Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi'n ymddeol dramor, fe allwch chi barhau i dderbyn pensiwn y wladwriaeth gan y DU. Bydd eich pensiwn yn parhau i gynyddu’n flynyddol os ydych mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu wlad sydd â chytundeb arbennig â’r DU. Cael gwybod mwy ynghylch hawlio’ch pensiwn tra’ch bod tramor.Cael gwybod mwy ynghylch hawlio’ch pensiwn tra’ch bod tramor.
Os byddwch chi'n symud yn barhaol, dim ond os byddwch chi'n symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) y bydd eich pensiwn yn parhau i gynyddu'n flynyddol. Bydd eich pensiwn yn parhau i gynyddu’n flynyddol os ydych yn symund i un o’r wledydd sydd â chytundeb arbennig â'r DU.
Mae dolen isod i restr o'r gwledydd sydd yn AEE.
Os ydych chi'n byw yn y DU ac yn bwriadu byw y tu allan i AEE am beth amser, bydd angen i chi gael ffurflen gais BR19 o'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu o'ch swyddfa nawdd cymdeithasol.
Os byddwch chi'n symud i wlad arall yn AEE neu i unrhyw le arall yn y byd, bydd angen i chi roi gwybod i Wasanaeth Pensiwn y DU eich bod yn symud dramor a rhoi'ch cyfeiriad newydd iddynt (manylion cyswllt isod).
Mae oedrannau pensiwn y wladwriaeth a'r hawliau gwahanol yn amrywio o wlad i wlad
Os ydych chi am gael gwybod am eich hawliau pensiwn eich hun mewn gwlad arall yn AEE, rhaid i chi ofyn i'r adran neu'r uned sy'n gyfrifol am bensiynau a budd-daliadau yn y wlad honno. Ewch i wefan llywodraeth y wlad dan sylw.
Gall oedrannau a hawliau pensiwn y wladwriaeth amrywio yn dibynnu ar y wlad y byddwch chi'n byw ynddi.
Fe allwch chi ofyn am gael rhagolwg o'r pensiwn y gallwch ei ddisgwyl gan wladwriaeth y DU hyd at bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran pensiwn y DU.
Bydd y rhagolwg yn rhoi gwybod i chi faint o bensiwn sydd gennych chi ar hyn o bryd ac a fyddwch chi'n gallu cael mwy erbyn i chi gyrraedd oedran pensiwn y DU. Ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw yswiriant y byddwch wedi talu amdano mewn gwlad arall yn AEE.
Os byddwch chi'n byw y tu allan i'r DU, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM i gael rhagolygon pensiwn neu i holi am eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Dyma'r manylion cyswllt:
Elusennau, Asedau a Phreswylfa Cyllid a Thollau EM
Ystafell BP1301
Benton Park View
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1ZZ
Os ydych chi yn y DU fe allwch chi hefyd ffonio llinell gymorth y Ganolfan i bobl Ddibreswyl (Newcastle) ar:
Ffôn: 0845 915 4811
Os ydych chi'n ffonio neu'n anfon ffacs o'r tu allan i'r DU, deialwch y cod rhyngwladol, yna:
Ffôn: +44 191 203 7010
Cofiwch roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn pryd y bu i chi symud dramor
Mae gan bob gwlad yn AEE ei rheolau ei hun a gall yr oedran derbyn pensiwn amrywio.
Os ydych chi wedi bod yn talu am bensiwn gwladwriaeth y DU, fel arfer bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon ffurflen hawlio atoch bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran derbyn pensiwn yn y DU. Bydd honno'n gofyn a ydych chi'n dymuno hawlio pensiwn ymddeol y DU ac yn gofyn am fanylion unrhyw gyfnodau rydych chi wedi'u treulio mewn gwledydd eraill ac am unrhyw yswiriant gwladwriaeth sydd gennych yn y gwledydd hynny. Os ydych chi'n byw mewn gwlad arall yn AEE ac yn hawlio pensiwn gan y wlad honno, bydd Gwasanaeth Pensiwn y DU yn trosglwyddo manylion eich cais i unrhyw wlad arall yn AEE lle rydych chi wedi'ch yswirio.
Newid cyfeiriad
Cofiwch roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn pan fyddwch chi'n newid eich cyfeiriad neu efallai na fydd y ffurflen yn eich cyrraedd. Os oes gennych chi ymholiad ynghylch eich pensiwn pan fyddwch chi dramor, fe allwch chi naill ai gwblhau'r ffurflen ar-lein neu gysylltu â Chanolfan Bensiynau Ryngwladol y Gwasanaeth Pensiwn:
Y Ganolfan Bensiwn Ryngwladol
Tyneview Park
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1BA
Y Deyrnas Unedig
Ffôn: +44 (0)191 218 7777