Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhestr atgoffa i deithwyr

Er mwyn eich helpu i gael gwyliau diogel, dyma ddeg o'r pethau pwysicaf i'w gwneud cyn i chi fynd. Maent yn cynnwys awgrymiadau ar yswiriant teithio a gofalu am eich pasbort. Cadwch eich pasbort yn ddiogel trwy’r amser ac wedi’i ddiweddaru, oherwydd wyddoch chi byth pryd y bydd ei angen arnoch.

Y deg peth pwysicaf i’w gwneud cyn mynd

Cyn i chi adael:

  1. edrychwch ar gyngor teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) ar eu gwefan neu ffoniwch 0845 850 2829
  2. gwnewch yn siŵr bod gennych yswiriant teithio a gofalu bod hwnnw'n addas
  3. prynwch lawlyfr da i ddod i adnabod y lleoliad dan sylw, gan gynnwys y cyfreithiau a'r arferion lleol
  4. gwnewch yn sicr fod gennych chi basbort dilys a'r fisas angenrheidiol
  5. ewch i weld eich meddyg teulu o leiaf chwe wythnos cyn i chi deithio i gael gwybod pa frechiadau y mae eu hangen arnoch ac a oes angen i chi gymryd rhagofalon iechyd ychwanegol
  6. gwnewch yn siŵr fod gan y cwmni sy'n trefnu eich taith bolisi ar gyfer ad-dalu ac ar gyfer dod â theithwyr adref os bydd y cwmni'n mynd i'r wal (dylai hyn gael ei ategu gan sefydliad sy'n cynnig gwarchodaeth ariannol)
  7. os bydd eich taith yn cynnwys teithio gyda chwmni hedfan sy'n ddieithr i chi, efallai yr hoffech chi gysylltu ag asiant teithio sydd ag enw da i ofalu eu bod yn ddiogel ac yn ddibynadwy
  8. gwnewch gopïau o'ch pasbort, o'ch polisi yswiriant, o rif argyfwng 24 awr ac o fanylion eich tocynnau - gan adael copïau gyda theulu a ffrindiau
  9. ewch â digon o arian gyda chi ar gyfer eich taith ynghyd ag arian wrth gefn, e.e. sieciau teithio, punnoedd sterling neu ddoleri UDA
  10. gadewch gopi o gynllun eich taith a'ch manylion cyswllt gyda theulu a ffrindiau - eich cyfeiriad e-bost, er enghraifft

Mae gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad hefyd yn rhoi cyngor teithio penodol i: fenywod

  • teithwyr hoyw a lesbiaidd
  • teithwyr ifanc
  • teithwyr yn y byd chwaraeon
  • teithwyr ar wyliau byr
  • heicwyr

Bod yn ddoeth gyda'ch pasbort

Cyn i chi adael gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud y canlynol:

  • llenwi manylion eich perthynas agosaf ar y dudalen olaf o’ch pasbort
  • nodi rhif eich pasbort a'r dyddiad cyhoeddi, gan gadw'r rhain mewn man diogel ar wahân i'r pasbort ei hun
  • pacio math arall o ddogfen adnabod
  • gwneud yn siŵr y bydd unrhyw blant sy'n teithio ar eich pasbort dal yn iau nag 16 oed pan fyddant yn dychwelyd (os na, bydd angen eu pasbort eu hunain arnynt – pasbort plentyn os byddant yn dal yn iau nag 16 oed pan fyddant yn hedfan ar ddechrau'r daith, a phasbort oedolyn os byddant yn 16 oed pan fyddant yn hedfan ar ddechrau'r daith)

Dylech edrych hefyd pryd y bydd eich pasbort yn dod i ben ac a yw bron yn llawn. Ni fydd rhai gwledydd yn caniatáu mynediad i chi os oes llai na chwe mis ar ôl ar eich pasbort. Mae'r rheolau'n amrywio o wlad i wlad. Er enghraifft, bydd De Affrica yn gwrthod pobl os oes llai na dwy dudalen wag ar ôl ar eu pasbort.

Os yw'ch pasbort yn ei flwyddyn olaf neu os yw bron yn llawn, dylech holi beth yw rheolau'r gwledydd yr ydych yn bwriadu ymweld â hwy cyn trefnu eich taith. Gallwch holi'ch asiant teithio neu lysgenhadaeth y wlad dan sylw.

Os bydd angen i chi adnewyddu eich pasbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ychwanegu unrhyw amser sydd ar ôl ar eich hen basbort at eich pasbort newydd. Gall hwn fod yn uchafswm o naw mis.

Additional links

Gweld gwybodaeth ar fewnforio bwyd o wahanol gwledydd

Cael gwybod beth y gallwch ac na allwch ddod nôl gyda pan y byddwch yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU