Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mynd â’ch anifeiliaid anwes dramor

Os ydych yn mynd dramor gyda’ch cath, eich ci neu'ch ffured, gallai'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes (PETS) helpu i osgoi cyfnodau hir o gwarantîn ar ôl i chi ddychwelyd. Gall cŵn tywys a chŵn clyw hefyd deithio gyda'r cynllun.

Cynllun PETS

Rheolau teithio ar gyfer anifeiliaid anwes – yma cewch wybod bydd fydd angen i chi ei wneud os ydych yn teithio gydag anifail anwes ar 1 Ionawr 2012 neu ar ôl hynny

Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i rwystro'r gynddaredd (rabies) ac afiechydon eraill rhag lledaenu, ond gan adael i anifeiliaid deithio yr un pryd.

Nid oes achos o'r gynddaredd wedi bod yn y DU ers blynyddoedd lawer, ond mewn rhai gwledydd eraill mae’n dal i beri risg i famolion.

O 1 Ionawr 2012 ymlaen, gall pob cath, ci neu ffured ddod i mewn i’r DU neu ddychwelyd i’r DU o unrhyw wlad yn y byd heb gwarantîn cyn belled â'u bod yn bodloni rheolau’r cynllun, a fydd yn wahanol gan ddibynnu ar ba wlad neu diriogaeth y mae’r anifail anwes yn dod ohono. Gallwch weld manylion ynghylch y drefn lawn ar gyfer paratoi eich anifail anwes ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

I fod yn gymwys, mae'n ofynnol bod eich cath, eich ci neu'ch ffured:

  • yn cael microsglodyn yn gyntaf
  • ac yna'n cael pigiad rhag y gynddaredd (rabies)

Mae'n ofynnol bod anifeiliaid anwes o’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd rhestredig:

  • yn aros 21 diwrnod ar ôl dyddiad eu pigiad gyntaf ar gyfer y gynddaredd cyn dychwelyd i’r DU neu cyn teithio i wlad arall


Mae'n ofynnol bod anifeiliaid anwes o wledydd anrhestredig:

  • yn cael prawf gwaed, o leiaf 30 diwrnod ar ôl cael brechiad, gan labordy wedi'i gymeradwyo gan yr Undeb Ewropeaidd a bod canlyniad y prawf hwnnw'n foddhaol
  • yn aros chwe mis calendr ar ôl y dyddiad y cymerwyd y sampl gwaed boddhaol cyn dychwelyd i'r DU


Rhaid i chi hefyd sicrhau bod eich anifail anwes:

  • yn cael pasbort anifeiliaid anwes gan eu milfeddyg
  • yn cael triniaeth gan filfeddyg i atal llyngyr, dim llai na 24 awr a dim mwy na 120 awr (1-5 diwrnod) cyn yr amser rhestredig i ddod i mewn i'r DU (cŵn yn unig)
  • yn teithio i'r DU ar lwybr wedi'i gymeradwyo gan PETS naill ai dros y môr, ar awyren neu ar drê

Cyn i chi fynd

Rhaid i chi drefnu'ch taith ddwyffordd i'r DU gydag un o'r nifer o gludwyr a gymeradwyir gan PETS, ar lwybr a gymeradwyir gan PETS. Mae'r llefydd sydd ar gael yn gyfyngedig ac fe'u dyrennir ar sail y cyntaf i'r felin.

Rhaid i chi drefnu ymlaen llaw. Os na fyddwch yn gwneud hynny ni chaiff eich anifail anwes deithio.

Gofalu am eich anifail anwes wrth deithio

Gall yr awgrymiadau hyn wneud taith eich anifail anwes mor gyffyrddus â phosib:

  • gwnewch yn siŵr bod eich anifail anwes mor heini ac iach ag y bo modd fel y gall wrthsefyll y siwrnai
  • rhowch bryd ysgafn o fwyd i'ch anifail anwes tua dwy awr cyn iddo deithio
  • rhowch gyfle i'ch anifail anwes fynd i'r toiled cyn iddo gael ei roi yn y gawell y bydd yn cael ei gludo ynddi
  • rhowch gyfle i'ch anifail anwes ymgyfarwyddo â'r gawell cyn y daith
  • dylai fod digon o aer yn y gawell y bydd eich anifail anwes yn cael ei gludo ynddi, dylai'r gawell fod yn ddiogel gyda digon o le i'r anifail symud, a dylai gynnwys cynwysyddion bwyd - rhai y gellir eu hail-lenwi'n hawdd ar siwrnai hir - er mwyn sicrhau bod yr anifail yn cael digon o fwyd a dŵr
  • rhowch glustog neu flanced gyfarwydd yn y gawell er mwyn helpu'ch anifail i setlo

Dychwelyd i’r DU

Wrth ddychwelyd i'r DU, bydd y staff trafnidiaeth yn edrych ar basport eich anifail anwes er mwyn sicrhau bod gofynion y cynllun wedi cael eu bodloni. Os oes gwaith papur ar goll neu os nad yw'ch anifail anwes wedi cael ei baratoi'n gywir, gellid:

  • mynd ag ef i gwarantîn yn y DU
  • ei ddychwelyd i'r wlad y mae newydd ddod ohoni

Teithio â chŵn cymorth cofrestredig

Mae'r Gymdeithas Cŵn Tywys i Bobl Ddall, mewn partneriaeth â:

  • mudiadau eraill sy'n ymwneud â chŵn cymorth yn y Deyrnas Unedig
  • Defra
  • nifer o gwmnïau hedfan yn y DU

wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau i berchnogion cŵn cymorth cofrestredig sy'n dymuno defnyddio'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes.

Fel arfer, mae'n rhaid i anifeiliaid anwes sy'n dod i'r Deyrnas Unedig ar awyrennau dan y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes gael eu cario yn howld yr awyren. Fodd bynnag, caniateir i gŵn tywys neu gŵn cymorth eraill deithio yn y caban gyda'u perchnogion, ar lwybrau penodol sydd wedi'u cymeradwyo.

Mae'r adran pobl anabl yn rhoi mwy o wybodaeth am gŵn tywys hefyd.

Additional links

Gweld gwybodaeth ar fewnforio bwyd o wahanol gwledydd

Cael gwybod beth y gallwch ac na allwch ddod nôl gyda pan y byddwch yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU