Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n mynd i fod yn dad, neu os byddwch chi, yn ogystal â’r fam, yn gyfrifol am fagu plentyn, gallech fod â'r hawl i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol Arferol. Yma, cewch wybod beth y mae gennych hawl iddo.
Gallwch gael cymorth personol i gael gwybod beth yr ydych yn gymwys i’w gael drwy ddefnyddio'r adnodd ar-lein – hawliau tadolaeth yn y gwaith. Bydd yr adnodd hwn yn rhoi datganiad personol i chi o’r Absenoldeb a’r Tâl Tadolaeth Arferol y gallech fod yn gymwys i’w cael.
Mae gan rai cyflogwyr eu trefniadau absenoldeb tadolaeth eu hunain, sy’n fwy hael na’r hawl statudol. Bydd y rhain fel arfer yn cael eu cynnwys yn eich contract cyflogaeth. Bydd hefyd modd i chi ddewis y trefniant Absenoldeb Tadolaeth Statudol (Arferol ac Ychwanegol) os yw hyn yn gweddu’n well i chi, a’ch bod yn gymwys i’w gael.
Nid oes gennych hawl gyfreithiol i gael amser o’r gwaith er mwyn mynd gyda’ch partner i apwyntiadau cyn geni. Mae’r hawl i gael amser o’r gwaith gyda thâl yn berthnasol i gyflogeion beichiog yn unig. Fodd bynnag, mae nifer o gwmnïau’n sylweddoli bod hwn yn gyfnod pwysig ac yn gadael i gyflogeion gymryd amser o’r gwaith gyda thâl, neu wneud iawn am yr amser yn nes ymlaen.
I fod yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol, rhaid i chi fod yn gyflogai. Rhaid i chi fod yn cymryd yr amser o’r gwaith i gefnogi’r fam neu ofalwr y babi, gyda’r bwriad o fod yn rhan lawn o’i fagwraeth. Mae'r hawl i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol ar ben eich lwfans gwyliau arferol.
Er mwyn bod yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol, rhaid i chi fod wedi bod gyda’ch cyflogwr ers o leiaf 26 wythnos erbyn un ai:
Rhaid eich bod hefyd naill ai:
Os mai gweithiwr ydych chi, ni fyddwch yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol ond fe allech fod yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol Arferol.
Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth, yn ddeilydd swydd neu’n is-gontractiwr, ni fydd gennych yr hawl i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol fel arfer. Fodd bynnag, fe allech fod yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol Arferol.
Telir y Tâl Tadolaeth Statudol Arferol am hyd at ddwy wythnos yn olynol, yn dibynnu ar am ba hyd y dewiswch gymryd Absenoldeb Tadolaeth Arferol.
Os na fyddwch chi'n gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol, mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn barod i roi rhywfaint o amser i chi o'r gwaith neu fe allech chi gymryd gwyliau gyda thâl.
Os byddwch chi’n gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol ond nid Tâl Tadolaeth Statudol Arferol, gallech fod yn gymwys i gael cymhorthdal incwm yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Arferol.
Cyn belled â'ch bod yn bodloni amodau penodol, cewch gymryd naill ai wythnos neu bythefnos o Absenoldeb Tadolaeth Arferol. Chewch chi ddim cymryd diwrnodau yma ac acw, ac os byddwch chi'n dewis cymryd dwy wythnos, rhaid i chi eu cymryd gyda'i gilydd.
Mae wythnos yn seiliedig ar eich patrwm gweithio arferol. Felly os mai dim ond ar ddydd Llun a dydd Mawrth y byddwch yn gweithio, byddai wythnos yn ddau ddiwrnod, neu os ydych chi'n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, byddai wythnos yn bum diwrnod.
I fod yn gymwys i gael Absenoldeb Tadolaeth Arferol, rhaid i chi roi gwybod i'ch cyflogwr:
Rhaid i chi roi’r cyfnod rhybudd cywir i'ch cyflogwr. Dylech roi gwybod iddynt ar bapur un ai:
Ffordd syml o roi rhybudd yw llenwi 'hunan-dystysgrif'. Gallwch lwytho ffurflen SC3 'Dod yn rhiant', oddi ar y we, ac mae honno'r un fath â hunan-dystysgrif.
Gall eich Absenoldeb Tadolaeth Arferol ddechrau ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos (ond ddim cyn i’r babi gael ei eni). Rhaid iddo ddod i ben o fewn 56 diwrnod ar ôl i’r babi gael ei eni. Os caiff y babi ei eni cyn yr wythnos y disgwylid iddo gael ei eni, rhaid i’r cyfnod absenoldeb ddod i ben o fewn 56 diwrnod i ddiwrnod cyntaf yr wythnos honno. Gallwch ddechrau Absenoldeb Tadolaeth Arferol ar ôl i gyfnod absenoldeb rhiant ddod i ben.
Os bydd eich partner yn feichiog gyda mwy nag un babi (gefeilliaid er enghraifft), dim ond un cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth Arferol gewch chi.
Dylech roi gwybod ar bapur i'ch cyflogwr am ddyddiad yr enedigaeth neu ddyddiad y mabwysiadu, os bydd eich cyflogwr yn gofyn am hynny. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi roi unrhyw dystiolaeth feddygol o’r beichiogrwydd na'r enedigaeth i'ch cyflogwr er mwyn hawlio Absenoldeb neu Dâl Tadolaeth Arferol.
Os na allwch chi roi'r cyfnod rhybudd llawn i’ch cyflogwr am reswm dilys, dylech roi cymaint o rybudd ag y bo modd. Er enghraifft, os yw’r babi’n cael ei eni’n fuan neu os nad yw’r asiantaeth fabwysiadu yn rhoi digon o rybudd i chi, mae hyn yn cyfrif fel rheswm dilys.
Efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys os byddwch chi’n bodloni’r amodau eraill, neu os byddech chi wedi eu bodloni pe na bai’ch babi wedi cael ei eni'n fuan. Os nad oes rheswm dilys (e.e. eich bod wedi anghofio) byddwch chi'n colli'ch hawl.
Cewch newid y dyddiad y bydd eich Absenoldeb Tadolaeth Arferol yn dechrau, ar yr amod eich bod yn rhoi 28 diwrnod o rybudd.
Os disgwylir i’ch babi gael ei eni ar 3 Ebrill 2011 neu ar ôl hynny, efallai y bydd gennych chi’r hawl i gymryd hyd at 26 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol. Bydd hyn ar ben eich hawl i gael pythefnos o Absenoldeb Tadolaeth Arferol.
Byddwch yn dal i allu cymryd Absenoldeb Tadolaeth Arferol os yw eich plentyn yn cael ei eni’n farw-anedig ar ôl 24 wythnos neu os yw’n cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd.
Os byddwch chi’n wynebu problem yn ystod eich Absenoldeb Tadolaeth Arferol, siaradwch â’ch cyflogwr yn gyntaf – efallai mai dim ond camddealltwriaeth syml ydyw. Os na fydd hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn gan ddilyn trefn gwyno eich cyflogwr.