Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amser i hyfforddi: gofyn am amser yn y gwaith i ddysgu sgiliau newydd

Cawl gwybod am yr hawliau sydd gan gyflogeion i ofyn am amser i astudio neu i hyfforddi (gelwir hyn hefyd yn 'amser i hyfforddi'). Os ydych chi'n gymwys ar gyfer yr hawl a'ch bod am wneud cais, dylech ddilyn y camau sy'n cael eu hesbonio yn y tudalennau hyn.

Yr hawl i ofyn am 'amser i hyfforddi'

Os ydych chi'n gyflogai a'ch bod yn gweithio mewn sefydliad ac ynddo 250 neu ragor o gyflogeion, mae gennych hawl statudol (cyfreithiol) i ofyn am amser i astudio neu i hyfforddi. Gelwir yr amser hwn yn 'amser i hyfforddi'.

Does dim rhaid i chi ddefnyddio'r hawl ar gyfer pob cais i hyfforddi. Os oes gennych eisoes system gyda'ch cyflogwr ar gyfer gwneud ceisiadau am hyfforddiant, gallwch barhau i ddefnyddio'r system honno.

I wneud cais statudol am 'amser i hyfforddi' mae'n ofynnol eich bod:

  • yn weithiwr cyflogedig
  • wedi gweithio i'ch cyflogwyr yn ddi-dor am o leiaf 26 wythnos cyn gwneud cais

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais am 'amser i hyfforddi' os ydych:

  • yn weithiwr asiantaeth
  • yn aelod o’r lluoedd arfog
  • mewn oed ysgol gorfodol ('oed ysgol' yn yr Alban)
  • yn unigolyn ifanc sydd eisoes yn meddu ar yr hawl statudol i amser o'r gwaith â thâl i astudio neu i hyfforddi
  • yn 16-18 oed a bod disgwyl i chi gymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant yn barod

Mathau o hyfforddiant y gallwch wneud cais amdanynt

Dim ond ambell fath o hyfforddiant y mae gennych hawl i wneud cais am amser i'w gyflawni. Cyn i chi ystyried gwneud cais, dylech sicrhau bod gennych hawl i wneud cais am yr hyfforddiant yr ydych am ei ddilyn.

Gwneud eich cais

Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am 'amser i hyfforddi', mae yna amryw o bethau y dylech feddwl amdanynt. Yna, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol yn eich cais.

Trafod eich cais

Pan fyddwch wedi gwneud eich cais, bydd gan eich cyflogwr gyfrifoldebau penodol ynghylch sut i'w ystyried. Dylai wneud hyn o fewn cyfnod penodol a threfnu cyfarfod gyda chi os bydd am drafod eich cais.

Penderfyniad eich cyflogwr am eich cais

Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i ystyried eich cais. Rhaid iddo gael rheswm busnes da dros wrthod. Pan fydd wedi penderfynu, dylai ddilyn y broses gywir ar gyfer rhoi gwybod i chi beth ydyw.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Os nad ydych yn fodlon â phenderfyniad eich cyflogwr, ceir proses apelio y gallwch ei dilyn. Os ydych dal yn anfodlon ar ôl hynny, ceir camau pellach y gallwch eu cymryd. Fodd bynnag, mae bob amser yn syniad da datrys problemau gyda'ch cyflogwr mewn modd anffurfiol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU