Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am ‘amser i hyfforddi’

Mae gan rai cyflogeion hawl newydd i wneud cais am ‘amser i hyfforddi’. Os ydych chi am wneud cais dan yr hawl hon, bydd y dudalen hon yn egluro’r broses a beth y dylech ei gynnwys.

Cyn gwneud eich cais

Cyn gwneud eich cais, mae’n bwysig:

  • bod yn bendant ei fod yn rhywbeth y mae arnoch eisiau ei wneud
  • penderfynu ar yr hyfforddiant y mae arnoch ei angen
  • ystyried y ffordd orau o fodloni’ch anghenion hyfforddi

Er enghraifft, os byddech yn hoffi cael eich hyfforddi gan ddarparwr allanol neu goleg, bydd amseriad eich cais yn bwysig er mwyn gallu cofrestru cyn y dyddiadau cau.

Dylech wneud eich cais mewn da bryd cyn i chi wneud cais am gwrs mewn coleg neu sefydliad tebyg. Bydd hyn yn rhoi amser i chi a'ch cyflogwr allu trafod y cais a bydd yn eich helpu i benderfynu a fydd gennych chi ddigon o amser i fynychu'r cwrs. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi gytuno ar amser o’r gwaith gyda’ch cyflogwr neu newid eich oriau gwaith cyn i chi ddechrau.

Nid yw’r hawl newydd yn newid yn awtomatig unrhyw drefniadau sydd gennych eisoes gyda’ch cyflogwr ynghylch talu cyflog wrth i chi hyfforddi a thalu costau ffioedd y cwrs. Mae’r rhain yn bethau pwysig y mae’n bosib y bydd angen i chi eu pwyso a’u mesur yn ofalus pan fyddwch yn penderfynu pa hyfforddiant y dylech wneud cais amdano. Eich cyfrifoldeb chi yw dod i gytundeb â’ch cyflogwr ynghylch sut i dalu unrhyw gostau.

Fel arfer, dim ond un cais gennych mewn cyfnod o 12 mis y bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ei ystyried. Os byddwch yn gwneud mwy nag un cais, mae’n bosib na fydd yn rhaid i’ch cyflogwr eu hystyried.

Sut i wneud cais a beth i’w gynnwys

Llwytho ein llythyr cais templed

Defnyddiwch ein llythyr templed i’ch helpu i ysgrifennu eich cais

Mae’n rhaid i’ch cais fod yn ysgrifenedig (ar bapur neu'n electronig) ac mae'n rhaid i chi nodi'r dyddiad arno. Mae’n bosib y bydd gan eich cyflogwr ei ffurflen ei hun y gallech ei defnyddio.

Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys y manylion canlynol:

  • y ffaith ei fod yn gais dan ‘Adran 63D Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996’
  • pwnc yr astudiaeth neu’r hyfforddiant
  • ymhle y byddai’r astudio neu’r hyfforddi’n digwydd a phryd
  • pwy fyddai’n darparu neu’n goruchwylio’r astudio neu’r hyfforddi (er enghraifft, darparwr hyfforddiant, neu rywun yn y gwaith yn goruchwylio hyfforddiant mewn swydd)
  • enw’r cymhwyster y bydd yr hyfforddiant yn arwain ato (os bydd yn arwain at gymhwyster o gwbl)
  • eglurhad o sut rydych chi’n meddwl y bydd yr astudio neu’r hyfforddi’n eich gwneud yn fwy effeithiol yn y gwaith a sut y bydd yn gwella perfformiad busnes eich cyflogwr
  • a ydych chi wedi gwneud cais blaenorol ai peidio, ac os ydych chi wedi gwneud un, y dyddiad y gwnaed y cais ac a gafodd y cais ei anfon at eich cyflogwr drwy'r post ynteu dros yr e-bost

Os na fyddwch yn cynnwys yr wybodaeth uchod i gyd, ni fydd eich cais yn ddilys. Os digwydd hynny, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi na fydd yn ystyried eich cais a pha wybodaeth sydd ar goll. Ni fydd yn rhaid i chi aros blwyddyn er mwyn cyflwyno cais newydd.

I helpu’ch cyflogwr i ystyried eich cais, ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib am gostau tebygol yr hyfforddiant, er enghraifft unrhyw ffioedd dysgu. Lle byddwch yn cynnig hyfforddi mewn swydd, ac felly nad ydych yn gwybod beth fydd y costau, dylech wneud hyn yn glir yn eich cais.

Gallwch lwytho ein llythyr templed i’ch helpu i lunio’ch cais ac i wneud yn siŵr y byddwch yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol drwy ddilyn y ddolen isod.

Cymorth wrth wneud eich cais

Gallwch gael cyngor ynghylch hyfforddi gan amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys eich Cynrychiolydd Dysgu Undeb Llafur neu gynrychiolwyr cyflogeion eraill yn y gweithle.

Yn Lloegr, gallwch hefyd gael cymorth gan eich asiantaeth nextstep leol, neu dros y ffôn gan y gwasanaeth Careers Advice ar 0800 100 900.

Yng Nghymru, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Sgiliau Busnes ar 0845 60 661 60, neu anfon e-bost at:

info@skillspeoplesuccess.com

Yn yr Alban, gallwch gysylltu â Careers Scotland ar 0845 8502 502.

Diwygio cais ar ôl i chi ei gyflwyno

Ni allwch ddiwygio eich cais ar ôl i chi ei roi i’ch cyflogwr. Fodd bynnag, yn ystod eich cyfarfod i drafod eich cais, gallech chi a’ch cyflogwr godi newidiadau posib a dod i gytundeb gwahanol wrth benderfynu ar eich cais.

Tynnu cais yn ôl cyn i’ch cyflogwr ei ystyried

Byddwch yn gallu tynnu eich cais yn ôl cyn i’ch cyflogwr ei ystyried. Dylech ond dynnu cais yn ôl os nad ydych bellach yn dymuno gwneud yr hyfforddiant. Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl, mae’n debyg na fyddwch yn gallu gwneud cais arall am 12 mis.

Os byddwch yn penderfynu tynnu eich cais yn ôl, dylech roi gwybod i’ch cyflogwr cyn gynted â phosib, er mwyn iddo beidio â gwastraffu ei amser yn ystyried eich cais yn ddiangen.

Gallwch lwytho ein llythyr templed ar gyfer tynnu eich cais yn ôl drwy ddilyn y ddolen isod.

Gofyn i’ch cyflogwr anwybyddu cais

Gallwch ofyn i’ch cyflogwr anwybyddu cais a wnaethoch os yw un o’r canlynol yn wir:

  • gwnaethoch gamgymeriad a gwnaethoch gais yn rhy gynnar ar ôl eich cais diwethaf (bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr am eich camgymeriad pan fyddwch yn gwneud eich cais nesaf a dweud bod arnoch eisiau tynnu'r cais y gwnaethoch ei gyflwyno'n rhy gynnar yn ôl)
  • nid yw eich hyfforddiant yn digwydd gan ei fod wedi cael ei ganslo (oni bai mai chi oedd yn gyfrifol am y canslo)
  • ni allwch fynd i gael eich hyfforddi oherwydd argyfwng neu oherwydd bod rhywbeth wedi digwydd sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth chi

Bydd gofyn i’ch cyflogwr anwybyddu cais yn yr achosion hyn yn golygu y gallwch wneud cais arall. Bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ystyried y cais hyd yn oed os oes llai na 12 mis ers i chi gyflwyno’ch cais diwethaf.

Allweddumynediad llywodraeth y DU