Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Arian teithio ac arian cyfred tramor

Gallwch ddefnyddio arian cyfred lleol, sieciau teithio neu gardiau rhagdaledig, a chardiau debyd neu gredyd tra byddwch dramor. Mynnwch wybod sut i gael eich arian teithio, pa daliadau y bydd angen i chi eu talu a sut i'w gadw'n ddiogel.

Arian cyfred tramor

Gallwch brynu arian cyfred tramor mewn:

  • banciau
  • rhai asiantau teithio
  • rhai Swyddfeydd Post
  • bureaux de change mewn meysydd awyr, terfynellau hwylio ac ar rai llongau

Gall taliadau comisiynu amrywio, felly chwiliwch am y fargen orau cyn prynu.

Nid yw pob cyfnewidfa arian cyfred yn rhoi darnau arian, felly holwch am hyn. Er enghraifft, efallai y bydd angen darnau arian arnoch am drolïau bagiau yn y maes awyr.

Os byddwch am gael swm mawr o arian neu arian cyfred anarferol, efallai y bydd angen i chi ei archebu ymlaen llaw.

Cadarnhewch y gyfradd gyfnewid

Mae faint o arian cyfred y bydd eich punt Brydeinig (neu 'bunt sterling') yn ei brynu yn dibynnu ar y gyfradd gyfnewid, a all newid o ddydd i ddydd.

Caiff cyfraddau cyfnewid eu harddangos mewn mannau cyfnewid arian. Gallwch gadarnhau cyfraddau ar-lein hefyd drwy roi 'currency converter' neu 'exchange rate' i mewn i beiriant chwilio. Mae'n well mynd ar sawl gwefan a dylech bob amser gadarnhau bod y cyfraddau yn gyfredol.

Yr ewro

Ers 2002, mae'r ewro wedi disodli'r hen fathau o arian cyfred cenedlaethol yn yr 16 gwlad yn 'ardal yr ewro'. Gallwch ddefnyddio holl arian papur a darnau arian yr ewro ym mhob gwlad yn ardal yr ewro.

Mae ardal yr ewro yn cynnwys:

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Cyprus
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Yr Almaen
  • Gwlad Groeg
  • Yr Eidal
  • Iwerddon
  • Lwcsembwrg
  • Malta
  • Yr Iseldiroedd
  • Portiwgal
  • Sbaen
  • Slofacia
  • Slofenia

Nid yw'r DU, Denmarc na Sweden yn rhan o ardal yr ewro.

Cyfnewid hen arian cyfred ardaloedd i'r ewro

Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir cyfnewid arian papur a oedd yn gyfreithlon hyd at 31 Rhagfyr 2001, fel y Ffranc Ffrengig, i'r ewro o hyd.Er mwyn eu cyfnewid, bydd angen i chi anfon eich arian papur drwy bost cofrestredig i'r banc canolog cenedlaethol perthnasol. Gallwch chwilio am y cyfeiriad ar-lein.

Mewn rhai achosion, gellir cyfnewid rhai darnau arian i'r ewro. Fodd bynnag, ni allwch wneud hyn mewn sawl gwlad mwyach. Bydd angen i chi deithio i'r wlad ei hun a chyfnewid eich darnau arian ym manc canolog cenedlaethol y wlad. Eto, gallwch chwilio am y cyfeiriad ar-lein.

Terfynau amser ar gyfer cyfnewid arian papur a darnau arian

Gwlad

Arian papur

Darnau arian

Awstria

Dim terfyn amser

Dim terfyn amser

Gwlad Beug

Dim terfyn amser

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Yr Almaen

Dim terfyn amser

Dim terfyn amser

Gwlad Groeg

Hyd at 1 Mawrth 2012

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Sbaen

Dim terfyn amser

Dim terfyn amser

Ffrainc

Hyd at 17 Chwefror 2012

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Iwerddon

Dim terfyn amser

Dim terfyn amser

Yr Eidal

Hyd at 29 Chwefror 2012

Hyd at 29 Chwefror 2012

Lwcsembwrg

Dim terfyn amser

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Yr Iseldiroedd

Hyd at 1 Ionawr 2032

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Portiwgal

Hyd at fis Chwefror 2022

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Y Ffindir

Hyd at 29 Chwefror 2012

Hyd at 29 Chwefror 2012

Slofenia

Dim terfyn amser

Hyd at fis Rhagfyr 2016

Cyprus

Hyd at 31 Rhagfyr 2017

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Malta

Hyd at 31 Ionawr 2018

Nid oes modd eu cyfnewid mwyach

Slofacia

Dim terfyn amser

31 Rhagfyr 2013

Sieciau teithio

Sieciau wedi'u rhagargraffu'n barod ar gyfer swm penodol o arian cyfred yw sieciau teithio. Maent yn fwy diogel nag arian parod oherwydd gallwch eu canslo a chael rhai newydd yn eu lle os byddwch yn eu colli neu os cânt eu dwyn.

Gallwch brynu sieciau teithio mewn banciau ac asiantau teithio. Fel arfer maent ar gael mewn:

  • Doleri Canada
  • Doleri'r UD
  • ewros
  • punnoedd sterling
  • ien Siapan

Gallwch gyfnewid sieciau teithio mewn banciau a'u defnyddio mewn llawer o siopau a bwytai.

Pan fyddwch yn prynu sieciau teithio byddwch yn llofnodi pob un. Pan fyddwch am wario un ohonynt, byddwch yn ei chydlofnodi ac yn ei rhoi i'r banc neu'r bwyty. Gall y talai ofyn am gael gweld tystiolaeth o bwy ydych.

Mae sieciau teithio ar gael mewn symiau penodol, felly efallai y bydd angen i fanwerthwr roi newid i chi fel pe baech wedi talu mewn arian parod.

Gwirio comisiwn a thaliadau

Pan fyddwch yn prynu sieciau teithio, efallai y byddwch am holi faint o gomisiwn y mae eich cyflenwr yn ei godi. Efallai y byddwch am holi hefyd a fydd yn cyfnewid unrhyw sieciau teithio heb eu defnyddio yn ddi-dâl.

Awgrymiadau ar sut i gadw eich sieciau teithio'n ddiogel

Cadwch eich sieciau teithio'n ddiogel drwy wneud y canlynol:

  • peidio â chydlofnodi'r sieciau hyd nes eich bod am eu defnyddio
  • nodi rhifau cyfresol pob siec a rhif cyswllt lleol y cwmni a'u rhoddodd i chi - cadwch y wybodaeth hon ar wahân i'r sieciau
  • cadw eich derbynneb

Cardiau rhagdaledig i deithwyr

Mae rhai cwmnïau’n cynnig cardiau rhagdaledig mewn sawl arian cyfred fel dewis amgen i sieciau teithio. Gallwch roi arian arnynt ymlaen llaw a'u defnyddio dramor mewn peiriannau codi arian neu siopau.
Gall cardiau rhagdaledig fod yn ffordd dda o gadw at gyllideb, ond cadarnhewch y taliadau a'r costau cyn i chi deithio.

Defnyddio cardiau credyd neu ddebyd dramor

Gellir defnyddio cardiau sy'n dangos brand cynllun cerdyn rhyngwladol (megis Visa neu Mastercard) mewn siopau a pheiriannau codi arian ledled y byd.

Cadwch eich cardiau'n ddiogel

Cyn i chi fynd:

  • gwnewch nodyn o rif ffôn 24 awr cwmni eich cerdyn
  • sicrhewch fod gan gwmni eich cerdyn eich manylion cyswllt diweddaraf, gan gynnwys eich rhif ffôn symudol

Tra byddwch yn teithio:

  • peidiwch â gadael eich cerdyn allan o'ch golwg
  • peidiwch byth â rhoi eich PIN i neb
  • cuddiwch eich PIN pan fyddwch yn ei deipio ar fysellbad

Ar ôl eich taith:

  • cymharwch dderbynebau â chyfriflen eich cerdyn a ffoniwch gwmni eich cerdyn ar unwaith os byddwch yn poeni am drafodiad

Taliadau cardiau credyd a debyd

Bydd cwmni eich cerdyn fel arfer yn codi tâl arnoch am ddefnyddio eich cerdyn dramor.

Cyn i chi fynd:

  • cadarnhewch faint mae cwmni eich cerdyn yn ei godi am godi arian parod a phrynu eitemau dramor

Tra byddwch yn teithio:

  • cymharwch y gyfradd gyfnewid arian tramor lleol a'r taliadau â'r taliadau y mae cwmni eich cerdyn yn eu codi - mae codi arian o beiriant arian parod lleol yn amlach yn rhatach na phrynu arian cyfred yn lleol

Am ragor o gyngor, lawrlwythwch y canllaw gan Gymdeithas Cardiau'r DU ar ddefnyddio eich cerdyn dramor.

Diogelu nwyddau a brynir gyda cherdyn credyd

Os byddwch yn defnyddio cerdyn credyd a gyhoeddwyd yn y DU i brynu rhywbeth sy'n costio rhwng £100 a £30,000, cewch eich diogelu o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr os yw'r nwyddau:

  • yn ddiffygiol
  • heb gyrraedd

Mae hyn yn berthnasol dramor yn ogystal ag yn y DU. Mae rhai cardiau credyd yn cynnig diogelwch tebyg. Dylech gadarnhau'r manylion gyda chwmni eich cerdyn.

Additional links

Gweld gwybodaeth ar fewnforio bwyd o wahanol gwledydd

Cael gwybod beth y gallwch ac na allwch ddod nôl gyda pan y byddwch yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU