Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall eich statws cyflogaeth

Deall eich statws cyflogaeth yw’r cam cyntaf at ganfod pa hawliau a gwarchodaeth sydd gennych yn y gwaith. Mae’r erthygl hon yn egluro beth yw ystyr ‘statws cyflogaeth’, pam ei fod yn bwysig, ac yn rhoi disgrifiad cryno o’r tri gwahanol fath o statws cyflogaeth er mwyn i chi allu deall yn well pa un sy'n berthnasol i chi.

Mathau o statws cyflogaeth

Ceir tri phrif fath o statws cyflogaeth:

  • cyflogai
  • gweithiwr
  • hunangyflogedig

I gael mwy o wybodaeth am hawliau cyflogaeth pob statws, darllenwch yr erthygl ‘Mathau o statws cyflogaeth’.

Pam mae eich statws cyflogaeth yn bwysig

Mae gan bob math o statws cyflogaeth hawliau cyfreithiol gwahanol, felly mae’n bwysig gwybod i ba gategori rydych chi’n perthyn. Bydd eich hawliau yn y gwaith yn seiliedig ar eich statws cyflogaeth.

Mae statws cyflogaeth yn wahanol i'ch patrwm gweithio. Felly, yn ogystal a bod yn ‘gyflogai’ neu'n ‘weithiwr’, efallai fod un neu ragor o'r termau canlynol yn disgrifio'ch trefniadau gweithio:

  • rhan-amser
  • cyfnod penodol
  • contractwr
  • ymgynghorydd
  • achlysurol
  • heb oriau penodedig
  • tymhorol
  • asiantaeth neu dros dro
  • deiliad swydd
  • gwirfoddolwr

Bydd eich statws cyflogaeth yn dibynnu ar amrywiol ffactorau. Er enghraifft, er bod gennych gontract sy'n eich disgrifio fel ‘cyflogai’ neu ‘hunangyflogedig’, nid yw hynny’n golygu mai dyna yw eich statws cyflogaeth.

Os ydych chi’n ansicr ynghylch eich statws cyflogaeth, darllenwch yr erthyglau eraill yn yr adran hon. Maent yn egluro rhai o’r pwyntiau sy’n helpu i bennu statws cyflogaeth, ac yn cynnwys sefyllfaoedd enghreifftiol i’ch helpu i benderfynu a ydynt yn berthnasol i chi.

Penderfyniadau Tribiwnlys Cyflogaeth ynghylch eich statws cyflogaeth

Yn y pen draw, dim ond llys neu Dribiwnlys Cyflogaeth all wneud penderfyniad terfynol ynghylch eich statws cyflogaeth. Byddant yn seilio'u penderfyniad ar amryw o ffactorau gwahanol, yn unol â phrofion cyfreithiol a ddatblygwyd drwy gyfraith achos.

Bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn edrych ar sut mae perthynas gyflogaeth yn gweithio’n ymarferol er mwyn pennu eich statws cyflogaeth. Byddant yn edrych ar y canlynol:

  • a oes rhaid i chi ymgymryd â’r gwaith eich hun, yn hytrach nag anfon dirprwy i wneud y gwaith neu is-gontractio'r gwaith
  • a oes gan eich darparwr gwaith reolaeth sylweddol drosoch, neu hawl i gael rheolaeth drosoch
  • a ydych yn cael cyflog rheolaidd
  • a yw’ch cyflogwr neu’ch darparwr gwaith yn didynnu treth ac Yswiriant Gwladol (yn hytrach nag eich bod chi’n gyfrifol am wneud y taliadau hyn)
  • a ydych yn cael tâl gwyliau, tâl salwch, tâl mamolaeth ac ati
  • a ydych yn gweithio yn eiddo'ch cyflogwr ac yn defnyddio offer a/neu gyfleusterau'ch cyflogwr
  • a ydych wedi’ch integreiddio yn y busnes (er enghraifft, a ydych yn ymddangos yn siart drefniadaethol y cwmni, ac yn atebol i drefniadau disgyblu a chwyno'r cwmni)
  • a ydych yn wynebu unrhyw risg ariannol neu’n cael unrhyw fudd ariannol, er enghraifft bonysau, yn dibynnu ar ba mor gyflym neu ba mor dda y cyflawnir y gwaith
  • a ydych yn gweithio i un busnes yn unig yn hytrach na chyflawni gwaith i amryw o ‘gwsmeriaid’
  • a oes gennych gontract cyflogaeth neu unrhyw ddogfennau contract eraill, e.e. llythyr penodi, sy'n eich disgrifio fel cyflogai (gelwir hefyd yn ddatganiad o gydfwriad)

Gan amlaf, os ydych chi'n hunangyflogedig at ddibenion treth, byddwch yn ‘hunangyflogedig’ at ddibenion hawliau cyflogaeth. Fod bynnag, os ydych chi'n hunangyflogedig at ddibenion treth, ni fydd hynny'n atal Tribiwnlys Cyflogaeth rhag datgan eich bod yn ‘gyflogai’ neu'n ‘weithiwr’ at ddibenion cyfraith cyflogaeth. Nid yw Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rhwym wrth benderfyniadau Cyllid a Thollau EM..

Allweddumynediad llywodraeth y DU