Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth ac Yswiriant Gwladol ar gynlluniau cyfranddaliadau gweithwyr

Os yw'ch cyflogwr yn cynnig cyfranddaliadau ichi yn ei gwmni fel rhan o gynllun cyfraniadau a gymeradwyir gan y llywodraeth, rydych yn cael rhai manteision treth. Dyma'r cynlluniau a gymeradwyir: Cynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau, cynlluniau Cynilo Wrth Ennill, Cynlluniau Opsiwn i Brynu Cyfranddaliadau mewn Cwmni a chynlluniau Cymhellion Rheoli Mentrau.

Cynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau (SIPs)

Os ydych yn cael cyfranddaliadau dan Gynllun Cymhellion Cyfranddaliadau a'u cadw yn y Cynllun am bum mlynedd, ni fydd yn rhaid ichi dalu Treth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eu gwerth pan fyddwch yn eu cael. (Mae cyflogwyr fel arfer yn gorfod didynnu hwn o werth y cyfranddaliadau y cewch o’r Cynllun.)

Ni fydd yn rhaid ichi ychwaith dalu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn eu cadw yn y Cynllun Cymhellion Cyfranddaliadau tan ichi eu gwerthu. Os byddwch yn cadw'r cyfranddaliadau ar ôl ichi eu tynnu o'r Cynllun, mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw gynnydd yn eu gwerth rhwng pryd yr ydych yn eu tynnu allan a phryd y byddwch yn eu gwerthu.

Os byddwch yn tynnu cyfranddaliadau o Gynllun Cymhellion Cyfranddaliadau'n fuan, byddwch yn talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol - a'r swm yn dibynnu ar pryd y tynnoch chi hwy allan.

Mae’n rhaid i Gynllun Cymhellion Cyfranddaliadau cymeradwy fod ar gael i weithwyr sydd wedi gweithio i’r cwmni am gyfnod penodol.

Mae pedwar ffordd wahanol y gallwch dderbyn cyfranddaliadau dan Gynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau:

Cyfranddaliadau am ddim

Gall eich cyflogwr roi gwerth hyd at £3,000 o gyfranddaliadau am ddim i chi mewn unrhyw flwyddyn dreth. Efallai bod y dyfarniadau’n gysylltiedig â pherfformiad, megis perfformiad unigolyn, tîm, adrannau neu unedau gwaith.

Cyfranddaliadau partneriaeth

Rydych yn gallu prynu cyfranddaliadau trwy'ch cyflog cyn y didynnir Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gallwch wario hyd at £1,500 mewn unrhyw flwyddyn dreth ar gyfranddaliadau partneriaeth (neu hyd at ddeg y cant o'ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth os yw hynny’n llai).

Cyfranddaliadau cyfatebu

Gall eich cyflogwr roi hyd at ddau gyfranddaliad cyfatebu am ddim ichi am bob cyfranddaliad partneriaeth y byddwch yn ei brynu.

Cyfranddaliadau difidend

Os ydych yn derbyn difidendau oddi wrth gyfranddaliadau am ddim, cyfranddaliadau partneriaeth neu gyfranddaliadau cyfatebu, gallwch eu defnyddio i brynu rhagor o gyfranddaliadau dan y Cynllun. Ni fydd yn rhaid ichi dalu Treth Incwm arnynt os byddwch yn cadw'r cyfranddaliadau difidend am o leiaf tair blynedd. Gallwch fuddsoddi hyd at werth £1,500 o ddifidendau ymhob blwyddyn dreth yn y ffordd hon.

Cynilo Wrth Ennill (CWE - SAYE)

Cynllun opsiwn i brynu cyfranddaliadau sy'n gysylltiedig â chynilo yw cynllun Cynilo Wrth Ennill cymeradwy. Rhaid i'r cynllun fod ar gael i bob gweithiwr sydd wedi bod gyda'r cwmni am gyfnod penodol. Mae'r cynllun yn rhoi hawl ichi - a elwir yn 'opsiwn' - brynu cyfranddaliadau gyda'ch cynilion o'r cynllun Cynilo Wrth Ennill am bris a bennir ar y cychwyn.

Gallwch gynilo hyd at £250 y mis dan y cynllun o'ch cyflog mynd-adre. Ar ddiwedd eich contract cynilo (tair neu bum mlynedd - weithiau saith) gallwch ddefnyddio'r cynilion i brynu'r cyfranddaliadau.

Manteision treth cynlluniau Cynilo Wrth Ennill cymeradwy

Mae'r llog ac unrhyw fonws y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd eich cynllun cynilo yn ddi-dreth - onid ydych yn eu cyfnewid am arian yn gynnar.

Hefyd, dydych chi ddim yn talu unrhyw Dreth Incwm na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gwahaniaeth rhwng y swm yr ydych yn ei dalu am y cyfranddaliadau pan fyddwch yn defnyddio'ch opsiwn a beth yw eu gwerth go iawn.

Treth pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau

Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau. Ond fyddwch chi ddim yn talu unrhyw dreth os rhowch y cyfranddaliadau mewn ISA neu mewn pensiwn wrth ichi eu prynu.

Cynllun Opsiwn i brynu Cyfranddaliadau mewn Cwmni

Mae Opsiwn i brynu Cyfranddaliadau mewn Cwmni sydd wedi'u cymeradwyo yn rhoi hawl ichi (neu 'opsiwn') i brynu gwerth hyd at £30,000 o gyfranddaliadau am bris sy’n cael ei benodi ar y cychwyn. Gall eich cyflogwr ddewis i bwy i gynnig yr opsiwn.

Manteision treth

Fyddwch chi ddim yn talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gwahaniaeth rhwng y swm yr ydych yn ei dalu am y cyfranddaliadau pan fyddwch yn defnyddio'ch opsiwn a beth yw eu gwerth go iawn.

Treth pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau

Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau.

Cymhellion Rheoli Mentrau

Os ydych yn gweithio i gwmni gydag asedau o hyd at £30 miliwn, gall gynnig Cymhellion Rheoli Mentrau i chi. Rhoddir opsiwn ichi brynu cyfranddaliadau gwerth hyd at £120,000 heb ichi orfod talu Treth Incwm na chyfranddaliadau Yswiriant Gwladol ar y gwahaniaeth rhwng y swm yr ydych yn ei dalu am y cyfranddaliadau pan fyddwch yn defnyddio'ch opsiwn a beth yw eu gwerth go iawn. Gall eich cyflogwr ddewis i bwy i gynnig yr opsiwn.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau.

A oes unrhyw anfanteision i ymuno â chynllun cymeradwy?

Os ydych yn ymuno â chynllun, dyma rai anfanteision posibl:

  • efallai y bydd gennych lai o arian i'w wario
  • efallai y byddwch yn teimlo bod rhaid ichi aros yn hwy gyda'r cwmni nag y dymunwch fel arall fel nad ydych yn colli'r manteision treth
  • efallai y bydd eich diogelwch ariannol yn y dyfodol yn dibynnu ar ba mor dda y mae'r cwmni yn ei wneud

Rheolau treth ar gyfer cynlluniau cyfranddaliadau gweithwyr eraill

Nid yw pob cynllun cyfranddaliadau gweithwyr yn cael eu cymeradwyo gan y llywodraeth - ac nid oes gan y cynlluniau hyn yr un manteision treth.

Gyda chynllun nad yw wedi'i gymeradwyo, byddwch yn talu:

  • Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn defnyddio'r opsiwn i brynu cyfranddaliadau am lai na'u gwerth
  • Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu’r cyfranddaliadau yn seiliedig ar y cynnydd yn eu gwerth ers y rhoddwyd y cyfranddaliadau i chi

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU