Paratoi i symud neu ymddeol dramor
Mae symud dramor yn gam mawr. Ar wahân i ystyriaethau'n ymwneud â theulu a ffrindiau, dylech fod yn ymwybodol o faterion sy'n ymwneud â phensiynau, treth a chostau iechyd. I helpu, rydym wedi paratoi rhestr atgoffa i sicrhau eich bod wedi mynd i'r afael â'r materion pwysicaf.
Symud i’r UE?
Fel un o ddinasyddion y DU, mae gennych chi hawl i fyw yn unrhyw un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop (AEE). Os ydych chi'n bwriadu symud i unrhyw wlad arall, dylech ymweld i ddechrau â'r wefan Llysgenhadaeth Prydain y wlad honno am ragor o wybodaeth.
Treth, budd-daliadau a phensiynau
Cyn i chi symud, fe allwch chi wneud y canlynol:
- cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth
- gofyn i Gyllid a Thollau EM faint o dreth y mae'n rhaid ei dalu ar unrhyw incwm sydd dros lwfans personol y DU - gall y dreth y mae'n rhaid ei dalu yn y DU o dramor amrywio yn ôl lle y byddwch chi'n penderfynu byw
- cael cyngor treth annibynnol am unrhyw fanteision bancio dramor os ydych chi'n ymddeol dramor, gan y gallai hynny leihau faint o dreth y mae'n rhaid i chi ei dalu, yn dibynnu ar ble y byddwch chi'n byw
- rhoi gwybod i'ch swyddfa nawdd cymdeithasol, Elusen Cyllid a Thollau EM, Asedau a Phreswylfa, a'r Adran Gwaith a Phensiynau pan fyddwch chi'n symud a rhoi eich manylion cyswllt dramor
Iechyd
Dyma rai o'r pethau y gallech ystyried eu gwneud i warchod eich gofal iechyd:
- cael gwybod am hawliau lles dramor; does dim modd cael rhai o fudd-daliadau'r DU y tu allan i'r DU, tra bo eraill ar gael o fewn yr UE yn unig neu mewn gwledydd sydd â threfniant â'r DU
- cael gwybod am gostau gofal iechyd yn y wlad y byddwch yn symud iddi
- fe'ch cynghorir yn gryf i gael yswiriant iechyd os yw hynny'n angenrheidiol i ofalu am gostau triniaeth feddygol a deintyddol breifat, neu i ddychwelyd i'r DU am driniaeth feddygol
- rhoi gwybod i'ch meddyg, eich meddyg teulu, eich deintydd a darparwyr gofal iechyd perthnasol eraill