelod o bartneriaeth) rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth bob amser.

Cyfarwyddwyr cwmnïau, gweinidogion, enwau neu aelodau Lloyd's

Rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth os rydych yn un o'r canlynol:

  • cyfarwyddwr cwmni (oni bai eich bod yn gyfarwyddwr ar sefydliad di-elw, er enghraifft elusen, ac nad ydych yn derbyn unrhyw daliadau neu fuddiannau)
  • gweinidog mewn unrhyw grefydd
  • enw neu aelod Lloyd's

Incwm dros lefel benodol o gynilion, buddsoddiad neu eiddo

Os nad ydych yn cwblhau ffurflen dreth yn barod, bydd angen i chi wneud hynny os rydych yn cael unrhyw un o'r canlynol:

  • £10,000 o incwm neu fwy o gynilion a buddsoddiadau
  • £2,500 o incwm neu fwy o gynilion a buddsoddiadau heb eu trethu
  • £10,000 o incwm neu fwy o eiddo (cyn didynnu treuliau a ganiateir)
  • £2,500 o incwm neu fwy o eiddo (ar ôl didynnu treuliau a ganiateir)
  • incwm blynyddol o ymddiriedolaeth neu setliad y mae treth yn ddyledus arno o hyd (hyd yn oed os ystyrir mai hwn yw eich unig incwm)
  • incwm o ystâd person a fu farw y mae treth yn ddyledus arno o hyd

Rydych yn 65 oed ac yn derbyn swm is o lwfans sy'n gysylltiedig ag oedran

Os rydych yn derbyn swm is o lwfans sy'n gysylltiedig ag oedran gan eich bod yn 65 oed ond bod eich incwm dros lefel benodol (£24,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12, a £25,400 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13), bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth. Ond mae eithriadau i hyn, er enghraifft os yw eich materion treth yn syml iawn. Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Hunanasesu os credwch fod hyn yn gymwys i chi.

Incwm o dramor

Rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth os rydych yn cael unrhyw incwm o dramor a gaiff ei drethu yn y DU.

Mae gennych incwm blynyddol o £100,000 neu fwy

Os rydych yn derbyn incwm o £100,000 neu fwy, bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth. Efallai bod gennych dreth cyfradd uwch neu ychwanegol i'w thalu na chafodd ei chasglu drwy eich cod treth.

Mae angen i chi hawlio treuliau neu ostyngiadau penodol

Os ydych mewn cyflogaeth ac am hawlio treuliau neu danysgrifiadau proffesiynol o £2,500 neu fwy, bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth. Os rydych am hawlio treuliau sy'n llai na'r swm hwn, gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM (CThEM) gyda'r holl fanylion.

Dim ond drwy gwblhau ffurflen dreth y gellir hawlio rhai gostyngiadau llai cyffredin, megis gostyngiad y Cynllun Buddsoddi Menter neu ostyngiad ar Ymddiriedolaethau Cyfalaf Menter.

Mae gennych Dreth Incwm i'w thalu

Fel arfer, bydd CThEM yn ysgrifennu atoch i egluro sut y gallwch dalu os yw'r canlynol yn gymwys i chi:

  • rydych yn talu treth drwy TWE
  • mae treth yn ddyledus gennych ar ddiwedd y flwyddyn
  • nid ydych yn cwblhau ffurflen dreth fel arfer

Er enghraifft, os nad yw'n bosibl casglu'r swm drwy eich cod treth neu drwy daliad gwirfoddol, efallai y bydd CThEM yn gofyn i chi gwblhau ffurflen dreth.

Mae gennych Dreth Enillion Cyfalaf i'w thalu

Os oes gennych Dreth Enillion Cyfalaf i'w thalu, er enghraifft, rydych wedi gwerthu ased megis cartref gwyliau neu gyfranddaliadau, ei rhoi i ffwrdd neu ei waredu drwy ddull arall, bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth a'r tudalennau Treth Enillion Cyfalaf.

Rydych wedi byw neu weithio dramor neu nid yw eich cartref yn y DU

Efallai y bydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth os:

  • nad ydych yn preswylio yn y DU
  • nad ydych yn preswylio fel arfer yn y DU
  • nad yw eich cartref yn y DU a'ch bod yn hawlio'r 'sail taliad'
  • rydych yn breswylydd y DU a gwlad arall

Mae preswylio yn fater cymhleth. Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am eich statws preswylio, y sail taliad a beth i'w wneud nesaf.

Rydych yn ymddiriedolwr

Bydd angen ffurflen dreth arnoch os rydych yn:

  • ymddiriedolwr neu gynrychiolydd personol (yn cynnwys rhywun sy'n rheoli materion treth person a fu farw)
  • ymddiriedolwr cynlluniau pensiwn penodol

Os na chredwch fod angen ffurflen dreth arnoch

Os yw CThEM wedi gofyn i chi gwblhau ffurflen dreth, ond eich bod wedi darllen yr adrannau uchod ac yn credu nad oes angen ffurflen dreth arnoch, ffoniwch y Llinell Gymorth Hunanasesu.

Bydd yn dweud wrthych a fydd angen i chi gwblhau ffurflen dreth o hyd.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os nad ydych yn cwblhau ffurflen dreth ond bod eich amgylchiadau'n newid, mae angen i chi hysbysu CThEM o hyd. Rhaid i chi hysbysu CThEM, hyd yn oed os na chredwch fod angen i chi gwblhau ffurflen dreth. Bydd CThEM yn penderfynu a oes angen ffurflen dreth arnoch neu a yw'n bosibl i chi dalu'r dreth sy'n ddyledus mewn rhyw ffordd arall.

Er enghraifft, efallai y bydd treth yn ddyledus gennych os:

  • rydych yn talu'r gyfradd uwch o dreth ar eich enillion ac mae gennych incwm o fuddsoddiadau y mae angen ei drethu ar y gyfradd uwch hefyd.
  • nad oes gennych god treth, ond mae eich incwm trethadwy yn fwy na'r lwfansau treth y mae gennych hawl i'w cael

Sut i gael ffurflen dreth

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad cyn y gallwch gael ffurflen dreth. Bydd CThEM yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych i wneud cofnodion cywir ar eich cyfer a bydd yn anfon Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw atoch.

Byddwch yn cael llythyr bob blwyddyn, ym mis Ebrill fel arfer, yn dweud wrthych am lenwi eich ffurflen dreth. Gallwch anfon eich ffurflen dreth ar-lein neu ar bapur, ond mae sawl mantais i anfon eich ffurflen dreth ar-lein.

Os rydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, wedi derbyn eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw, ond heb dderbyn llythyr yn dweud wrthych am lenwi ffurflen dreth erbyn diwedd mis Ebrill, dylech gysylltu â CThEM.

Manteision ffeilio ar-lein

Gallwch arbed amser a gwaith papur drwy ffeilio eich ffurflen ar-lein. Cewch gydnabyddiaeth awtomatig a gallwch hefyd weld beth sy'n ddyledus gennych neu'n ddyledus i chi ar unwaith, gan fod y ffigurau'n cael eu cyfrifo'n syth i chi.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU