Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canfod ai cyflogedig ynteu hunangyflogedig ydych chi

Telerau ac amodau eich gwaith sy'n pennu a ydych yn gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod eich statws cyflogaeth oherwydd mae'n effeithio ar hawliau cyflogaeth a budd-daliadau, a sut yr ydych yn talu treth ac Yswiriant Gwladol.

Statws cyflogaeth: gwiriadau syml i'ch helpu i benderfynu

Fel arfer gallwch ganfod eich statws cyflogaeth drwy ofyn ychydig o gwestiynau syml.

Yn fwy na thebyg, rydych yn hunangyflogedig:

  • os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun ac yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros ei lwyddiant neu ei fethiant
  • os oes gennych sawl cwsmer ar yr un pryd
  • os gallwch chi benderfynu sut, pryd a ble rydych yn gweithio
  • os gallwch hurio pobl eraill i wneud y gwaith i chi neu i'ch helpu ar eich cost eich hun
  • os ydych yn darparu'r prif eitemau offer i wneud eich gwaith

Yn fwy na thebyg, rydych yn gyflogedig:

  • os ydych yn gorfod gwneud y gwaith eich hun
  • os ydych yn gweithio i un person ar y tro, a'r person hwnnw'n gyfrifol am yr hyn yr ydych yn ei wneud ac yn ysgwyddo risgiau'r busnes
  • os dywedir wrthych sut, pryd a ble rydych yn gweithio
  • os oes raid ichi weithio nifer penodedig o oriau
  • os ydych yn cael tâl rheolaidd yn ôl yr oriau yr ydych yn eu gweithio, ac yn cael eich talu am weithio goramser - gallwch fod yn gyflogedig hyd yn oed os ydych yn gwneud gwaith achlysurol neu waith dros-dro

Gallwch hefyd fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig yr un pryd, yn gweithio i gyflogwr yn ystod y dydd o bosibl ac yn rhedeg eich busnes eich hun gyda'r nos. Meddyliwch am bob contract ar wahân - efallai y gwelwch eich bod yn hunangyflogedig ar un ond yn gyflogedig ar un arall.

Nid oes diffiniad cyfreithiol o gyflogaeth neu hunangyflogaeth, felly os mae amheuaeth ynghylch statws cyflogaeth rhywun, gwneir y penderfyniad drwy gyfeirio at ddyfarniadau blaenorol - sy’n cael ei adnabod fel ‘cyfraith achos’. Mae p’un eich bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn dibynnu ar ffeithiau’ch trefniadau gweithio, yr hyn y mae’ch contract yn ei ddweud, neu gyfuniad o’r ddau.

Statws cyflogaeth: rhagor o gymorth

Os ydych dal yn ansicr ynghylch eich statws cyflogaeth ar ôl darllen y canllawiau uchod, gallwch ddefnyddio offeryn Dangosydd Statws Cyflogaeth ar-lein Cyllid a Thollau EM i’ch helpu i benderfynu drwy ddilyn y ddolen isod. Mae’r gwasanaeth am ddim, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gymorth i chi wrth weithio allan os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ym mhob achos heblaw'r rhai mwyaf gymhleth.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch cysylltwch â’r Llinell Gymorth Trethi drwy ffonio 0845 3000 627. Mae llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 4.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Chi sy'n gyfrifol am eich treth a'ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun. I wneud hyn rhaid ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am eich incwm drwy lenwi ffurflen dreth Hunanasesu.

Rhaid i chi gofrestru ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol gyda Chyllid a Thollau EM mor gynted ag yr ydych yn dechrau gweithio i’ch hunain. Os ydych chi’n oedi rhag cofrestru efallai y bydd yn rhaid ichi dalu cosb.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad er mwyn cael ffurflen dreth os ydych chi’n hunangyflogedig.

Yn dibynnu ar y math o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych yn eu talu, fe allech chi golli'r hawl i rai budd-daliadau, taliadau statudol, hawliau cyflogaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Os ydych chi'n gyflogedig

Os ydych chi'n gyflogedig, eich cyflogwr sy'n gyfrifol am ddidynnu a thalu eich treth a'ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy'r drefn Talu Wrth Ennill.

Mae gennych hawl i rai hawliau a budd-daliadau hefyd, megis absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth, tâl salwch, Lwfans Ceisio Gwaith os collwch eich gwaith a Phensiwn gan y Wladwriaeth pan fyddwch yn ymddeol (gan gynnwys Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth).

Allweddumynediad llywodraeth y DU