Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi'n symud neu'n teithio dramor, ni fyddwch chi'n derbyn budd-daliadau yn awtomatig gan y DU. Bydd eich hawl i'w derbyn yn dibynnu a fyddwch yn aros dramor dros dro ynteu'n barhaol. Fe allwch chi barhau i hawlio rhai budd-daliadau tra byddwch chi dramor.
Rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa nawdd cymdeithasol (neu Ganolfan Gwaith neu Ganolfan Byd Gwaith) eich bod yn mynd dramor. Os mai mynd dros dro ydych chi, rhowch y dyddiad pryd yr ydych yn bwriadu dychwelyd.
Mae eich hawl i gael budd-daliadau dramor hefyd yn dibynnu ar y wlad rydych chi'n mynd iddi. Os ydych chi'n mynd i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu i wlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol â'r DU, efallai y bydd modd i chi gael budd-dal na fyddech fel rheol yn gallu'i gael dramor. Neu efallai y bydd modd i chi gael budd-dal gan y wlad honno.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fudd-daliadau sy'n cael eu rhoi gan wledydd eraill o dan y trefniant hwn, bydd angen i chi fod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU. Mae Ffurflen E301 yn gofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU a allai helpu'ch cais am fudd-dal diweithdra mewn gwlad arall yn yr UE. Fe allwch chi lwytho'r ffurflen hon a ffurflenni eraill perthnasol drwy ddilyn y ddolen isod.
Fe allwch chi hawlio'r taliadau hyn o dan rai amgylchiadau penodol. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod gennych hawl i'r taliadau pan oeddech chi'n byw yn y DU. Mae’n rhaid eich bod yn symud neu wedi symud i wlad arall yn AEE, i'r Swistir neu i Gibraltar.
Gwybodaeth ar Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ac yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych yn symud neu’n byw dramor.
Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau
Fel arfer, does dim modd i chi gael lwfans ar sail cyfraniadau y tu allan i AEE, ond efallai bod modd i chi gael lwfans ar sail cyfraniadau yn AEE am hyd at dri mis dan yr amgylchiadau hyn:
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
Os byddwch chi'n symud i fyw dramor yn barhaol, ni allwch gael lwfans ar sail incwm.
Fel rheol, does dim modd i chi gael lwfans ar sail incwm os byddwch chi'n symud dramor dros dro yn unig.
Gofynnwch yn eich swyddfa Canolfan Waith neu Ganolfan Byd Gwaith leol a oes angen i chi lenwi unrhyw ffurflenni cyn i chi fynd dramor, neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am lwfans ceisio gwaith.
Fel rheol, os ydych chi'n gweithio i gyflogwr o'r DU yn AEE, bydd modd i chi gael Tâl Mamolaeth Statudol os ydych chi'n gymwys o dan y rheolau cyffredinol.
Os ydych chi'n gweithio y tu allan i AEE, efallai y bydd modd i chi gael Tâl Mamolaeth Statudol os yw'ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich rhan.
Fel rheol, os ydych chi'n gweithio i gyflogwr o'r DU yn AEE, bydd modd i chi gael Tâl Salwch Statudol os ydych chi'n gymwys o dan y rheolau cyffredinol.
I fod yn gymwys os ydych chi'n byw y tu allan i AEE, bydd angen i'ch cyflogwr fod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich rhan.
Penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop ar Hydref 2007 y gellir talu rhai budd-daliadau anabledd y DU i rai pobl sy'n byw dramor. Byddai’n rhaid i bobl byw mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir. Mae'r penderfyniad yn effeithio ar:
I gael rhagor o wybodaeth am y penderfyniad hwn, ewch i 'Mynd â budd-daliadau anabledd i wledydd eraill yn Ewrop'.