Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae'n darparu cymorth ariannol i bobl anabl a gofalwyr. Os ydych yn anhapus â'r ffordd y deliwyd â'ch hawliad, gallwch wneud cwyn.
Mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn delio â hawliadau ar gyfer y budd-daliadau canlynol:
Os ydych chi'n anhapus â'r gwasanaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch hawliad i wneud cwyn.
Bydd manylion cyswllt y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad ar frig unrhyw lythyrau y mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr wedi'u hanfon i chi. Os nad ydych yn siŵr â pha swyddfa i gysylltu, gallwch ffonio'r canlynol:
Mae'r broses hon yn wahanol i'r broses pan fyddwch yn meddwl bod penderfyniad am eich hawliad am fudd-dal yn anghywir.
I ddechrau, byddwch yn cael ymateb gan y tîm sy'n delio â'ch hawliad. Fe geisiant unioni pethau. Bydd eu hymateb yn eich gwahodd i ysgrifennu at eu rheolwr os ydych dal yn anfodlon. Os ydych dal yn anhapus â'r gwasanaeth ar ôl cael ymateb gan eu rheolwr, gallwch ysgrifennu at Brif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.
Os ydych dal yn anhapus â'r modd y deliwyd â'ch cwyn ar ôl cael ymateb gan Brif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, efallai y bydd modd i chi ofyn i'r Archwilydd Achosion Annibynnol ymchwilio i'r mater. Bydd ymateb y Prif Weithredwr yn dweud wrthych sut mae gwneud hynny.
Ym mhob cam o'r broses rhoddir arweiniad clir i chi ynghylch beth i'w wneud nesaf.
Delir â'ch cwyn yn y ffordd orau i chi. Er enghraifft, os ydych am iddyn nhw gysylltu â chi dros y ffôn, yn hytrach nag ysgrifennu atoch, rhowch wybod i'r swyddfa.
Bydd y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn anelu at ymateb i'ch cwyn o fewn saith niwrnod gwaith.
Archwilydd Achosion Annibynnol
Mae'r Archwilydd Achosion Annibynnol yn annibynnol ar y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr ac mae'n cynnig adolygu cwyn yn ddiduedd ac am ddim. Rhaid i chi gysylltu â hwy o fewn chwe mis o gael yr ateb terfynol am eich cwyn gan Brif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr.
Cofiwch na fydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn gallu edrych ar eich cwyn oni fyddwch wedi cael ymateb gan Brif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn dweud wrthych y gallwch wneud hynny.
Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd
Gallwch hefyd gysylltu â'ch Aelod Seneddol a fydd o bosib yn anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon.
Fodd bynnag, dylech gofio y byddai'r Ombwdsmon yn disgwyl i chi'n gyntaf gyflwyno'ch cwyn i'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr. Fel arfer ni fydd yr Ombwdsmon yn ymwneud ag achos o gŵyn nes bod y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr wedi cael cyfle i ddelio â'ch cwyn drwy eu trefn gwyno, gan gynnwys, lle bo'n briodol, bod yr Archwilydd Achosion Annibynnol wedi ymchwilio i'r mater.
Os yw'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr wedi gwneud camgymeriad difrifol, efallai y gall roi taliad bychan arbennig i chi.
Bydd yn ystyried gwneud taliad arbennig os bydd yn cytuno eich bod wedi dioddef yn ariannol o ganlyniad i gamgymeriad a wnaed wrth ddelio â'ch hawliad.
Gallwch lwytho taflen y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr ar ffurf PDF. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gwynion. Mae hefyd ar gael mewn sawl iaith dramor, ac mewn print bras, ar dâp sain/CD, Braille a fideo/DVD Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio â'ch hawliad os hoffech gael copi.
Os ydych chi'n meddwl bod penderfyniad am eich budd-dal yn anghywir, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio.
Gallwch hefyd ofyn iddynt ailystyried y penderfyniad. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gan amlaf, fe allwch apelio yn erbyn y penderfyniad.