Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Oes rhaid i chi dalu treth ar ôl ymddeol?

Ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond ni fyddwch yn awtomatig yn rhoi'r gorau i dalu Treth Incwm. Os yw eich incwm trethadwy - gan gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth - yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, byddwch chi'n parhau i dalu treth.

Sut wyf yn gwybod a ddylwn i fod yn talu treth ai peidio?

Efallai bod Cyllid a Thollau EM eisoes wedi cysylltu â chi i'ch helpu i ganfod a ddylech chi fod yn talu treth ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn ffurflen Lwfans Personol ar sail Oedran (P161) os ydych yn nesáu at 65 oed. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi hon er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r dreth gywir ac yn cael eich lwfansau sy'n gysylltiedig ag oed. Os ydych chi o fewn mis i gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych wedi clywed gan Gyllid a Thollau EM llwythwch y ffurflen isod oddi ar y we neu cysylltwch â nhw i ofyn am y ffurflen.

Canfod a ddylech fod yn talu treth

I ganfod a ydych yn drethdalwr, dilynwch y tri cham hyn (esbonnir y rhain yn fwy manwl isod):

  • adiwch eich holl incwm trethadwy
  • cyfrifwch eich lwfansau di-dreth
  • tynnwch eich lwfansau di-dreth o'ch incwm trethadwy

Os yw'ch incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, mae ’n rhaid i chi dalu treth a chysylltu â Chyllid a Thollau EM. Os yw eich lwfansau di-dreth yr un fath neu'n fwy na'ch incwm trethadwy, does dim rhaid i chi wneud dim. Os ydych yn credu na ddylech fod yn talu treth ond eich bod yn gwneud, gallwch hawlio arian yn ôl.

Cam un - adio'ch incwm trethadwy

Mae rhai mathau o incwm yn drethadwy a rhai mathau yn anrhethadwy. Dim ond eich incwm trethadwy a'ch lwfansau di-dreth mewn blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) y mae angen i chi eu cymharu i weld a ydych yn drethdalwr ai peidio.

Ceir manylion y mathau mwyaf cyffredin o incwm trethadwy ac incwm anhrethadwy isod. Fodd bynnag, dylech hefyd edrych ar y rhestr lawn o incwm trethadwy ac anhrethadwy drwy ddilyn y ddolen ar ddiwedd yr adran hon.

Incwm trethadwy

Mae eich incwm trethadwy'n cynnwys:

  • pob incwm pensiwn (gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth)
  • incwm o gyflogaeth/hunangyflogaeth os ydych yn parhau i weithio
  • y llog i gyd bron gan fanciau a chymdeithasau adeiladu (y swm 'gros' cyn y didynnir treth)
  • difidendau (incwm o gyfranddaliadau)
  • incwm o eiddo ar ôl tynnu costau - ond nid y £4,250 cyntaf os ydych yn rhentu ystafell yn eich tŷ sydd wedi’i dodrefnu
  • incwm o dramor (tynnir 10 y cant ar bensiynau tramor felly dim ond ar 90 y cant o'r cyfanswm y cewch eich trethu)
  • rhai budd-daliadau, gan gynnwys Lwfans Gofalwr, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a Budd-dal Analluogrwydd

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a bod gennych incwm o gynilion, buddsoddiadau neu eiddo a ddelir yn enwau'r ddau ohonoch, rydych fel arfer yn cael eich trin fel petaech yn cael hanner yr incwm yr un. Mae hyn yn golygu mai efallai dim ond ar eich hanner chi o’r incwm ar y cyd y mae'n rhaid i chi dalu treth. Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dim ond eich cyfran chi o'r incwm ar y cyd yr ydych yn ei gyfrif .

Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dim ond eich cyfran chi o'r incwm ar y cyd yr ydych yn ei gyfrif.

Os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, dim ond eich cyfran chi o'r incwm ar y cyd yr ydych yn ei gyfrif.

Incwm anhrethadwy

Mae incwm anhrethadwy yn cynnwys:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant
  • incwm neu log o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA), Cynllun Ecwiti Personol (PEP), neu Gyfrif Cynilion arbennig sy'n Rhydd o Dreth (TESSA)
  • llog o Dystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
  • llog a bonysau o gynllun Cynilo Wrth Ennill (SAYE)
  • enillion Bondiau Premiwm a'r Loteri Genedlaethol
  • rhai budd-daliadau, gan gynnwys Taliadau Tywydd Oer, Lwfans Gweini, Cymhorthdal Incwm a Lwfans Byw i'r Anabl
  • taliadau pensiwn cyfandaliad (ond nid cyfandaliadau o ohirio Pensiwn y Wladwriaeth neu bensiynau tramor)

Cam dau - adio'ch lwfansau di-dreth

Eich lwfansau di-dreth yw'r incwm a gewch heb orfod talu treth arno. Maent yn cynnwys y Lwfans Personol a'r Lwfans Person Dall.

Lwfans Personol

Mae pawb yn cael y Lwfans Personol Sylfaenol, ond os ydych yn 65 neu'n hŷn a bod eich incwm o dan lefelau penodol, mae'r gyfradd yn codi.

Cyfraddau’r Lwfans Personol 2012-2013


Cyfraddau'r Lwfans Personol

2012-13

Terfyn incwm (gweler y nodyn)
Y swm sylfaenol i rywun dan 65

£8,105

£100,000
65 i 74 oed

£10,500

£25,400

75 oed neu hŷn

£10,660

£25,400

Mae’r lwfansau sy’n gysylltiedig ag oed yn cael ei ostwng gan hanner y swm (£1 am bob £2) y mae’ch incwm trethadwy dros eich terfyn incwm. Mae Lwfans Personol Sylfaenol yn gostwng os yw’r incwm dros £100,000 gan £1 am bob £2 o incwm sy’n uwch na’r terfyn £100, 000. Mae’r gostyngiad hwn yn berthnasol beth bynnag fo’ch oedran.

Felly, er enghraifft, os ydych yn 66 oed gydag incwm o £25,900 (£500 dros y terfyn), byddai £250 (£500 ÷ 2) yn cael ei dynnu oddi ar eich lwfans ar sail oed o £10,500 gan adael £10,250.

Os ydych yn 66 oed a chydag incwm o £35,400 (£10,000 dros y terfyn), byddai eich lwfans ar sail oed o £10,500 yn gostwng £5,000 (h.y. £10,000 ÷ 2) yn £5,500. Fodd bynnag, allwch chi ddim cael llai na'r lwfans sylfaenol oni bai bod eich incwm yn fwy na £100,000 felly cewch £8,105.

Os ydych chi’n 66 oed ac mae gennych incwm trethadwy o £110,000 (10,000 dros y terfyn sylfaenol) caiff eich lwfans sylfaenol ei ostwng gan £5,000 (h.y. £10,000 ÷ 2) gan adael £3,105.

Lwfans Person Dall

Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall yng Nghymru a Lloegr gallwch hawlio Lwfans Person Dall. I hawlio hwn yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon mae’n rhaid na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol. Fel eich Lwfans Personol, mae hwn yn incwm y gallwch ei gael heb dalu treth arno. Ar gyfer 2012-13 y lwfans yw £2,100.

Cam tri - cyfrifo a ydych yn drethdalwr

Tynnwch eich lwfansau di-dreth o'ch incwm trethadwy. Os oes unrhyw beth ar ôl byddwch yn cyfrif fel trethdalwr a rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM os nad ydych eisoes yn talu treth. Os nad oes dim yn weddill, ni ddylech fod yn talu treth, ac efallai fod ad-daliad yn ddyledus i chi.

Cofiwch ei bod yn bosib eich bod yn gymwys i gael lwfansau eraill megis y Lwfans Pâr Priod a'r Gostyngiad ar Daliadau Cynnal. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu nad oes gennych ddim o gwbl i'w dalu. Dilynwch y ddolen isod 'Cyflwyniad i lwfansau a gostyngiadau os ydych chi'n talu treth' i ddysgu mwy.

Os ydych eisoes yn talu treth drwy'r system Talu Wrth Ennill, mae'n bosib y gall Gyllid a Thollau EM gasglu unrhyw dreth ychwanegol sy'n ddyledus gennych , gan gynnwys treth ar Bensiwn y Wladwriaeth yn y ffordd honno os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael pensiwn personol (gan gynnwys blwydd-dal) ymddeol) neu bensiwn cwmni
  • rydych yn gweithio’n rhan amser

Fel arall byddant yn gofyn i chi lenwi ffurflen P810 i roi gwybod am eich incwm neu i dalu treth drwy Hunanasesu.

Sut i gysylltu â Chyllid a Thollau EM

Os ydych am ffonio neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM dilynwch y ddolen ‘Cysylltu â Chyllid a Thollau EM’ isod. Os ydych yn hunangyflogedig ac eisiau ysgrifennu defnyddiwch y ddolen ‘Dod o hyd i Swyddfa Dreth – ar gyfer yr Hunangyflogedig’ isod. P’un ai rydych yn ffonio neu ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM bydd arnoch angen eich rhif Yswiriant Gwladol, os yn bosib.

Os ydych yn teimlo eich bod yn talu gormod o dreth

Os ydych yn meddwl eich bod yn talu gormod o dreth neu na ddylech fod yn talu treth o gwbl, dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut y gallwch hawlio ad-daliad.

Cael help a chyngor

Gall y sefydliadau isod eich darparu gyda chyngor treth annibynnol am ddim. Sylwer os gwelwch yn dda nad yw’r rhestr yn drwyadl a bod y dolenni yn rhai i sefydliadau allanol nad ydynt yn cael eu rheoli gan Gyllid a Thollau EM.

Allweddumynediad llywodraeth y DU