Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan rhai gweithwyr hawl newydd i ofyn am ‘amser i hyfforddi’. Yma, cewch wybod beth fydd eich cyflogwr yn ei ystyried wrth wneud penderfyniad ynghylch eich cais a sut y mae'n rhaid iddo roi gwybod i chi am ei benderfyniad.
Os bydd eich cyflogwr yn cytuno i’ch cais, bydd yn rhaid iddo amlinellu’r canlynol ar bapur:
Dylech gadw copi o’r llythyr hwn.
Gall eich cyflogwr benderfynu cytuno ag un rhan o’ch cais a gwrthod rhan arall. Er enghraifft, os ydych chi wedi gofyn am fwy nag un math o hyfforddiant. Yn yr achosion hyn, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr ysgrifennu atoch gan nodi'r pwyntiau uchod i gyd a chynnwys y canlynol:
Gallwch chi a’ch cyflogwr gytuno ar fath gwahanol o hyfforddiant sydd heb ei gynnwys yn y cais gwreiddiol neu ar fodloni'ch anghenion hyfforddi mewn ffordd wahanol. Bydd ar eich cyflogwr angen eich cytundeb ysgrifenedig ar gyfer y newid hwn. Yna, dylai ysgrifennu atoch gan nodi'r holl bwyntiau a amlinellwyd yn yr adran uchod am 'Geisiadau am 'amser i hyfforddi' sy'n cael eu derbyn'.
Gall eich cyflogwr wrthod eich cais am un neu ragor o’r rhesymau canlynol:
Pan fydd yn ystyried eich cais, dylai eich cyflogwr sicrhau nad yw’n gwahaniaethu yn eich erbyn.
Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich cais, bydd yn rhaid iddo ysgrifennu atoch gan nodi pa rai o'r rhesymau uchod sy'n berthnasol a pham. Dylai egluro’n gywir, mewn modd perthnasol, y ffeithiau allweddol ynglŷn â pham bod y rheswm hwn yn berthnasol yn eich achos chi.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig, mewn llythyr â’r dyddiad arno, os ydych chi'n gwneud y canlynol:
Os na fyddwch yn mynychu’r hyfforddiant y gwnaethoch gytuno arno heb roi gwybod i’ch cyflogwr, gallai gymryd camau disgyblu yn eich erbyn.
Os byddwch yn newid eich meddwl ynghylch mynychu'r hyfforddiant ar ôl i'ch cyflogwr gytuno i'ch cais, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr.