Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddio’ch ffôn symudol dramor

Mae ffonau symudol yn ffordd gyfleus o gadw mewn cysylltiad tra byddwch chi’n teithio, ond mae galwadau rhyngwladol yn gallu bod yn ddrud. Gwybod pa gwestiynau y dylech eu gofyn ynghylch defnyddio eich ffôn dramor i gael y fargen orau gan eich darparwr gwasanaeth, ac osgoi cael bil mawr annisgwyl pan ddewch chi adref.

Gwneud yn siŵr y gallwch ddefnyddio’ch ffôn dramor

Gwasanaeth crwydro rhyngwladol yw enw’r gwasanaeth rhwydwaith sy’n gadael i chi ddefnyddio’ch ffôn o’r DU dramor. Mae'n ddrutach fel rheol na gwasanaeth ar gyfer y DU yn unig, ac nid yw wedi'i gynnwys yn y rhan fwyaf o becynnau 'bwndel' safonol.

Mae angen i chi wneud yn siŵr cyn i chi fynd y gallwch ddefnyddio eich ffôn dramor. Dylech ofyn i'ch darparwr rhwydwaith:

  • a yw eich ffôn yn barod i'w ddefnyddio dramor – os nad ydyw, gallant drefnu hyn ar eich cyfer, ond gall gymryd hyd at dair wythnos a rhaid gwneud hynny cyn gadael y DU
  • faint mae'n ei godi (y tariff) am wasanaethau crwydro rhyngwladol yn y wlad neu'r gwledydd y byddwch yn ymweld â hwy – gall cyfraddau newid ar fyr rybudd
  • a fydd eich ffôn yn gweithio yn y wlad rydych yn ymweld â hi – nid yw pob ffôn yn gweithio ym mhob gwlad, yn enwedig y tu allan i Ewrop

Darllen y print mân rhag ofn bod taliadau cudd

Cofiwch holi:

  • a fyddant yn codi tâl arnoch am dderbyn galwadau ar eich ffôn symudol pan fyddwch dramor
  • faint y byddant yn ei godi arnoch am negeseuon testun ac am lwytho data (a elwir yn ‘ddata wrth grwydro’)

Deall y Rheoliad Crwydro ar gyfer teithio yn yr UE

O 1 Gorffennaf 2010 ymlaen, caiff pobl o'r DU a fydd yn teithio yn yr UE eu gwarchod gan Reoliad Crwydro yr UE. Mae hyn yn golygu y bydd uchafswm y gellir ei godi arnoch am ddefnyddio data wrth grwydro ar eich cyfrifiadur neu'ch ffôn. Yr uchafswm yw 50 ewro, ond mae'n bosib y bydd eich darparwr gwasanaeth yn gadael i chi bennu uchafswm gwahanol neu ddewis peidio â defnyddio’r gwasanaeth.

Mae'r Rheoliad Crwydro hefyd yn golygu na ellir codi tâl arnoch am wrando ar negeseuon llais tra byddwch yn crwydro yn yr UE.

Os hoffech gael gwybodaeth am y Rheoliad Crwydro a chymharu tariffau yn aelod-wladwriaethau’r UE, dilynwch y dolenni i wefan Cymdeithas Wybodaeth y Comisiwn Ewropeaidd.

Cael y fargen orau

Mae gan y mwyafrif o ddarparwyr gwasanaethau ffôn symudol becynnau taliadau sefydlog misol sy'n cynnig prisiau rhatach am ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor. Os byddwch yn teithio'n aml neu am gyfnodau hir, gall y cynigion hyn fod yn rhatach o lawer i chi.

Os yw safon y galwadau a sicrwydd y signal ffôn yn bwysig i chi, efallai y gallech ddewis rhwydwaith penodol ar gyfer defnyddio'ch ffôn symudol dramor. Holwch eich darparwr gwasanaeth a yw'n cynnig dewis o rwydweithiau a sut mae newid rhyngddynt.

Ystyried prynu ffôn neu gerdyn SIM lleol

Os mai dim ond un wlad rydych yn ymweld â hi, efallai y bydd yn werth prynu cerdyn SIM newydd ar ôl cyrraedd. Dim ond ar rwydwaith y wlad honno y bydd y cerdyn SIM yn gweithio. Gallwch roi arian ar y ffôn fel y byddech yn ei wneud ar ffôn 'talu wrth ddefnyddio' yn y DU.

Os ydych chi'n poeni na fydd eich ffôn yn gweithio tra byddwch yno, gallech logi ffôn ar ôl cyrraedd. Gallwch wneud hyn yn y rhan fwyaf o feysydd awyr rhyngwladol.

Gwneud yn siŵr bod digon o arian ar eich ffôn symudol

Os ydych chi'n defnyddio:

  • gwasanaeth crwydro rhyngwladol eich darparwr rhwydwaith eich hun a chithau wedi talu amdano'n barod, gwnewch yn siŵr cyn gadael eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio eich cerdyn credyd i roi mwy o arian ar eich ffôn
  • talebau dylech brynu rhai cyn mynd, oherwydd efallai y bydd yn anoddach cael gafael ar rai dramor

Diogelwch ffonau symudol

Gwnewch nodyn o'r canlynol:

  • rhif cyfres eich ffôn symudol (a elwir hefyd yn rhif IMEI)
  • rhif eich ffôn symudol
  • rhif gwasanaethau cwsmeriaid eich gweithredydd (gan gynnwys y cod deialu ar gyfer y DU)

Cadwch y rhifau hyn mewn man diogel, ar wahân i'r ffôn ei hun. Os caiff eich ffôn ei ddwyn bydd modd i chi gysylltu â'r darparwr rhwydwaith yn y DU a gofyn iddynt rwystro'ch ffôn a'r/neu'r cerdyn SIM rhag cael eu defnyddio. Mae'n bosib y byddant yn gofyn am wybodaeth ychwanegol, megis cyfrinair, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth y bydd ei hangen ar eich gweithredydd cyn i chi fynd.

Additional links

Gweld gwybodaeth ar fewnforio bwyd o wahanol gwledydd

Cael gwybod beth y gallwch ac na allwch ddod nôl gyda pan y byddwch yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU