Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor am deithio i wledydd

Os ydych chi'n bwriadu teithio dramor, mae llond gwlad o wybodaeth a chyngor ar gael i chi. Mae'r adran hon yn cynnwys cyngor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ynghylch teithio ledled y byd.

Cael gwybod am fygythiadau posibl

Fe allwch chi edrych ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad lle ceir hysbysiadau teithio am fygythiadau posib i ddiogelwch personol oherwydd:

  • aflonyddwch gwleidyddol
  • gweithgareddau terfysgol
  • anhrefn
  • trais
  • trychinebau naturiol
  • epidemigau

Maent hefyd yn rhoi gwybodaeth am gyfreithiau lleol a'r gofynion ar gyfer mynd i mewn i wledydd.

Caiff yr wybodaeth ei hadolygu bob mis a phryd bynnag y bydd digwyddiad o bwys. Pan fydd argyfwng yn datblygu mewn ardal, caiff y cyngor ei ddiweddaru'n amlach, weithiau sawl gwaith y dydd.

Ymwybyddiaeth ddiwylliannol

Gall gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol a chyfreithiol eich helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd neu sefyllfaoedd a allai achosi chwithdod i chi.

Dylech wneud y canlynol:

  • prynwch lawlyfr da a dysgwch am y cyfreithiau, yr arferion a'r diwylliant lleol
  • ewch â llyfr ymadroddion gyda chi
  • parchwch arferion lleol a dulliau gwisgo, gan ystyried beth fyddwch chi'n ei wisgo a pha mor weddus yw hynny
  • byddwch yn synhwyrol cyn mynegi'ch barn am wahaniaethau diwylliannol, gan ymddwyn a gwisgo'n addas, yn enwedig wrth ymweld â mannau crefyddol, marchnadoedd a chymunedau gwledig
  • peidiwch â phechu yn erbyn crefydd Islam sy’n ymwneud â chysylltiadau rhywiol, alcohol a chyffuriau - mewn rhai gwledydd mae'n anghyfreithlon yfed alcohol a mewnforio alcohol i'r wlad
  • gofynnwch am ganiatâd unigolyn bob amser cyn tynnu llun ohonynt - mewn rhai diwylliannau, gall tynnu llun o fenyw ddigio pobl yn arw
  • peidiwch â bargeinio yn rhy ymosodol ond gyda hiwmor ac ni fydd yn para'n rhy hir - mae'n bwysig cofio mai ychydig geiniogau efallai fydd y gwahaniaeth i chi, ond gall hynny fod yn swm sylweddol i'r gwerthwr
  • byddwch yn ofalus - gall ymddygiad a fyddai'n hollol ddiniwed mewn gwlad arall arwain at helbul difrifol

Teithio yn Ewrop: ewch â'ch pasbort gyda chi

Er bod y DU yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE), mae dal angen i chi gario pasbort Prydeinig llawn bob tro y byddwch yn teithio i Ewrop. Mae hyn yn cynnwys tripiau undydd a theithiau gydag Eurostar. I oedolion, mae hyn yn golygu cario pasbort oedolyn deg-mlynedd; i blant, mae'n golygu pasbort plentyn pum-mlynedd, oni bai eu bod wedi'u cynnwys ar basbort eu rhieni.

Erbyn hyn, nid yw nifer o wledydd yn gofyn am gael gweld pasbortau ar y ffin i'w gwlad, ond maent yn dal yn disgwyl i ymwelwyr gario dogfennau adnabod dilys, sef pasbort Prydeinig yn achos teithwyr o'r DU.

A chofiwch, bydd angen i chi ddangos eich pasbort pan fyddwch chi'n dychwelyd i'r DU.

Teithio i'r Unol Daleithiau: oes angen fisa arnoch?

Nid oes angen fisa ar y mwyafrif o ddinasyddion Prydain sy'n ymweld â'r Unol Daleithiau am lai na 90 diwrnod, oherwydd Rhaglen Ildio Fisa yr Unol Daleithiau (US VWP). Mae US VWP yn caniatáu i ddinasyddion rhai gwledydd (gan gynnwys y DU) deithio i'r Unol Daleithiau heb fisa ar gyfer ymweliadau twristiaeth neu fusnes. Rhaid i’r ymweliadau hyn bara llai na 90 diwrnod.

Os ydych chi'n meddwl y gallai US VWP fod yn addas i chi, mae'n rhaid i chi wneud cais i gael eich awdurdodi cyn i chi deithio. Gallwch wneud hyn drwy wefan Adran Diogelwch y Famwlad yr Unol Daleithiau gan ddefnyddio'r System Electronig i Awdurdodi Teithio (ESTA).

Nid oes gan bob teithiwr o'r DU hawl i gael US VWP – byddai'n well i chi holi cyn gwneud dim trefniadau teithio.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Adran Diogelwch y Famwlad yr Unol Daleithiau, gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu ar wefan Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau.

Teithio i Libya ar basbort Prydeinig

Os ydych chi'n teithio i Libya ar basbort Prydeinig, rhaid i chi gael trawsgrifiad Arabeg o dudalen manylion eich pasbort. (Mae hwn yn ofyniad a ailbennwyd gan awdurdodau Libya ym mis Tachwedd 2007.)

Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) ychwanegu stamp ar eich pasbort sy'n darparu blychau gwag mewn Arabeg. Wedyn bydd angen i chi gysylltu â Llysgenhadaeth Libya er mwyn dod o hyd i gyfieithydd derbyniol i nodi'ch manylion mewn Arabeg yn y blychau hyn.

I gael gwybod sut mae ychwanegu'r stamp hwn ar eich pasbort ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000. Gallwch gysylltu â Llysgenhadaeth Libya yn Llundain ar 020 7201 8280.

Cael gwybod p’un ai bod pryderon diogelwch ynghylch cwmni hedfan

Er bod hedfan yn ffordd ddiogel iawn yn gyffredinol o deithio, mae safonau diogelwch yn amrywio mewn gwahanol rannau o’r byd. Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd ‘rhestr wahardd’ am gludwyr sydd wedi’u gwahardd rhag hedfan i’r Undeb Ewropeaidd oherwydd pryderon diogelwch. Dilynwch y ddolen isod a dewiswch y wlad y mae’r cwmni hedfan yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio wedi’i ei selio.

Mae’r cyngor teithio gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynnwys gwybodaeth ar ddiogelwch cwmnïau hedfan lleol. Dilynwch y ddolen isod a dewiswch wlad yr ydych yn bwriadu hedfan ohono.

Dinasyddion Tramor neu ddinasyddion y Gymanwlad sy'n teithio i diriogaethau tramor Prydain

Os ydych chi'n ddinesydd tramor neu'n un o ddinasyddion y Gymanwlad, bydd angen fisa arnoch i ymweld â thiriogaethau tramor Prydain (fel Bermuda neu Gibraltar). Os ydych eisoes yn y DU, gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau roi fisa i chi ar gyfer y tiriogaethau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, ffoniwch Llinell Gymorth Pasbortau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Cael mwy o gyngor

Gallwch gael cyngor ar deithio drwy ffonio canolfan alw cyngor teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar 0845 850 2829. Gallwch hefyd fynd i wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael amrywiaeth o gyngor manwl ar deithio.

I gael cyngor ar deithio i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd gallwch fynd ar wefan Your Europe.

Additional links

Gweld gwybodaeth ar fewnforio bwyd o wahanol gwledydd

Cael gwybod beth y gallwch ac na allwch ddod nôl gyda pan y byddwch yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU