Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion

Bydd gennych, mewn llawer o achosion, hawl i gymryd amser o'r gwaith i ddelio gydag argyfwng sy'n ymwneud â rhywun sy'n dibynnu arnoch (gelwir hyn weithiau'n absenoldeb tosturiol). Ni chaiff eich cyflogwr eich cosbi am gymryd amser i ffwrdd, cyn belled â bod gennych resymau dilys dros yr absenoldeb

Eich hawl i amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion

Os ydych yn 'gyflogai', mae gennych hawl i amser o'r gwaith yn ddi-dâl i ddelio gydag argyfyngau sy'n ymwneud â 'dibynnydd' - sef gŵr, gwraig, partner, plentyn neu riant, neu unrhyw un sy'n byw yn eich cartref fel aelod o'r teulu. Gall dibynydd hefyd fod yn unrhyw un sydd, o fewn rheswm, yn dibynnu arnoch am gymorth mewn argyfwng, er enghraifft, cymydog mewn oed sy'n byw ar ei ben ei hun ac sy'n disgyn ac yn torri ei goes ac mai chi yw'r agosaf wrth law.

Edrychwch ar eich contract, yn eich datganiad cyflogaeth ysgrifenedig neu yn llawlyfr y cwmni am fanylion y polisi ar amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion ac absenoldeb tosturiol.

Beth sy'n cyfrif fel argyfwng?

Gallai argyfwng fod yn unrhyw broblem annisgwyl neu sydyn sy'n ymwneud â rhywun sy'n ddibynnol ar eich cymorth neu'ch gofal. Gallech gael hawl i amser i ffwrdd ar gyfer dibynyddion mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau, ond ceir isod enghreifftiau o rai o'r sefyllfaoedd mwyaf cyffredin lle gallech fod â'r hawl i gymryd amser o'r gwaith:

Os bydd dibynydd yn mynd yn sâl

Yn y sefyllfa hon nid oes rhaid i'r salwch na'r anaf fod yn ddifrifol nac yn rhai a allai beryglu bywyd yr unigolyn, a gallant fod yn feddyliol neu'n gorfforol. Gallai'r salwch neu'r anaf fod yn ganlyniad i gyflwr presennol sydd wedi gwaethygu. Er enghraifft, efallai fod y dibynnydd yn dioddef chwalfa nerfol ond nad oes angen gofal amser llawn arnynt, ond efallai y bydd adegau pan fydd eu cyflwr yn gwaethygu a bod angen i chithau gymryd amser o'r gwaith yn annisgwyl.

Gallech hefyd gymryd amser o'r gwaith i wneud trefniadau gofal tymor hwy ar gyfer y dibynnydd.

Os bydd dibynnydd wedi cael ei anafu neu os bydd rhywun wedi ymosod arno/arni

Byddai gennych hefyd hawl i gymryd amser o'r gwaith petai rhywun yn ymosod ar y dibynnydd, neu'n dioddef digwyddiad tebyg, ac nad yw wedi cael niwed corfforol ond bod angen i chi gymryd amser o'r gwaith i'w gysuro neu i'w helpu. Gallech hefyd gymryd amser o'r gwaith i wneud trefniadau gofal tymor hwy ar gyfer y dibynnydd.

Pan fydd dibynnydd yn cael babi

Nid yw hyn yn cynnwys cymryd amser o'r gwaith ar ôl i'r babi gael ei eni i ofalu am y plentyn - efallai y bydd gennych hawl i absenoldeb tadolaeth neu riant at y diben hwn.

I ddelio gyda tharfu annisgwyl neu lwyr ar drefniadau gofalu am ddibynnydd

Er enghraifft, os nad yw gwarchodwr plant neu nyrs yn cyrraedd mewn pryd, neu os yw'r feithrinfa neu'r cartref gofal yn gorfod cau yn annisgwyl.

I ddelio gyda digwyddiad annisgwyl sy’n effeithio ar eich plentyn yn ystod oriau ysgol

Er enghraifft, os yw'ch plentyn wedi bod yn ymladd, wedi cael loes, wedi cael anaf ar drip ysgol neu'n cael ei wahardd o'r ysgol.

I ddelio gyda marwolaeth dibynnydd

Pan fydd dibynnydd yn marw, yn ogystal â chael amser o'r gwaith i fynd i'r angladd, cewch hefyd amser o'r gwaith i wneud y trefniadau ar gyfer yr angladd. Os yw'r angladd yn cael ei gynnal dramor bydd angen i chi gytuno ar gyfnod rhesymol o absenoldeb gyda'ch cyflogwr.

Cymryd amser i fwrdd ar gyfer dibynyddion

Rhoi gwybod i'ch cyflogwr am gymryd amser o'r gwaith

Cewch amser o'r gwaith ni waeth beth yw hyd eich gwasanaeth. Dylech roi gwybod i'ch cyflogwr cyn gynted ag y gallwch os bydd angen amser i ffwrdd arnoch, er nad oes raid i chi wneud hynny ar bapur na darparu tystiolaeth.

Os byddwch yn dychwelyd i'r gwaith cyn cael y cyfle i gysylltu â'ch cyflogwr, bydd dal yn rhaid i chi ddweud wrthynt pam eich bod yn absennol.

Faint o amser y cewch ei gymryd o'r gwaith

Mae gennych hawl i gael amser 'rhesymol' o'r gwaith i ddelio gyda'r argyfwng ac i wneud unrhyw drefniadau sy'n angenrheidiol. Does dim cyfnod penodol o amser ar gyfer delio gyda digwyddiad annisgwyl sy'n ymwneud â pherson dibynnol - bydd yn amrywio yn dibynnu ar y digwyddiad, ond yn y rhan fwyaf o achosion dylai un neu ddau ddiwrnod fod yn ddigon i ddelio gyda'r broblem.

Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn sâl, cewch gymryd digon o amser i ddelio gyda'u hanghenion cychwynnol, fel mynd â nhw at y meddyg neu drefnu gofal iddynt. Fodd bynnag, bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os ydych chi am aros o'r gwaith am gyfnod hwy er mwyn gofalu amdanynt eich hun.

Os yw'r ddau riant yn dymuno cymryd amser o'r gwaith ar gyfer dibynnydd dylech ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth drafod y sefyllfa gyda'ch cyflogwr. Efallai y bydd angen i'r ddau riant gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith os yw'ch plentyn wedi cael damwain ddifrifol, ond mae'n annhebygol y bydd angen os nad yw gwarchodwr y plentyn ymddangos.

Nid oes terfyn ar yr adegau y cewch gymryd amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion, dim ond ei fod yn digwydd ar gyfer argyfyngau gwirioneddol. Os ydy'ch cyflogwr yn teimlo eich bod yn cymryd mwy o amser o'r gwaith nag y gall ymdopi ag ef, dylai eich rhybuddio o hyn.

Os bydd angen i chi fod o'r gwaith am gyfnod hwy nag yr oeddech wedi'i ddisgwyl, cysylltwch â'ch cyflogwr cyn gynted ag y bo modd i roi gwybod iddo/i pam a thua faint o amser y bydd ei angen arnoch. Ceisiwch roi'r manylion hyn iddynt ar bapur cyn gynted ag y bo modd. Efallai bod gan eich cyflogwr ffurflen y bydd angen i chi ei llenwi.

Cael eich talu am amser o'r gwaith

Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu i chi am amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion ond efallai y bydd yn fodlon gwneud. Gallwch edrych ar eich contract cyflogaeth i weld a oes polisi am hyn ynddo.

Tarfu cyn lleied â phosibl ar y gwaith

Ceisiwch darfu cyn lleied ag y bo modd ar eich cyflogwr. Er enghraifft, os yw gofalwr dydd eich mam yn rhoi'r gorau i'w waith yn ddirybudd, ceisiwch gael aelod arall o'r teulu i ofalu amdani yn eich lle chi er mwyn i chi gael mynd i chwilio am ofalwr arall

Pan nad yw'r hawl yn berthnasol

Problemau nad ydynt yn ymwneud â dibynnydd

Does dim hawl gennych i gael amser o'r gwaith ar gyfer pob problem. Nid yw boeler sy'n torri yn y cartref neu broblemau gyda'ch ci yn berthnasol gan nad ydynt yn ymwneud â pherson dibynnol.

Nid yw amser o'r gwaith i ofalu am bobl nad ydynt yn ddibynnol arnoch (mynd gyda ffrind i'r ysbyty er enghraifft) yn berthnasol. Gall eich cyflogwr barhau i roi amser o'r gwaith i chi os yw'n dymuno gwneud hynny neu efallai y gallech gymryd rhywfaint o'ch gwyliau swyddogol. Os bydd yn digwydd yn gyson, efallai y byddai'n fwy defnyddiol defnyddio trefn weithio hyblyg.

Pan fyddwch yn gwybod am y broblem ymlaen llaw

Os oeddech chi'n gwybod am y digwyddiad ymlaen llaw, ni fydd yr hawl yn berthnasol oherwydd mae'n rhaid iddo fod yn argyfwng. Er enghraifft, os oes arnoch chi eisiau amser o'r gwaith i fynd â'ch plentyn i'r ysbyty ymhen wythnos, nid yw'r hawl yn berthnasol, er y bydd modd i chi gymryd absenoldeb rhiant yn lle hynny.

Absenoldeb tosturiol

Os oes angen amser o'r gwaith arnoch i ymdopi â digwyddiad nad yw'n dod o fewn cwmpas yr hawl 'amser o'r gwaith ar gyfer dibynyddion', efallai y bydd gennych hawl i amser o'r gwaith fel rhan o'ch contract cyflogaeth. Bydd gan lawer o gyflogwyr gynllun ar gyfer absenoldeb tosturiol a dylai fod y manylion wedi'u cynnwys yn eich contract neu yn llawlyfr y cwmni. Os nad yw'r sefyllfa yn dod o dan unrhyw gynllun, gallwch dal ofyn i'ch cyflogwr am gael amser o'r gwaith, er nad oes rhaid iddynt gytuno i'ch cais.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Mae'n annheg gwrthod amser rhesymol o'r gwaith i ddelio gyda digwyddiad annisgwyl sy'n ymwneud â pherson dibynnol. Mae hefyd yn annheg eich diswyddo neu eich cosbi, e.e. peidio â rhoi dyrchafiad neu hyfforddiant i chi.

Os cewch eich diswyddo, eich cosbi neu os caiff eich swydd ei dileu oherwydd yr hawl, neu os bydd eich cyflogwr yn gwrthod rhoi amser rhesymol o'r gwaith i chi, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth. Os bydd eich cwyn yn llwyddiannus, efallai y gallant wneud gorchymyn i chi gael iawndal, cael eich ailgyflogi neu eich ailsefydlu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU