Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau uniongyrchol - llyfryn gwybodaeth a chysylltiadau

Gellir cael gwybodaeth am daliadau uniongyrchol gan yr Adran Iechyd a'ch cyngor lleol. Mae gan yr Adran Iechyd lyfryn am daliadau uniongyrchol. Gall y cyngor eich helpu gydag ymholiadau penodol.

Llyfrynnau gwybodaeth

Mae'r Adran Iechyd yn cyhoeddi dau lyfryn gwybodaeth am daliadau uniongyrchol. Mae un ohonynt yn fersiwn hawdd ei ddarllen. Gellir eu llwytho oddi ar wefan yr Adran Iechyd neu gellir eu harchebu dros y ffôn.

Enw'r llyfryn safonol yw 'A guide to receiving direct payments from your local council'.

Enw'r llyfryn hawdd ei ddarllen yw 'An easy guide to direct payments'.

Os archebwch y llyfryn hawdd ei ddarllen dros y ffôn, gallwch ofyn am becyn sy'n cynnwys llyfr, CD-ROM a thâp sain.

I archebu copi o'r naill gyhoeddiad neu'r llall, ffoniwch linell archebu cyhoeddiadau'r Adran Iechyd.

Ffôn: 08701 555 455

Ffôn testun: 08700 102 870

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ymholiadau penodol

Os oes gennych gwestiwn am eich sefyllfa eich hun, eich cyngor lleol yw'r lle cyntaf i holi. Mae pob cyngor yn gweithredu'r broses taliadau uniongyrchol yn ei ffordd ei hun. Gall y cyngor hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth lleol.

Efallai hefyd y byddai'n ddefnyddiol i chi drafod eich sefyllfa gyda phobl anabl eraill sydd â phrofiad o ddefnyddio taliadau uniongyrchol.

Sut mae cwyno

Os ydych yn anhapus gyda'ch cyngor lleol, gallwch ddefnyddio trefn gwyno eich cyngor lleol.

Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan asiantaeth neu ofalwr, dylech gwyno wrth yr asiantaeth neu drafod y mater gyda'r unigolyn.

Additional links

Chi a'ch arian

Siop wybodaeth un stop ar gyfer cyllid personol, a gaiff ei darparu gan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU