Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gallwch gael amcangyfrif o faint o Gredyd Pensiwn y gallech fod â hawl i’w gael. Gall y cyfrifiannell ar-lein roi’ch amcangyfrif i chi, ac mae’n hawdd ac yn gyflym i’w ddefnyddio. Darllenwch y dudalen hon i gael gwybod mwy am y gwasanaeth hwn ac i gael amcangyfrif.
Mae’n hawdd defnyddio’r cyfrifiannell, a dylai allu rhoi amcangyfrif i chi mewn ychydig funudau. Dilynwch y cyfarwyddiadau, gan bwyso’r botwm ‘Nesaf’ ar ôl gorffen un sgrin i fynd ymlaen i’r sgrin nesaf. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, gallwch ddefnyddio’r botwm ‘Blaenorol’ ar eich bar offer.
Wrth gyfrifo faint o Gredyd Pensiwn y mae gennych hawl iddo, caiff ffigur ‘net’ eich holl incwm trethadwy ei ystyried. Felly pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiannell, dylech roi’r ffigur net ar gyfer eich holl incwm trethadwy.
Gwybodaeth bwysig - os nad ydych wedi cyrraedd yr oedran gofynnol ar gyfer Credyd Pensiwn
Gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell hwn hyd yn oed os nad ydych eto wedi cyrraedd yr oedran gofynnol ar gyfer Credyd Pensiwn. Mae’r oedran cymhwyso ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu’n raddol i 66 yn unol ag y cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod.
I gael amcangyfrif o'ch Credyd Pensiwn gan y cyfrifiannell hwn, rhowch ‘1 Ionawr 1950’ fel eich dyddiad geni yn ystod cam dau.
Cofiwch, bydd faint o Gredyd Pensiwn y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran cymhwyso.
Gweler ‘Sut y gall eich amcangyfrif Credyd Pensiwn newid’ isod i gael mwy o wybodaeth.
Mae’r cyfrifiannell Credyd Pensiwn yn rhoi amcangyfrif o faint o Gredyd Pensiwn y gallech ei gael. Nid yw’n gais am Gredyd Pensiwn. Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am Gredyd Pensiwn, gweler ‘Credyd Pensiwn – cyflwyniad’.
Os ydych chi neu’ch partner wedi'ch cofrestru'n ddall dylech ffonio 0800 991 234 i gael gwybod os gallech fod â’r hawl i gael Credyd Pensiwn.
Mae’r amcangyfrif rydych ar fin ei gael yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwch am eich amgylchiadau.
Cofiwch y gall eich amcangyfrif fod yn anghywir:
Ni fydd y cyfrifiannell yn ystyried amgylchiadau pawb, er enghraifft os oes gennych gostau eraill sy’n ymwneud â’ch cartref, neu os ydych yn anabl neu’n ofalwr. Os ydych yn teimlo nad yw’n berthnasol i’ch amgylchiadau chi, cysylltwch â’r llinell gymorth Credyd Pensiwn.
Mae mwy o wybodaeth am yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn ar gael yn ‘Credyd Pensiwn – cyflwyniad’.
Ni chaiff yr wybodaeth a roddwch ei storio, felly does dim angen i chi boeni am faterion preifatrwydd. Ni fydd y ffaith i chi ddefnyddio’r cyfrifiannell hwn yn effeithio ar unrhyw gais y byddwch yn penderfynu ei wneud.