Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd gan rai cyflogeion hawl newydd i wneud cais am ‘amser i hyfforddi’. Os byddwch yn gwneud cais, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ddilyn proses benodol ar gyfer ystyried eich cais a thrafod eich cais gyda chi. Yma, cewch wybod beth yw’r broses hon a pha hawliau sydd gennych chi wrth drafod eich cais.
Cyn pen 28 diwrnod o gael eich cais, mae’n rhaid i’ch cyflogwr naill ai:
Os yw’r unigolyn a fyddai fel arfer yn ystyried eich cais yn absennol o’r gwaith oherwydd gwyliau blynyddol neu salwch, caiff y cyfnod amser hwn ei ymestyn. Bydd y 28 diwrnod yn dechrau un ai:
Gall cyfyngiadau amser ar gyfer cynnal cyfarfodydd a hysbysu am benderfyniadau ynghylch ceisiadau ac apeliadau gael eu hymestyn gyda’ch cytundeb chi. Os digwydd hynny, mae’n rhaid i’ch cyflogwr wneud y canlynol:
Dylai eich cyflogwr drefnu unrhyw gyfarfod i drafod eich cais ar adeg ac mewn man sy'n gyfleus i bawb a fydd yn bresennol.
Gallwch ddod â chydweithiwr gyda chi i’r cyfarfod, a allai fod yn gynrychiolydd undeb llafur y gweithle sydd hefyd yn gweithio i’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr ganiatáu amser o'r gwaith, yn ystod oriau gwaith, i weithwyr fod yn gydymaith a sicrhau y cânt dâl am yr amser hwn.
Gall y cydymaith siarad â chi a siarad yn y cyfarfod, ond ni chaiff ateb cwestiynau heb drafod gyda chi.
Os na all eich cydymaith fynychu’r cyfarfod, gallwch gynnig amser newydd sy’n gyfleus i chi, i’ch cyflogwr ac i’ch cydymaith. Mae’n rhaid i gyfarfod a aildrefnir gael ei gynnal cyn pen saith niwrnod o'r diwrnod ar ôl i’r cyfarfod gwreiddiol gael ei ganslo.
Nid oes rhaid i’ch cyflogwr ganiatáu i chi ddod â rhywun gyda chi i’r cyfarfod os nad ydyw’n gweithio iddo. Fodd bynnag, os oes gennych chi anghenion arbennig a bod arnoch angen rhywun heblaw am gydweithiwr i ddod i'r cyfarfod, gallwch ofyn i'ch cyflogwr a fyddai hyn yn bosib, a bydd angen iddo ystyried hyn.
Dylech fod yn barod i drafod pob agwedd ar eich cais gyda’ch cyflogwr, gan gynnwys y canlynol:
Yn ystod y drafodaeth, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn awgrymu rhai opsiynau hyfforddi gwahanol neu rai ffyrdd gwahanol o fodloni eich anghenion hyfforddi. Dylech fod yn agored i drafod y syniadau hyn gyda'ch cyflogwr. Mae’n debygol y bydd eich cyflogwr hefyd am drafod sut y gellir darparu ar gyfer yr hyfforddiant (e.e. drwy weithio’n hyblyg) a chostau’r hyfforddiant.
Os oes gennych chi reswm da pam na allwch fynychu'r cyfarfod, dylech gysylltu â’ch cyflogwr cyn gynted â phosib ac esbonio pam. Bydd eich cyflogwr yn mynd ati i aildrefnu’r cyfarfod.
Os byddwch yn methu mynd i’r cyfarfod (neu gyfarfod apelio) ar fwy nag un achlysur heb eglurhad rhesymol, gall eich cyflogwr drin eich cais fel cais sydd wedi cael ei dynnu’n ôl.
Efallai y bydd amgylchiadau lle y bydd eich cyflogwr yn dymuno tynnu ei gefnogaeth ar gyfer eich hyfforddiant yn ôl. Er enghraifft, os cynhelir y cwrs hyfforddi dros gyfnod hir.
Dylech fod yn agored i drafod hyn gyda’ch cyflogwr yn eich cyfarfod ac ystyried cytuno ar amgylchiadau lle y gallai dynnu ei gefnogaeth yn ôl. Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn cadarnhau hyn yn ysgrifenedig wrth iddo dderbyn eich cais yn ysgrifenedig.