Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os na allwch gyrraedd eich gwaith oherwydd anhrefn teithio, er enghraifft gweithred streic, amodau tywydd garw, neu anhrefn mawr arall, bydd angen i chi gael gwybod beth yw'ch hawliau. Efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gymryd diwrnod o wyliau neu fe allech ddod i gytundeb arall.
Os na allwch gyrraedd eich gwaith oherwydd anhrefn teithio mawr dylech gael sgwrs â'ch cyflogwr. Ceisiwch ddod i gytundeb ynghylch sut y delir â'r diwrnod hwnnw - mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn hyblyg.
Gall eich hawliau hefyd ddibynnu ar eich contract cyflogaeth felly edrychwch ar eich contract, eich llawlyfr staff neu eich rhyngrwyd fewnol. Os mae’n pennu bydd fydd yn digwydd, yna dylai eich cyflogwr ddilyn yr hyn a nodir.
Dim ond os mae eich cyflogwr wedi rhoi’r rhybudd cywir i chi y gallant ofyn i chi gymryd gwyliau (gwyliau blynyddol).
Yn aml, bydd rhaid i’ch cyflogwr roi rhybudd i chi sy’n ddwywaith cyfnod y gwyliau yr hoffai eich cyflogwr i chi ei gymryd. Er enghraifft, os yw'ch cyflogwr am i chi gymryd diwrnod o wyliau, rhaid iddo roi dau ddiwrnod o rybudd i chi.
Efallai y bydd eich contract yn pennu gwahanol gyfnod rhybudd ac os felly, bydd hyn yn berthnasol fel arfer.
Gallai eich cyflogwr awgrymu i chi gymryd diwrnod o wyliau heb dâl os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd y tywydd garw. Fodd bynnag, oni bai fod hyn yn rhan o'ch contract cyflogaeth, ni all eich gorfodi i wneud hynny. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr gael eich caniatâd cyn tynnu arian o'ch tâl am absenoldeb heb dâl.
Gallech ddewis cytuno ar hyn gyda'ch cyflogwr. Fe allai fod yn fuddiol, er enghraifft, os mai'r dewis arall yw defnyddio diwrnod o'ch gwyliau cytundebol.
Os na allwch deithio i'r gwaith, efallai y bydd eich cyflogwr yn awgrymu eich bod yn gweithio'n hyblyg. Er enghraifft, gallai ofyn i chi weithio o gartref, neu weithio'r oriau yn nes ymlaen.
Os nad ydych chi eisoes yn gweithio'n hyblyg dan eich contract cyflogaeth, ni all eich cyflogwr eich gorfodi i weithio'n hyblyg. Fodd bynnag, gallech ddewis cytuno ar hyn gyda'ch cyflogwr.
Efallai eich bod yn methu mynd i'ch gwaith gan fod ysgol eich plentyn wedi cau neu am fod eich trefniadau gofal plant arferol ar chwâl oherwydd y tywydd. Yn yr achosion hyn, mae'n debygol bod gennych hawl i amser o'r gwaith i ofalu amdanynt.
Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu i chi am hyn.
Rhaid i'ch cyflogwr drin pob cyflogai a gweithiwr yn gyfartal. Os yw'ch cyflogwr yn cynnig absenoldeb heb dâl neu weithio hyblyg, dylai hyn fod ar gael i'r gweithwyr i gyd, p'un ai gweithwyr amser llawn ynteu ran-amser ydynt.
Os ydych chi'n weithiwr asiantaeth, dylech siarad â'ch asiantaeth gyflogaeth am eich hawliau.
Os yw eich gweithle ar gau oherwydd anhrefn ac nad ydych yn gweithio o gartref, fel arfer ni chaiff eich cyflogwr ddidynnu eich tâl – yn enwedig os ydych yn cael cyflog, neu os oes gennych oriau gwarantedig.
Llinell gymorth Acas
Ffoniwch Acas ar 08457 474 747
I gael cymorth am eich hawliau cyflogaeth yn ystod anhrefn teithio cysylltwch â llinell gymorth Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu). Maent yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar eich hawliau gwaith.