Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ym mis Hydref 2007, penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop fod rhai budd-daliadau anabledd a budd-daliadau i ofalwyr yn fudd-daliadau salwch, ac y gellir eu talu i bobl sy’n gadael y DU i fyw yn rhywle arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu yn y Swistir.
Mae'r penderfyniad yn effeithio ar:
Nid yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.
Ceir pedwar prif grŵp o bobl a all barhau i gael y budd-daliadau hyn os ydynt yn symud o’r DU i fyw yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir. Mae AEE yn cynnwys 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.
Cewch barhau i gael y budd-daliadau hyn:
Gall tîm allforio'r Adran Gwaith a Phensiynau edrych ar eich cofnodion Yswiriant Gwladol i chi.
Os gallwch gael budd-dal salwch gan un o wladwriaethau eraill AEE neu gan y Swistir neu os ydych yn gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, gall hyn effeithio ar eich hawl i fynd â'r budd-dal anabledd gyda chi pan fyddwch yn symud.
Os oes gennych hawl fel aelod o deulu, mae'n bosib yr effeithir ar eich hawl i fynd â'r budd-dal anabledd gyda chi pan fyddwch yn symud os gall eich partner, eich partner sifil neu'ch rhiant gael budd-dal salwch neu os ydynt yn gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir.
Os ydych yn cael pensiwn ymddeol neu'r budd-dal analluedd gan un o wladwriaethau eraill AEE neu gan y Swistir, efallai y gallwch hawlio budd-dal anabledd o'r wlad honno yn hytrach nag o'r DU.
Mae dal yn ofynnol i chi fodloni'r amodau hawlio arferol ar gyfer y budd-daliadau yr ydych am fynd â hwy gyda chi. Yr unig wahaniaeth ar ôl i chi symud yw na fydd yn ofynnol bellach i chi:
Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, sy'n cael eu talu ar yr un gyfradd â'r Lwfans Gofalwr neu ar gyfradd uwch, efallai na chewch Lwfans Gofalwr.
Os cewch fynd â'ch budd-daliadau gyda chi pan fyddwch yn symud i fyw i un o wladwriaethau eraill AEE neu i’r Swistir, bydd yr amser y byddwch yn parhau i gael eich talu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os bydd eich anghenion neu’ch amgylchiadau'n newid, gallai hyn effeithio ar y cyfnod y bydd eich budd-dal yn cael ei dalu i chi.
Os ydych chi'n cael 'budd-daliadau perthnasol' o'r DU, bydd eich budd-dal anabledd yn cael ei dalu tra byddwch yn cael un o'r budd-daliadau hynny, neu tra byddwch yn cael eich budd-dal anabledd cyfredol, os yw'r cyfnod hwnnw'n llai.
Os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i allu hawlio budd-dal salwch ar sail cyfraniadau, caiff eich budd-dal ei dalu tra byddwch wedi'ch yswirio rhag y cyfraniadau hyn, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai.
Os ydych chi'n hawlio fel aelod o deulu:
Os gallwch gael budd-dal salwch neu bensiwn ymddeol gan un o wladwriaethau eraill AEE neu gan y Swistir neu os ydych yn gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, gallai hyn effeithio ar eich hawl i barhau i gael eich budd-dal anabledd o'r DU.
Os oes gennych hawl fel aelod o deulu, mae'n bosib yr effeithir ar eich hawl i barhau i gael y budd-dal anabledd os gall eich partner, eich partner sifil neu'ch rhiant gael budd-dal salwch neu os ydynt yn dechrau gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir.
Os ydych yn symud i fyw i un o wladwriaethau eraill AEE neu i’r Swistir, bydd angen i chi roi gwybod i'r tîm allforio am y newid yn eich amgylchiadau.
Pan fyddwch yn cysylltu â'r tîm allforio, rhowch wybod iddynt:
Os ydych yn symud i fyw i un o wladwriaethau eraill AEE neu i'r Swistir a'ch bod yn credu bod gennych hawl fel aelod o deulu, dywedwch wrthynt hefyd:
Os ydych yn credu y gallai penderfyniad y llys effeithio arnoch ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, dylech gysylltu â'r tîm allforio.
Os ydych eisoes wedi cysylltu â'r tîm allforio ynghylch y penderfyniad, ni fydd angen i chi gysylltu â nhw eto.
Os byddwch yn gofyn am allforio eich budd-dal anabledd ond nid ydych yn bodloni'r amodau perthnasol, ni fydd eich cais yn cael ei ganiatáu. Cewch ofyn i'ch cais gael ei ailystyried a chewch apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ond ceir dyddiadau cau penodol.
Os ataliwyd eich Lwfans Byw i’r Anabl neu eich Lwfans Gweini pan symudoch dramor, mae'n bosib eich bod wedi gwneud cais newydd neu wedi gofyn am adfer budd-dal.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi dethol nifer fechan o’r apeliadau hyn sy’n rhannu materion cyffredin (a elwir yn achosion blaen). Mae’r rhain wedi cael eu hanfon i’r tribiwnlys ar gyfer gwrandawiad. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gofyn am ohirio achosion tebyg nes i’r tribiwnlys wneud penderfyniad.
Bydd y tribiwnlys yn gwrando ar yr achosion hyn ym mis Mawrth 2010. Os ydych chi wedi gwneud apêl, cewch yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad, disgwylir y bydd hyn yn digwydd ym mis Ebrill 2010 ar y cynharaf.