Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawliau os bydd cwmni hedfan neu gwmni teithio yn mynd i'r wal

Mynnwch wybod pa ddiogelwch ariannol sydd ar gael os bydd cwmni hedfan neu gwmni teithio yn mynd i'r wal. Bydd eich lefel o ddiogelwch yn amrywio yn dibynnu a wnaethoch drefnu gwyliau pecyn neu wneud eich trefniadau eich hun. Sicrhewch eich bod wedi gofyn y cwestiynau cywir cyn i chi ei drefnu.

Gwyliau pecyn

Mae'n rhaid i bob cwmni sy'n gwerthu gwyliau pecyn gynnig diogelwch os bydd ef, neu'r cwmni hedfan rydych yn hedfan gydag ef, yn mynd i'r wal er mwyn:

  • eich atal rhag colli arian
  • eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau ymarferol

Mae'n rhaid i weithredwyr teithiau, sy'n gwerthu gwyliau pecyn hedfan, feddu ar Drwydded Trefnwyr Teithiau Hedfan (ATOL) gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Bydd eich anfoneb gan y gweithredwr teithiau yn dangos bod gennych ddiogelwch gan ATOL. Mae hon yn ddogfen bwysig. Cadwch hon yn ddiogel a chofiwch fynd â hi gyda chi rhag ofn bod angen i chi brofi eich bod wedi'ch diogelu.

Cadarnhewch a oes diogelwch ATOL gan eich gweithredwr teithiau

Er mwyn cadarnhau a oes diogelwch ATOL gan eich gweithredwr teithiau, dilynwch y ddolen isod a nodwch enw'r cwmni yn y blwch 'check an ATOL'.

Cadarnhewch a yw eich taith yn cael ei hystyried yn wyliau pecyn

Mae rhai cwmnïau hedfan yn y DU yn cynnig gwyliau pecyn neu gyfuniad o hediad yn ogystal â llety neu logi car sy'n cynnwys diogelwch gwyliau pecyn.

Fodd bynnag, mae gwefannau rhai cwmnïau hedfan yn rhoi dolen i wefannau eraill lle y gallwch drefnu llety neu logi car. Yn yr achos hwn, rydych yn ei brynu ar wahân gan gwmni gwahanol. Ni chaiff ei ystyried yn wyliau pecyn ac nid yw'n cynnwys diogelwch gwyliau pecyn. Dylech gadarnhau a yw'r naill gwmni neu'r llall yn cynnig diogelwch ac, os felly, beth mae hwn yn ei gwmpasu. Ceir rhagor o wybodaeth o dan 'Teithio'n annibynnol’, isod.

Eich hawliau ar wyliau pecyn

Os ydych dramor ar wyliau pecyn a bod eich cwmni hedfan yn methu, bydd eich gweithredwr teithiau yn gofalu amdanoch heb iddo gostio dim yn ychwanegol i chi.

Os bydd cwmni hedfan yn methu cyn i chi deithio, mae'n rhaid i'ch gweithredwr teithiau gynnig gwyliau eraill neu gynnig ad-daliad.

Os bydd eich gweithredwr teithiau yn methu a bod ganddo ddiogelwch ATOL, bydd y CAA:

  • yn mynd â chi adref os ydych eisoes ar eich gwyliau
  • yn rhoi ad-daliad llawn i chi os nad ydych wedi teithio

Gweler 'Cyngor ar wyliau gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth' am ragor o wybodaeth am eich hawliau defnyddwyr.

Cyrraedd adref

Fel arfer, byddwch yn gallu cyrraedd adref yn unol â'ch cynlluniau, ar yr un dyddiad ac i'r un maes awyr yn y DU. Efallai y bydd angen i chi ymestyn eich gwyliau ychydig ddyddiau neu hedfan o neu i faes awyr gwahanol o bryd i'w gilydd. Ni chodir tâl arnoch am eich hediad yn ôl neu am unrhyw drafnidiaeth ychwanegol y bydd ei hangen arnoch oherwydd bod y maes awyr wedi newid.

Teithio'n annibynnol

Byddwch yn ymwybodol o'ch hawliau pan fyddwch yn trefnu'r gwyliau

Os byddwch yn trefnu hediad yn uniongyrchol â chwmni hedfan, ni chewch eich diogelu gan ATOL os bydd y cwmni hedfan yn methu pan fyddwch dramor. Fodd bynnag, gallwch ddiogelu eich hun ar yr adeg trefnu drwy:

  • ei drefnu drwy asiant sy'n cynnig diogelwch o dan ATOL neu gynllun arall - cadarnhewch pa ddiogelwch y mae'r asiant yn ei gynnig
  • dalu drwy gerdyn credyd (am symiau dros £100) neu gerdyn debyd Visa - cadarnhewch pa ddiogelwch y mae darparwr eich cerdyn yn ei gynnig

Gallwch hefyd drefnu yswiriant teithio ychwanegol os credwch y bydd yn werth chweil (gweler 'Yswiriant teithio ar gyfer teithwyr annibynnol' isod).

Cyrraedd adref

Os bydd y cwmni hedfan rydych wedi trefnu eich gwyliau ag ef yn mynd i'r wal, bydd angen i chi gael hediad yn ôl gyda chwmni hedfan arall. Os bydd oedi neu os na fydd unrhyw gwmni hedfan arall yn hedfan yr un llwybr, efallai y bydd angen i chi:

  • trefnu i aros mewn gwesty
  • teithio ymhellach ar ddechrau neu ar ddiwedd eich taith neu'r ddau

Bydd angen i chi wneud a thalu am y trefniadau hyn eich hun.

Mae rhai cwmnïau hedfan yn cynnig 'tocynnau dychwelyd i'w mamwlad' i deithwyr diymgeledd. Mae'r rhain fel arfer ar gael dros y ffôn yn unig o fewn ychydig oriau i gwmni teithio fynd i'r wal (ond efallai nid ar unwaith) ac maent yn para tua phythefnos.

Am docynnau arferol, gallwch gysylltu â chwmnïau hedfan eraill neu asiantau teithio lleol, neu holwch wrth ddesgiau gwybodaeth neu docynnau meysydd awyr.

Hawlio ad-daliad

Efallai y bydd gennych hawl i gael ad-daliad rhannol neu lawn os gwnaethoch drefnu eich hediad gwreiddiol:

  • gyda chwmni ar wahân i'r cwmni hedfan ei hun - cysylltwch â'r cwmni cyn prynu hediad newydd
  • drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu gerdyn debyd Visa - cysylltwch â darparwr eich cerdyn

Os gwnaethoch dalu arian i gwmni hedfan sydd bellach yn nwylo gweinyddwyr, gallwch geisio hawlio gan y Gweinyddwr penodedig. Efallai y gallwch gael ei fanylion ar wefan y cwmni hedfan neu ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil

Yswiriant teithio i deithwyr annibynnol

Mae rhai polisïau yn cwmpasu achosion pan fydd y cwmni hedfan yn methu, fel arfer drwy gynnwys Yswiriant Methiant Cwmni Hedfan Rhestredig (SAFI). Fodd bynnag, nid yw llawer o bolisïau yn cynnwys SAFI ac mae rhai darparwyr yswiriant yn eithrio cwmnïau hedfan penodol.

Efallai y byddwch yn gallu:

  • prynu SAFI ar ben eich yswiriant
  • prynu yswiriant diogelwch gwyliau ar wahân

Ystyriwch a ydych am gael yswiriant am yr arian rydych wedi'i dalu a chostau ychwanegol y gallech eu hwynebu os bydd eich cwmni hedfan yn mynd i'r wal. Efallai y bydd hyn yn dibynnu ar:

  • faint y gwnaethoch ei dalu am y daith
  • eich hyder yn y cwmni hedfan
  • pa mor rhad neu hawdd y gallech gyrraedd adref mewn ffordd arall

Additional links

Gweld gwybodaeth ar fewnforio bwyd o wahanol gwledydd

Cael gwybod beth y gallwch ac na allwch ddod nôl gyda pan y byddwch yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU