Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ffurflenni Talu Wrth Ennill: P45, P46, P60, P11D

Os ydych chi’n gyflogai, mae’n rhaid i'ch cyflogwr roi rhai dogfennau i chi – ffurflenni P45 a P60 – ynghylch y dreth rydych yn ei thalu ar eich cyflog. Os ydych yn cael buddion neu dreuliau, bydd eich cyflogwr yn anfon ffurflen P11D i Gyllid a Thollau EM. Fe gewch chi gopi o'r wybodaeth honno.

P45

Byddwch yn cael ffurflen P45 gan eich cyflogwr pan fyddwch yn rhoi’r gorau i weithio iddo. Mae’r ffurflen hon yn gofnod o'ch tâl a'r dreth sydd wedi'i thynnu ohono hyd yma yn y flwyddyn dreth. Mae'n dangos:

  • eich cod treth a'ch cyfeirnod Talu Wrth Ennill (Pay As You Earn)
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich dyddiad gadael
  • eich enillion yn ystod y flwyddyn dreth
  • faint o dreth a ddidynnwyd o'ch enillion

Mae pedair adran i P45 – Adran 1, Adran 1A, Adran 2 ac Adran 3.

Bydd eich cyflogwr yn anfon Adran 1 i Gyllid a Thollau EM ac yn rhoi'r tair adran arall i chi.

Pan fyddwch yn dechrau ar swydd newydd, neu'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, byddwch yn rhoi Adran 2 ac Adran 3 i'ch cyflogwr newydd neu i'r Ganolfan Waith.

Rydych yn cadw'r adran sydd ar ôl – Adran 1A ar gyfer eich cofnodion eich hun.

Dylech gael P45 gan eich cyflogwr yn awtomatig pan fyddwch yn rhoi’r gorau i weithio iddo. Os na chewch chi'r ffurflen ganddo, gofynnwch amdani – mae gennych hawl i’w chael dan y gyfraith.

P46

Os nad oes gennych chi P45 am eich bod, er enghraifft, yn dechrau ar eich swydd gyntaf neu’n derbyn ail swydd heb roi'r gorau i'ch swydd arall, gall eich cyflogwr newydd roi ffurflen P46 i chi ei llenwi. Mae’n cynnwys gwybodaeth bwysig sy’n effeithio ar faint o dreth y byddwch yn ei thalu, er enghraifft:

  • ai hon yw eich swydd gyntaf
  • a ydych wedi bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • a oes gennych swydd arall
  • a ydych yn talu benthyciad myfyrwyr

Efallai na fydd rhai cyflogwyr yn rhoi P46 i chi ei llenwi, ond yn gofyn i chi am yr wybodaeth berthnasol er mwyn neilltuo cod treth ar eich cyfer a chyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar eich diwrnod tâl cyntaf. Bydd Cyllid a Thollau EM yn prosesu’r P46 neu'r wybodaeth berthnasol a gafwyd gan eich cyflogwr. Mae’n bwysig eich bod yn llenwi'r P46 neu'n darparu'r wybodaeth berthnasol y mae'ch cyflogwr wedi gofyn amdani cyn gynted â phosib cyn eich diwrnod tâl cyntaf, er mwyn i'ch cyflogwr wybod pa god treth i'w ddefnyddio.

P60

Eich ffurflen P60 yw'r crynodeb o'ch tâl a'r dreth sydd wedi'i thynnu ohono yn ystod y flwyddyn dreth.

Dylai eich cyflogwr roi P60 i chi i'w chadw fel cofnod ar ddiwedd bob blwyddyn dreth (sy'n cychwyn ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol). Os na chewch chi P60 gan eich cyflogwr ar ddiwedd y flwyddyn dreth, gofynnwch amdani – mae gennych hawl i'w chael dan y gyfraith os ydych yn dal i weithio i’r cyflogwr hwnnw ar 5 Ebrill.

Efallai y bydd ei hangen arnoch i wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen dreth Hunanasesu, os yw hyn yn berthnasol i chi
  • hawlio treth yn ôl os ydych wedi talu gormod
  • gwneud cais am gredydau treth

Efallai y bydd ei hangen arnoch hefyd fel prawf o'ch incwm os byddwch yn gwneud cais am fenthyciad neu forgais – felly mae'n bwysig cadw'ch holl ffurflenni P60 yn ddiogel.

O flwyddyn dreth 2010-11 ymlaen, gellir darparu ffurflen P60 ar bapur neu’n electronig. Cyn y cewch chi fersiwn electronig, efallai y bydd eich cyflogwr yn cysylltu â chi i gadarnhau eich bod yn cytuno i gael eich P60 yn electronig. Bydd angen iddo wneud yn siŵr bod gennych chi fynediad at gyfleusterau diogel i weld copi a’i argraffu. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch gytuno gyda'ch cyflogwr ar gyfeiriad e-bost ar gyfer anfon y P60.

P11D

Mae'ch cyflogwr yn defnyddio ffurflen P11D i ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am werth unrhyw 'fuddion ymarferol' y mae wedi'u rhoi i chi yn ystod y flwyddyn dreth. Mae'r rhain yn cynnwys buddion neu dreuliau sy'n cynyddu'ch incwm mewn gwirionedd, megis:

  • car cwmni
  • yswiriant meddygol preifat
  • benthyciadau di-log

Dim ond os ydych wedi ennill o leiaf £8,500 yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys gwerth y buddion, y bydd eich cyflogwr yn datgan y rhain. Bydd yn cyfrifo beth yw gwerth pob budd, yn ei gofnodi ar y ffurflen ac yna’n ei hanfon i Gyllid a Thollau EM. Bydd yn rhoi copi i chithau hefyd, a byddwch angen y copi hwn ar gyfer eich cofnodion neu os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu.

Os byddwch yn gwneud cais am fenthyciad neu forgais, bydd banciau a chymdeithasau adeiladu'n derbyn P11D fel prawf o incwm ychwanegol.

Beth i’w wneud os nad yw'r ffurflenni gennych

P60 ar goll

Os ydych wedi colli’ch P60, gall eich cyflogwr roi ffurflen ddyblyg i chi. Ers 2010-11 nid oes rhaid i’ch cyflogwr ddangos ar y P60 ei bod yn fersiwn ‘ddyblyg’ mwyach.

Llenwi P46 os ydych wedi colli'ch P45

Os ydych wedi colli'ch P45, fyddwch chi ddim yn gallu cael un arall. Gall eich cyflogwr newydd roi P46 i chi ei llenwi, neu ofyn i chi am wybodaeth berthnasol i’w rhoi i Gyllid a Thollau EM er mwyn iddynt allu rhoi cod treth ar gyfer eich swydd newydd.

P11D

Does dim rhaid i'ch cyflogwr roi copi o’r P11D i chi. Ond dywed y gyfraith ei bod yn rhaid iddo ddweud wrthych pa fanylion y mae wedi'u cynnwys ar y ffurflen – hyd yn oed os ydych wedi gadael y swydd. Fel arfer, mae'n haws iddo roi copi o'r ffurflen i chi pan fydd yn ei hanfon i Gyllid a Thollau EM.

Os byddwch yn colli'ch copi chi, dylai eich cyflogwr allu rhoi un arall i chi. Os na, gofynnwch i Gyllid a Thollau EM am gopi.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU