Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithwyr achlysurol, rhan amser, dros dro – treth ac Yswiriant Gwladol

Os ydych yn gwneud gwaith rhan amser neu waith achlysurol neu waith dros dro, yr ydych fel arfer yn talu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn ennill mwy na swm penodol y flwyddyn. Mae hyn yn berthnasol pa un a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr

Os ydych yn gwneud gwaith rhan amser, dros dro neu achlysurol, yn unol â'r gyfraith rhaid i'ch cyflogwr:

  • ddidynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflog
  • rhoi slipiau cyflog ichi
  • didynnu ad-daliadau benthyciad myfyriwr, os yw'n berthnasol
  • rhoi ffurflen P45 ichi pan fyddwch yn gadael
  • rhoi'r crynodeb dreth P60 ichi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth os ydych yn dal i weithio i’r cyflogwr

Beth am arian mewn llaw?

Mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr dalu arian mewn llaw ichi heb ddidynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflog.

Os byddwch yn derbyn arian fel hyn, fe allech chi golli'ch hawliau cyflogaeth a'r hawl i rai budd-daliadau, megis:

  • absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth
  • tâl salwch
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Hefyd, gallech orfod talu'r dreth a'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun.

Os ydych yn amau nad yw eich cyflogwr yn talu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich cyflog, gallwch hysbysu'r Llinell Gymorth Osgoi Treth yn gyfrinachol ar rif ffôn 0800 788 887. Mae llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm ac maent yn llai prysur cyn 9.00 am fel arfer.

Os ydych chi'n gweithio i fwy nag un cyflogwr

Os ydych chi'n gweithio i fwy nag un cyflogwr, byddwch yn cael cod treth arbennig ar gyfer hyn.

Bydd eich lwfansau treth – y symiau y gallwch gael i leihau eich bil treth – fel arfer yn cael eu rhoi yn erbyn y cyflog o'ch prif swydd. Bydd eich swydd(i) eraill yn cael eu trethu ar y gyfradd sylfaenol, uwch neu ychwanegol, yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm.

Hawliau cyflogaeth

Mae gan bob gweithiwr hawliau, gweithwyr llawn amser, rhan amser, achlysurol neu dros dro, gan gynnwys:

  • tâl gwyliau
  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • diogelwch rhag gwahaniaethu

Os ydych yn pryderu am eich hawliau, gallwch ofyn i undeb am gymorth neu gallwch gael cyngor di-dâl gan eich swyddfa Cyngor Ar Bopeth leol.

Os ydych yn bensiynwr

Os ydych yn bensiynwr, hynny yw, os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn, nid oes angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar unrhyw enillion y byddwch yn eu derbyn ond efallai y bydd angen i chi dalu Treth Incwm. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy.

Os ydych yn fyfyriwr

Os ydych yn fyfyriwr, byddwch yn dal i dalu treth ar eich incwm onid yw'r cyfan o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn fyfyriwr llawn amser yn y DU, ac ond yn gweithio yn ystod y gwyliau
  • rydych yn dychwelyd i addysg amser llawn ar ôl y gwyliau
  • mae cyfanswm eich incwm am y flwyddyn o dan y lwfans personol

Gofynnwch i'ch cyflogwr am ffurflen P38S Myfyrwyr Sy'n Gweithio - fel na fydd treth yn cael ei didynnu o'ch enillion. Bydd Yswiriant Gwladol yn dal i gael ei ddidynnu os ydych yn ennill mwy na £146 yr wythnos.

Nodwch os gwelwch yn dda: O fis Ebrill 2013 ni fydd cyflogwyr yn defnyddio’r broses P38(S). Bydd eich cyflogwr yn gweithredu Talu Wrth Ennill (Pay As You Earn - PAYE) i ddidynnu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o’ch cyflog. Os ydych yn cael eich cyflogi gan gyflogwr sy’n rhan o’r peilot Gwybodaeth Amser Real (RTI), bydd y broses PAYE arferol yn berthnasol o 6 Ebrill 2012.

Os ydych yn gweithio i chi eich hun

Os ydych yn hunangyflogedig ar sail dros dro neu ran amser, rhaid ichi gofrestru'n ar gyfer trethi busnes gyda Chyllid a Thollau EM cyn gynted ag y dechreuwch weithio. Bydd rhaid ichi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad, a chi sy'n gyfrifol am dalu eich treth eich hun a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar yr incwm yr ydych yn ei ennill.

Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y byddwch yn ennill digon i dalu treth, bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth beth bynnag.

Gweithio am arian

Gallwch dderbyn taliadau mewn arian am waith a wnewch, ond mae'n anghyfreithlon peidio â datgan y rhain ar ffurflen dreth Hunanasesiad a pheidio â thalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol os yw'r rhain yn ddyledus. Bydd hyn yn dibynnu ar eich incwm trethadwy cyffredinol yn y flwyddyn dreth.

Gweld beth yw eich statws cyflogaeth

Mae'n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng bod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, gan fod hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os ydych yn bensiynwr

Yr ydych yn gorffen talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 mor gynted ag eich bod yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yr ydych yn gorffen talu cyfraniadau Dosbarth 4 o ddechrau’r flwyddyn dreth ar ôl yr un yr ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ond efallai y bydd angen i chi dalu Cymhorthdal Incwm.

A yw faint yr ydych yn ei ennill yn effeithio ar y dreth yr ydych yn ei thalu?

Mae pawb yn cael lwfans di-dreth personol (mae’r Lwfans Personol sylfaenol yn £8,105 yn 2012-2013). Does dim treth i'w thalu ar unrhyw beth yr ydych yn ei ennill o dan y swm hwn.

Mae'r Yswiriant Gwladol y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar eich enillion neu elw hefyd ac a ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych chi’n weithiwr, nid ydych yn talu unrhyw Yswiriant Gwladol os ydych yn ennill llai na £146 yr wythnos (ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-2013).

Os ydych chi’n hunangyflogedig, efallai na fydd rhaid i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych chi’n gymwys i gael Eithriad Enillion Isel ble mae disgwyl i’ch elw am y flwyddyn fod yn llai na £5,595 ar gyfer 2012-13.

Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ond yn ddyledus os bydd eich elw yn fwy na £7,605 yn 2012-13. Os ydych yn bensiynwr, nid oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU