Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Wrth gynllunio taith neu arhosiad hir mewn gwlad dramor, mae'n bwysig eich bod yn meddwl am yr hyn y byddech yn ei wneud mewn argyfwng. Dyma ychydig o gyngor sylfaenol i chi allu ymlacio a mwynhau eich cyfnod dramor.
Awgrymiadau o ran sut i gadw'n ddiogel a chanllaw arfer da ar gyfer teithio neu fyw dramor:
Os ydych yn aros am drên, gwnewch yn siŵr eich bod yn sefyll yn rhywle sydd wedi'i oleuo'n dda lle gallwch weld popeth o'ch amgylch. Peidiwch â sefyll ar eich pen eich hun.
Pan ewch ar y trên, chwiliwch am sedd mewn cerbyd lle mae pobl eraill yn eistedd. Os bydd rhai pobl yn dechrau codi helynt, peidiwch â bod ofn symud cerbyd os yw hyn yn bosib.
Pan fyddwch yn mynd mewn tacsi i unrhyw le, dylech bob amser wneud yn siŵr eu bod wedi'u trwyddedu. Nid yw pobl sy'n sefyll ar y strydoedd yn gofyn i chi os oes angen tacsi arnoch o reidrwydd yn yrwyr tacsi go iawn; mae'n bosib y byddant yn ceisio eich twyllo neu ymosod arnoch.
Y peth gorau i chi wneud yw mynd i safle tacsis lle rydych yn gwybod bod tacsis trwyddedig yno neu ffonio cwmni tacsi rydych yn ymddiried ynddo i ddod i'ch nôl. Tra'r ydych yn aros i gael eich codi, ewch i rywle lle ceir llawer o bobl, fel archfarchnad neu fwyty. Peidiwch â chymryd risg a mynd i mewn i gar nad ydych yn sicr ohono.
Os ydych yn cerdded o gwmpas, mae pethau y gallwch eu gwneud er mwyn cadw'n ddiogel. Yn gyntaf, arhoswch mewn ardaloedd sydd wedi'u goleuo'n dda a lle ceir pobl o gwmpas. Os ydych yn mynd i rywle sy'n eithaf adnabyddus am fod ag enw drwg, peidiwch â mynd yno ar eich pen eich hun a cheisiwch beidio tynnu gormod o sylw atoch chi'ch hun.
Peidiwch â dangos eich ffôn neu'ch chwaraewr MP3 neu mae'n bosib y byddwch yn darged i fygwyr. Os ydych yn cario bag, sicrhewch ei fod wedi'i gau'n ddiogel ac na ellir ei gipio o'ch llaw neu'ch ysgwydd. Os ydych yn gwisgo sgarff, gwisgwch ef yn dynn heb linynnau rhydd y gellid eu tynnu er mwyn mynd â'ch sylw.