Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hyfforddiant y mae gennych yr hawl i ofyn amdano yn y gwaith

Mae gan rai gweithwyr yr hawl i ofyn am ‘amser i hyfforddi’. Yma, cewch wybod pa fath o hyfforddiant y gallwch ofyn amdano dan yr hawl newydd a beth fydd yn digwydd i’ch tâl yn ystod yr hyfforddi.

Hyfforddiant y gallwch ofyn amdano

Dan eich hawl am ‘amser i hyfforddi’, cewch ofyn am:

  • hyfforddiant sy’n arwain at gymhwyster
  • hyfforddiant i’ch helpu i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’ch swydd, i’ch gweithle neu i’ch busnes

Nid oes terfyn amser ar gyfer faint o amser y bydd yr astudio neu’r hyfforddi yn ei gymryd.

Y gofyniad pwysicaf yw y bydd yr hyfforddiant y mae arnoch ei eisiau yn helpu i wella perfformiad y busnes ac yn gwella eich effeithiolrwydd ym musnes eich cyflogwr.

Gallai’r hyfforddiant gynnwys:

  • hyfforddiant mewn maes sy’n perthyn yn uniongyrchol i’r math o waith rydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd
  • rhywbeth a fydd yn helpu eich datblygiad yn y busnes
  • rhywbeth a fydd yn eich helpu i ddatblygu mewn maes gwahanol

Er enghraifft, gallwch benderfynu bod angen i chi wella eich Saesneg gan mai eich ail iaith ydyw. Os bydd mynd i’r afael â hyn yn helpu eich perfformiad ym musnes eich cyflogwr, gallech ofyn am gael gwneud cwrs Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL).

Gallwch ofyn am gael hyfforddiant a gyflwynir mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft:

  • hyfforddiant yr ymgymerir ag ef yng ngweithle eich cyflogwr neu yn rhywle arall, gan gynnwys yn eich cartref, er enghraifft e-ddysgu
  • hyfforddiant a gyflwynir wrth i chi weithio neu ar wahân i’ch gwaith arferol, er enghraifft hyfforddiant mewn swydd
  • hyfforddiant a ddarperir neu a oruchwylir gan eich cyflogwr neu gan rywun arall, er enghraifft cwrs sy’n cael ei redeg gan goleg neu gan ddarparwr hyfforddiant arall
  • hyfforddiant gyda rhywun yn eich goruchwylio neu heb neb yn eich goruchwylio
  • hyfforddiant yn y DU neu y tu allan i’r DU

Gofyn am fwy nag un math o hyfforddiant

Gallwch ofyn am fwy nag un math o hyfforddiant yn yr un cais. Er enghraifft, mae’n bosib bod gennych rai anghenion llythrennedd sylfaenol ac ar ôl cael hyfforddiant ar gyfer yr anghenion hynny, rydych hefyd am ofyn am gwrs mewn maes arall. Gallwch ofyn am y ddau fath o hyfforddiant yn yr un cais a dylai eich cyflogwr ystyried y ddau.

Os ydych chi’n gofyn am fwy nag un math o hyfforddiant, dylech fod yn hyderus bod eich cais yn rhesymol. Er enghraifft, efallai y bydd yn anoddach i'ch cyflogwr dderbyn cais os ydych yn bwriadu treulio amser sylweddol yn hyfforddi. Bydd cais rhesymol sydd wedi’i ystyried yn ofalus yn fwy tebygol o gael ei dderbyn.

Talu am yr hyfforddiant

Nid oes yn rhaid i’ch cyflogwr dalu costau’r hyfforddiant (e.e. ffioedd dysgu). Fodd bynnag, os bydd yn sylweddoli manteision yr hyfforddiant i’w fusnes, efallai y bydd yn penderfynu talu amdano.

Pan fyddwch yn trafod eich cais gyda’ch cyflogwr, dylech fynegi’n glir a ydych chi’n gofyn i’ch cyflogwr dalu am yr hyfforddiant. Yna, gall eich cyflogwr drafod hyn gyda chi ac ystyried hyn ar yr un pryd â thrafod eich cais.

Cyflog yn ystod eich hyfforddiant

Mewn nifer o achosion, mae’n bosib y bydd cyflogwyr yn eich talu dros gyfnod yr hyfforddiant, ond nid yw’r hawl newydd yn gwneud hyn yn ofynnol.

Mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn cynnig y bydd eich cyfnod astudio neu hyfforddiant yn ddi-dâl, neu eich bod yn gweithio'n hyblyg er mwyn i chi weithio'r oriau y byddwch yn eu treulio'n hyfforddi. Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi newid eich contract cyflogaeth er mwyn adlewyrchu unrhyw drefniadau newydd.

Ceir rheolau gwahanol ar gyfer pan fydd amser hyfforddi yn cael ei drin fel amser gwaith at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Rheoliadau Amser Gwaith. Bydd angen i’ch cyflogwr ystyried y rhain wrth benderfynu sut y byddech yn neilltuo’ch amser hyfforddi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU