Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch ‘amser i hyfforddi’

Os byddwch yn gwneud cais am hyfforddiant dan eich hawl gyfreithiol a’ch cyflogwr yn gwrthod y cais, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Ceir camau penodol y mae’n rhaid i chi eu cymryd wrth apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch ‘amser i hyfforddi’. Yma, cewch wybod beth yw’r camau hyn a beth yw cyfrifoldebau eich cyflogwr.

Apelio

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch ‘amser i hyfforddi’ ar unrhyw sail. Os byddwch yn penderfynu apelio, bydd yn rhaid i chi wneud hynny cyn pen 14 diwrnod o benderfyniad eich cyflogwr. Mae'n ofynnol bod eich apêl:

  • yn ysgrifenedig
  • yn cynnwys y dyddiad
  • yn nodi pam eich bod yn apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr (eich rheswm dros apelio)

Os ydych yn bwriadu apelio, gallwch lwytho ein llythyr templed i’ch helpu i strwythuro’ch rheswm dros apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr.

Cyfarfod apelio

Bydd yn rhaid i’ch cyflogwr drefnu cyfarfod gyda chi i drafod eich apêl o fewn 14 diwrnod ers i chi anfon yr apêl ato.

Yn dilyn y cyfarfod, bydd yn rhaid i’ch cyflogwr roi gwybod i chi’n ysgrifenedig beth yw ei benderfyniad ynghylch eich apêl cyn pen 14 diwrnod.

Mae’r un rheolau’n berthnasol i’r cyfarfod hwn â’r rheolau ar gyfer eich cyfarfod cyntaf i drafod eich cais gyda’ch cyflogwr. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch yr erthygl ‘Trafod eich cais am ‘amser i hyfforddi’.

Datrys problemau gyda’ch cyflogwr

Os na fydd yr apêl yn datrys eich problem, ceisiwch roi cynnig ar ffyrdd anffurfiol eraill o ddatrys y broblem. Siaradwch â’ch cyflogwr am eich problem. Er enghraifft, os na fydd rheolwr yn ymateb i’ch cais cyn diwedd y terfyn amser, holwch eich cyflogwr ynghylch y rheswm dros hyn, efallai mai dim ond esgeulustod oedd yr achos.

Gallech ddefnyddio ‘cymodwr trydydd parti’, e.e. Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi, a Chyflafareddu) i drafod y broblem.

Os nad yw’n bosib datrys eich problem mewn modd anffurfiol, yna mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi gwyno wrth eich cyflogwr.

Cwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth

Os ydych wedi ceisio datrys eich problem mewn ffyrdd eraill, mae’n bosib y gallech wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth os bydd eich cyflogwr:

  • yn peidio â dilyn y weithdrefn yn briodol
  • yn gwrthod eich cais ar sail ffeithiau anghywir

Bydd angen i chi wneud hawliad Tribiwnlys Cyflogaeth cyn pen tri mis, oni bai fod gennych chi resymau da pam nad yw hyn yn rhesymol ymarferol.

Mae’n bosib y bydd Acas yn gallu cynnig ei wasanaeth ‘cymodi cyn hawlio’ cyn i chi gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Beth i’w wneud os cewch eich trin yn annheg neu eich diswyddo

Mae’r gyfraith yn eich gwarchod rhag cael eich diswyddo neu eich trin yn annheg oherwydd:

  • eich bod wedi gwneud cais am ‘amser i hyfforddi’
  • bod eich cais am ‘amser i hyfforddi’ wedi cael ei ganiatáu
  • eich bod wedi cwyno ynglŷn â’r hawl i wneud cais am ‘amser i hyfforddi’

Mae cael eich trin yn annheg yn cynnwys, er enghraifft, eich cyflogwr yn gwrthod rhoi dyrchafiad neu hyfforddiant i chi oherwydd hyn.

Os digwydd hyn, mae’n bosib y bydd gennych hawl i gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU