Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall cadw mewn cysylltiad â phobl anabl eraill fod yn ffordd dda o gael cyngor a chefnogaeth anffurfiol. Gallwch ddod i adnabod pobl anabl eraill drwy grwpiau cefnogi lleol, drwy fudiadau ac elusennau anabledd neu drwy fforymau anabledd ar-lein.
Gall gwefan eich cyngor lleol restru mudiadau a grwpiau lleol sy'n cynnig cefnogaeth i bobl anabl. Fe gewch hyd i wefan eich cyngor lleol o'r ddolen isod. Dyma rai mannau eraill lle gallwch gael gwybod am grwpiau anabledd lleol:
Gall dod i ymwneud ag elusen neu fudiad arall sy'n cefnogi pobl gyda'ch anabledd neu'ch cyflwr meddygol penodol chi fod yn ffordd dda o gwrdd â phobl a chael cyngor am eich anabledd.
Mae gan rai mudiadau cenedlaethol rwydwaith o swyddfeydd lleol sy'n cynnig gwasanaethau cefnogi ac sy'n trefnu gweithgareddau cymdeithasol i aelodau.
Mae gan rai elusennau ar gyfer anableddau penodol fforymau trafod ar-lein lle gallwch sgwrsio gyda phobl eraill sydd â'r un anabledd â chi ac maent yn cynhyrchu cylchgronau a chyhoeddiadau eraill y gallwch danysgrifio iddynt. Mae gan lawer ohonynt linell gymorth hefyd y gallwch ei ffonio neu ei defnyddio gyda ffôn testun i gael cyngor arbenigol am eich anabledd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os mai newydd ddod yn anabl ydych chi neu os ydych yn bryderus ynglŷn â sut y gallai'ch anabledd effeithio ar benderfyniadau pwysig - fel dechrau teulu neu ddychwelyd i'r gwaith.
Mae rhai mudiadau ac elusennau'n rhedeg byrddau trafod, fforymau ac ystafelloedd sgwrsio ar y we yn arbennig ar gyfer pobl anabl. Dyma rai enghreifftiau: