Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth i'w wneud pan fyddwch chi'n cyrraedd

Pan fyddwch chi'n cyrraedd y wlad, mae sawl cam y gallwch eu cymryd i wneud pethau'n haws. Efallai y bydd hwn yn gyfnod anodd i chi ac i'ch teulu, felly gall unrhyw baratoadau a wnewch fod o gymorth mawr.

Rhai o'r pethau y gallwch chi eu gwneud

  • cofrestrwch gyda'r awdurdodau lleol - efallai y bydd hyn yn eich galluogi i fanteisio ar wasanaethau lles lleol ar ôl peth amser - os ydych chi'n ansicr, gofynnwch
  • os ydych chi'n symud i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AAE - gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ynghyd â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy), rhaid i chi wneud cais am drwydded preswylio o fewn tri mis i gyrraedd yno
  • cofrestrwch gyda Swyddfa'r Is-Genhadaeth Brydeinig, gan y bydd hyn yn helpu'r Is-Genhadaeth i gadw mewn cysylltiad â chi pe baech chi'n mynd i drafferthion
  • sicrhewch fod eich pasport yn ddilys a llenwch fanylion y teulu agosaf ar y dudalen gefn - os yw'ch pasport ar fin dod i ben, gwnewch gais i'r Is-Genhadaeth Brydeinig am ei adnewyddu
  • agorwch gyfrif banc dramor; os ydych chi'n ymddeol, mewn llawer o wledydd gellir talu eich pensiwn yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc yno
  • os nad ydych chi wedi dechrau eisoes, dysgwch yr iaith leol, gan y bydd bywyd o ddydd i ddydd gymaint haws
  • os nad oes gennych chi un eisoes, gwnewch ewyllys - fe allwch chi gael cyngor cyfreithiol proffesiynol am sut i wneud hyn, a gall eich Is-Genhadaeth Brydeinig ddarparu rhestr o gyfreithwyr sy'n siarad Saesneg a allai'ch helpu
  • dysgwch am reolau traffig lleol - mae gennych hawl i yrru yng ngwledydd AEE ar drwydded ddilys o'r DU, er ei bod yn bosibl y bydd angen i chi ei newid am drwydded AEE genedlaethol unwaith y byddwch wedi cael statws preswylydd
  • ar gyfer gwledydd nad ydynt yn AEE, bydd angen i chi gael Hawlen Yrru Ryngwladol (IDP) cyn i chi adael y DU
  • dylech sicrhau bod gennych chi yswiriant llawn i yrru a bod eich car yn cydymffurfio â'r rheoliadau yn y wlad dan sylw
  • er mwyn eich helpu i ymgartrefu, chwiliwch am wybodaeth am gymdeithasau, clybiau, cyhoeddiadau a mudiadau elusennol Prydeinig ar gyfer y gymuned sy'n siarad Saesneg oddi cartref - mae modd cael rhestri gan eich Is-Genhadaeth Brydeinig leol
  • cadwch mewn cysylltiad - cofiwch roi eich cyfeiriad tramor i'ch teulu a'ch ffrindiau yn y DU
  • cadwch eich pleidlais drwy gofrestru yn y DU fel pleidleisiwr tramor

Additional links

Gwybod Faint i'w Yfed

Gallwch gael gwybod sawl uned o alcohol sydd yn eich hoff ddiod, sut i fwynhau yfed yn gyfrifol a mwy

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU