Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio budd-daliadau anabledd os ydych yn byw mewn gwlad arall yn Ewrop

Ym mis Hydref 2007, penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop fod rhai budd-daliadau anabledd yn fudd-daliadau salwch, ac y gellir eu talu i bobl sydd wedi gadael y DU i fyw yn rhywle arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu yn y Swistir.

Budd-daliadau yr effeithir arnynt

Mae'r penderfyniad yn effeithio ar:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (elfen ofal yn unig)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr

Nid yw'r penderfyniad hwn yn effeithio ar elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.

Pwy all gael y budd-daliadau

Ceir pedwar prif grŵp o bobl a all gael y budd-daliadau hyn os ydynt yn byw yn un o wladwriaethau eraill Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir. Mae AEE yn cynnwys 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.

Mae'n bosibl y cewch y budd-daliadau hyn:

  • os ydych yn gweithio yn y DU neu'n talu Yswiriant Gwladol yn y DU oherwydd eich gwaith, ond yn byw yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, ac felly'n weithiwr sy'n byw mewn gwlad wahanol i'r wlad y mae'n gweithio ynddi ac yn dychwelyd i'r wlad honno o leiaf unwaith yr wythnos (gweithiwr dros y ffin) neu'n weithiwr sydd, am gyfnod cyfyngedig, yn gwneud ei waith mewn aelod-wladwriaeth wahanol i'r un y mae'n arfer gweithio ynddi (gweithiwr a anfonwyd i wlad arall)
  • os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i allu hawlio budd-dal salwch ar sail cyfraniadau yn y DU
  • os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Anafiadau Diwydiannol, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau neu Fudd-daliadau Profedigaeth o'r DU - cyfeirir at y rhain fel 'budd-daliadau perthnasol'
  • os ydych yn aelod o deulu (priod, partner sifil neu rywun sy'n ddibynnol ar riant) rhywun sy'n gweithio yn y DU, neu sydd wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i allu cael budd-dal salwch ar sail cyfraniadau yn y DU, neu sy'n cael Budd-dal Analluogrwydd tymor byr neu gyfradd cyfnod asesu'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau

Gall tîm allforio'r Adran Gwaith a Phensiynau edrych ar eich cofnodion Yswiriant Gwladol i chi.

Pan rydych yn byw yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, mae dal yn ofynnol i chi fodloni'r amodau hawlio arferol ar gyfer y budd-daliadau yr ydych am eu hawlio. Yr unig wahaniaeth yw nad oes rhaid i chi bellach:

  • breswylio'n arferol yn y DU
  • fod yn y DU

Rhaid eich bod wedi treulio o leiaf 26 wythnos o'r 52 wythnos ddiwethaf yn y DU ar ddyddiad pennu eich hawl i fudd-daliadau, oni bai eich bod:

  • yn weithiwr a anfonwyd i wlad arall neu'n weithiwr dros y ffin
  • yn aelod o deulu gweithiwr yn y DU, gan gynnwys gweithwyr a anfonwyd i wlad arall neu weithwyr dros y ffin
  • yn hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (yr elfen ofal) neu Lwfans Gweini dan y rheolau arbennig ar gyfer pobl derfynol wael

Os yw unrhyw un o'r eithriadau hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â'r tîm allforio am gyngor pellach.

Pethau eraill i fod yn ymwybodol ohonynt

Os gallwch gael budd-dal salwch gan wladwriaeth arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir neu os ydych yn gweithio neu wedi gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, gallai hyn effeithio ar eich hawl i gael y budd-dal anabledd o'r Deyrnas Unedig.

Os oes gennych hawl fel aelod o deulu, mae'n bosib yr effeithir ar eich hawl i gael y budd-dal anabledd os gall eich priod, eich partner sifil neu'ch rhiant gael budd-dal salwch neu os ydynt yn gweithio neu wedi gweithio mewn gwladwriaeth arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir.

Os ydych yn cael pensiwn ymddeol neu'r budd-dal analluedd o wladwriaeth arall yn AEE neu'r Swistir, efallai y gallwch hawlio budd-dal anabledd o'r wlad honno yn hytrach nag o'r DU.

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau eraill, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, ar yr un gyfradd â'r Lwfans Gofalwr neu ar gyfradd uwch, efallai na chewch Lwfans Gofalwr.

Am ba hyd y telir eich budd-dal

Pan fyddwch yn dechrau cael y budd-dal, eich amgylchiadau fydd yn pennu am faint y bydd eich budd-dal yn cael ei dalu i chi. Os bydd eich anghenion neu'ch amgylchiadau'n newid, gallai hyn effeithio ar y cyfnod y bydd eich budd-dal yn cael ei dalu i chi.

Os ydych chi'n cael 'budd-daliadau perthnasol' o'r DU, bydd eich budd-dal anabledd yn cael ei dalu tra byddwch yn cael un o'r budd-daliadau hynny, neu tra byddwch yn cael eich budd-dal anabledd cyfredol, os yw'r cyfnod hwnnw'n llai.

Os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol i allu hawlio budd-dal salwch ar sail cyfraniadau, caiff eich budd-dal ei dalu tra byddwch wedi'ch yswirio rhag y cyfraniadau hyn, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai.

Os ydych chi'n hawlio fel aelod o deulu:

  • rhywun sy'n gweithio yn y DU, telir eich budd-dal tra bydd yr unigolyn hwnnw'n parhau i weithio yn y DU, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai
  • rhywun sydd wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol iddynt allu hawlio budd-dal salwch ar sail cyfraniadau, caiff eich budd-dal ei dalu tra bydd yr unigolyn hwnnw wedi'i yswirio rhag eu cyfraniadau, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai
  • rhywun sy'n derbyn Budd-dal Analluogrwydd tymor byr neu gyfradd cyfnod asesu'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau, telir eich budd-dal tra bydd yr unigolyn hwnnw'n parhau i gael y budd-dal hwnnw, neu tra byddwch yn cael eich dyfarniad os yw'r cyfnod hwnnw'n llai

Os bydd gennych hawl i fudd-dal salwch gan wladwriaeth arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir yn y dyfodol, neu os byddwch yn dechrau gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir, gallai hyn effeithio ar eich hawl i barhau i gael eich budd-dal anabledd o'r DU.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych yn byw yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir a'ch bod am wneud hawliad, mae angen i chi gysylltu â'r tîm allforio.

Pan fyddwch yn cysylltu â'r tîm allforio, rhowch wybod iddynt:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • a ydych yn gweithio neu wedi gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir
  • a ydych eisoes yn cael unrhyw fudd-daliadau eraill gan wladwriaeth arall neu os byddwch yn gallu cael rhai

Os ydych yn byw yn un o wladwriaethau eraill Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir a'ch bod yn credu bod gennych hawl fel aelod o deulu, dywedwch wrthynt hefyd:

  • beth yw eich perthynas â'r aelod hwnnw o'r teulu
  • beth yw eu rhif Yswiriant Gwladol
  • a ydynt yn gweithio neu wedi gweithio yn un o wladwriaethau eraill AEE neu yn y Swistir
  • a ydynt eisoes yn cael budd-daliadau eraill gan wladwriaeth arall neu os byddech yn gallu cael rhai

Os ydych yn credu y gallai penderfyniad y llys effeithio arnoch ac nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, dylech gysylltu â'r tîm allforio.

Os byddwch yn gwneud cais ac nad ydych yn bodloni'r amodau perthnasol, ni fydd eich cais yn cael ei ganiatáu. Byddwch yn gallu gofyn i'ch cais gael ei ailystyried ac yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ond ceir dyddiadau cau penodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU