Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yswiriant teithio

Gall prynu yswiriant teithio eich helpu i gael cymorth ariannol ac ymarferol petai rhywbeth yn mynd o chwith ar eich taith. Yn anffodus, gall salwch, lladrad neu ddamweiniau ddigwydd yn unrhyw le. Cael gwybod beth y dylech chwilio amdano mewn polisi yswiriant teithio.

Y pethau pwysig

Gall yswiriant teithio amrywio'n fawr o ran pris a chynnwys. Os bydd eich taith yn cynnwys chwaraeon neu weithgareddau sy'n cael eu hystyried yn beryglus, gofalwch fod eich yswiriwr yn cynnig gwarchodaeth ychwanegol. Os na, efallai y bydd angen i chi gysylltu ag yswiriwr arbenigol. Dylech gael sawl pris gwahanol cyn dewis yswiriant teithio ac edrychwch yn ofalus i weld beth mae pob un yn ei gynnig.

Yr hyn y dylai polisi ei gynnwys

Efallai yr hoffech holi ynghylch y canlynol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr yswiriant yn addas i'ch anghenion:

  • triniaeth feddygol mewn argyfwng, costau ysbyty a chostau dychwelyd (i'r DU)
  • gwasanaeth cymorth 24 awr mewn argyfwng – mae rhai cwmnïau yswiriant yn cynnig llinell gymorth 24 awr rhag ofn y bydd gennych broblem ddifrifol
  • atebolrwydd personol - os caiff rhywun ei anafu neu os caiff eu heiddo ei ddifrodi gennych chi neu gan rywbeth sy'n berchen i chi, gallai'r unigolyn hwnnw wneud hawliad yn eich erbyn
  • beth sy'n digwydd os byddwch chi'n gorfod canslo neu derfynu'ch taith yn gynnar, gan y gallech orfod talu'r gost lawn neu gyfran o'r gost os byddwch yn canslo
  • cost eiddo personol newydd yn lle eiddo a gollwyd, gan gynnwys arian a dogfennau – bydd eich polisi yn datgan terfynau
  • yswiriant methiant cwmni hedfan (SAFI) – defnyddiol os ydych chi'n teithio'n annibynnol ac yn poeni am gostau ychwanegol y gallech eu hwynebu petai'ch cwmni hedfan yn mynd i'r wal

Ceir gwybodaeth fanwl am yswiriant teithio ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Ceir mwy o wybodaeth am SAFI drwy ddilyn y ddolen 'Eich hawliau os bydd cwmni hedfan neu gwmni teithio yn mynd i'r wal'.

Additional links

Gweld gwybodaeth ar fewnforio bwyd o wahanol gwledydd

Cael gwybod beth y gallwch ac na allwch ddod nôl gyda pan y byddwch yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU