Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau anabledd - ffilmiau gydag Iaith Arwyddion Prydain ac is-deitlau

Cyflwynir y ffilmiau byr, un am bob o’r tri budd-daliadau ac un ynghylch sut i wneud hawliad, mewn Iaith Arwyddion Prydain a chydag is-deitlau. Gellir eu llwytho oddi ar y we neu wneud cais am DVD.

Gweld y ffilmiau

Mae'r ffilmiau ar gael mewn dau fformat:

  • Fideo Windows Media - y ffeiliau WMV
  • Fideo Real Player - y ffeiliau RAM

Gan fod y ffilmiau'n cynnwys is-deitlau, ni all Cross & Stitch ddarparu maint fideo sy'n addas ar gyfer defnyddwyr modem deialu rhif - fodd bynnag, gellir archebu DVD.

Cliciwch ar y ffeil y dymunwch ei gweld a gallwch naill ai ei chwarae'n 'fyw' neu ei chadw ar eich cyfrifiadur i'w gweld yn hwyrach ymlaen.

Os dymunwch gadw’r ffeil, cliciwch ar y ddolen gyda botwm de eich llygoden. Yna, dylech weld rhestr o ddewisiadau gan gynnwys 'Cadw'r Targed dan yr enw...' ('Save Target As...') neu 'Cadw'r Ddolen dan yr enw...' ('Save Link As...'). Dewiswch hwn i gadw’r fideo ar eich cyfrifiadur.

Archebu'r DVD

Mae'r DVD yn cynnwys y pedwar budd-dal a nodir uchod - mae'n rhad ac am ddim. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion llawn eich cyfeiriad post. Dylai'r DVD gyrraedd o fewn pum niwrnod gwaith.

e-bost: customer.relationsteam@dwp.gsi.gov.uk
Ffacs: 01253 338723

Neu ysgrifennwch at:

Tîm Gwaith y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr
Ystafell 111, Bloc 1
Adeiladau'r Llywodraeth
Norcross Lane
Norcross
Blackpool
FY5 3TA

Additional links

Chi a'ch arian

Siop wybodaeth un stop ar gyfer cyllid personol, a gaiff ei darparu gan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU