Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Drwy gynllunio ychydig ymlaen llaw, gallwch warchod eich iechyd pan fyddwch yn teithio ac osgoi biliau meddygol annisgwyl. Mae’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) am ddim ac yn rhoi hawl i chi gael triniaeth am ddim neu am bris gostyngol yn Ardal Economaidd Ewrop ac yn y Swistir. Yma cewch wybod sut mae adnewyddu neu wneud cais am EHIC.
Gall fod yn anodd ac yn ddrud cael triniaeth iechyd mewn rhai gwledydd. Gall Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) eich helpu i dalu am unrhyw driniaeth gan y wladwriaeth os bydd angen pan fyddwch yn ymweld â gwledydd yn Ardal Economaidd Ewrop.
Gallwch hefyd wneud pethau cyn i chi fynd dramor i warchod eich iechyd eich hun ac iechyd eich teulu. Er enghraifft, dylech gael gwybod am y peryglon iechyd yn y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi. Sicrhewch bob amser eich bod wedi cael unrhyw frechiadau y mae eu hangen arnoch cyn i chi fynd.
Mae eich cerdyn Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd am ddim, a bydd yn ddilys ledled Ardal Economaidd Ewrop (AEE) ac yn y Swistir. (Mae AEE yn cynnwys aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd ynghyd â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy.)
Mae'r cerdyn yn eich galluogi i fanteisio ar ofal iechyd gan y wladwriaeth am bris rhatach, weithiau am ddim, pan fydd ei angen arnoch oherwydd salwch neu ddamwain ar eich taith. Mae hefyd yn eich gwarchod rhag cyflyrau a oedd gennych eisoes. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn ynghylch y warchodaeth a gewch a phwy sy'n gymwys ar wefan NHS Choices.
Y ffordd gyflymaf yw gwneud cais ar-lein. Fel rheol, bydd eich cerdyn yn cyrraedd o fewn saith niwrnod.
Gallwch hefyd wneud cais dros y ffôn ar 0845 606 2030 neu drwy'r post gan ddefnyddio ffurflen gais sydd ar gael mewn rhai swyddfeydd post. Rhaid i chi wneud cais drwy'r post:
Gallwch wneud cais:
Caiff staff addysgu mewn ysgolion preswyl hefyd wneud cais ar ran unrhyw blant yn eu gofal.
Ar gyfer pob unigolyn yr ydych yn gwneud cais ar ei ran, bydd yn rhaid i chi ddarparu:
Cofiwch edrych ar y dyddiad ar eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd cyn teithio i wneud yn siŵr nad yw wedi dod i ben
Sut a phryd ddylwn i adnewyddu fy ngherdyn?
Mae Cardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn ddilys am hyd at bum mlynedd.
Dylech wneud cais am un newydd cyn y dyddiad y daw i ben - gallwch wneud cais hyd at chwe mis cyn i'ch hen gerdyn ddod i ben. Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein neu dros y ffôn ar 0845 606 2030.
Gallwch hefyd wneud cais drwy'r post gan ddefnyddio’r ffurflen sydd ar gael mewn rhai swyddfeydd post lleol. Ond cofiwch y bydd ceisiadau drwy'r post yn cymryd mwy o amser.
Os oes arnoch angen cerdyn Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn lle un sydd ar goll neu wedi'i ddwyn, ffoniwch 0845 606 2030.
Os bydd y Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn pan rydych dramor, gallwch wneud cais am Dystysgrif Dros Dro (Provisional Replacement Certificate - PRC). Bydd hon yn rhoi'r un warchodaeth i chi â'r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd tra byddwch dramor.
I gael PRC ffoniwch +44 (0)191 218 1999 (mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm). Cadwch y rhif hwn ac ewch ag ef gyda chi pob tro pan fyddwch yn teithio dramor.
I gael PRC bydd angen i chi roi:
Bydd rhai gwledydd yn disgwyl i chi dalu’ch bil iechyd ar y pryd ac yna hawlio ad-daliad drwy ddefnyddio’ch Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd. Dylech chi bob amser geisio gwneud cais am eich ad-daliad cyn i chi deithio yn ôl i’r DU. I gael manylion am sut i hawlio ad-daliad, gweler yr wybodaeth am y wlad dan sylw yn ‘Hawlio ad-daliad drwy ddefnyddio’ch Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd - canllaw i bob gwlad’.
Os oes angen i chi wneud hawliad pan fyddwch yn ôl yn y DU ffoniwch y Tîm Gofal Iechyd Tramor ar 0191 218 1999. Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am a 5.00 pm.
Gall ychydig o waith paratoi wneud gwahaniaeth mawr. Cyn teithio, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y canlynol:
Cysylltwch â'ch meddyg teulu, nyrs practis neu glinig teithio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am imiwneiddiadau y mae'n bosib y bydd eu hangen ar eich plentyn.