Ymwybyddiaeth ddiwylliannol
Drwy ddeall cyfreithiau ac arferion y wlad, bydd modd i chi addasu'n well mewn cartref newydd dramor. Gall bywyd fod yn anodd i ddechrau, felly drwy baratoi ymlaen llaw bydd modd i chi addasu'n gynt. Gall gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol a chyfreithiol hefyd eich helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd neu sefyllfaoedd a allai achosi chwithdod i chi.
Dysgu am bobl a diwylliant gwlad cyn ymweld â hi
Cyn ymweld â gwlad, gallwch ddysgu am ei phobl a bod yn ymwybodol o bethau fel ei harferion, ei chrefydd a'i hiaith.
Dyma rai awgrymiadau ar sut i ddechrau arni:
- prynwch lawlyfr da a dysgwch am y cyfreithiau, yr arferion a'r diwylliant lleol
- yn ddelfrydol, dysgwch yr iaith leol, a dylai fod gennych lyfr ymadroddion fan leiaf
- parchwch arferion lleol a dulliau gwisgo, gan ystyried beth fyddwch chi'n ei wisgo a pha mor weddus yw hynny
- byddwch yn synhwyrol cyn mynegi'ch barn am wahaniaethau diwylliannol, gan ymddwyn a gwisgo'n addas, yn enwedig wrth ymweld â mannau crefyddol, marchnadoedd a chymunedau gwledig
- dylech fod yn arbennig o ofalus nad ydych yn pechu yn erbyn codau lleol yn y ffordd y byddwch chi'n gwisgo ac yn ymddwyn, ac o ran cysylltiadau rhywiol, alcohol a chyffuriau - mewn rhai gwledydd, er enghraifft, mae'n anghyfreithlon yfed, a gall mewnforio alcohol i'r wlad arwain at gosbau llym iawn
- gofynnwch am ganiatâd unigolyn bob amser cyn tynnu llun ohonynt a pharchwch eu dymuniadau - mewn rhai diwylliannau, gall tynnu llun o fenyw ddigio pobl yn arw
- peidiwch â bargeinio yn rhy ymosodol; yn y rhan fwyaf o'r gwledydd lle bydd bargeinio'n digwydd, gwneir hynny gyda hiwmor ac ni fydd yn para'n rhy hir - mae'n bwysig cofio mai ychydig geiniogau efallai fydd y gwahaniaeth i chi, ond gall hynny fod yn incwm sylweddol i'r gwerthwr
- does dim niwed mewn bod yn rhy ofalus - gall ymddygiad a fyddai'n hollol ddiniwed mewn gwlad arall arwain at helbul difrifol
Cael gwybod rhywfaint o ffeithiau ac ystadegau am wlad
Efallai y gallwch ymchwilio i lle mae'r wlad yng nghyswllt y DU. Beth yw prifddinas, poblogaeth neu gyfansoddiad ethnig y wlad. Gallwch ddod i wybod beth yw'r arian maen a'r cyfraddau cyfnewid.
Ceisiwch gael gwybod sut mae'r tywydd yno. Beth yw'r newyddion diweddaraf neu ymdeimlad o hanes y wlad. Beth yw'r cod deialu rhyngwladol neu'r gwahaniaeth o ran amser i'r DU.